Rhif PIN Cerdyn Aber
Mae’n rhaid cael rhif PIN fel mesur diogelwch i atal defnydd anawdurdodedig o Gardiau Aber sydd wedi mynd ar goll neu wedi cael eu dwyn.
Byddwch angen eich rhif PIN pan fyddwch yn defnyddio eich Cerdyn Aber gyda’r peiriannau hunan-fenthyca yn y Llyfrgelloedd
Bydd eich rhif PIN yn cael ei e-bostio atoch ar ôl i’ch Cerdyn Aber gael ei argraffu.
Os ydych chi’n anghofio eich rhif PIN gallwch weld beth ydyw drwy FyNghyfrif
'Gallwch newid eich rhif PIN Cerdyn Aber drwy FyNghyfrif