Newyddion a Digwyddiadau

Am y diweddaraf am systemau a gwasanaethau'r Brifysgol, ewch i Statws Gwasanaethau PA

Archebu Ystafelloedd Astudio yn y Llyfrgell a'r Weithfan

23/03/2026

P'un a oes angen lle tawel ar gyfer adolygu, ystafell ar gyfer gwaith grwp, neu le i ymarfer cyflwyniadau, galli di sicrhau lle astudio ymlaen llaw. Archeba ystafell astudio yn uniongyrchol trwy dy galendr Outlook.

Pam mae'n ddefnyddiol

  • Trefnu dy amser Archeba’r ystafell sydd ei heisiau arnat ti ar adeg sy'n addas iti hyd at wythnos ymlaen llaw.
  • I’r dim ar gyfer gwaith grwp Gwna yn siwr bod pawb yn gwybod ble a phryd i gyfarfod ac yn derbyn nodyn atgoffa calendr!
  • Hawdd i'w defnyddio Archebu ar-lein ar dy ffôn neu dy gyfrifiadur.

Sut i archebu lle: https://faqs.aber.ac.uk/cy/9512

Oriau agor dros y Pasg a chyfnod yr arholiadau Llyfrgell Hugh Owen

18/03/2026

Bydd oriau agor Llyfrgell Hugh Owen yn newid dros yr wythnosau nesaf, ond bydd Lefel D (llawr gwaelod) yn parhau ar agor 24/7 trwy gydol yr amser.

Dydd Sadwrn 28 Mawrth - Dydd Iau 2 Ebrill 
08:30 - 20:00 (Lefel D ar agor 24/7)

Dydd Gwener 3 Ebrill - Dydd Mawrth 7 Ebrill
Lefel D ar agor 24/7. Pob llawr arall ar gau. Dim gwasanaethau wedi'u staffio

Dydd Mercher 8 Ebrill - Dydd Gwener 17 Ebrill
08:30 - 20:00 (Lefel D ar agor 24/7)

Dydd Sadwrn 18 Ebrill - Dydd Sadwrn 25 Ebrill
08:30- 22:00 (Level D ar agor 24/7)

Dydd Sul 26 Ebrill - Dydd Iau 28 Mai
Pob llawr ar agor 24/7 Gwasanaethau wedi'u staffio 08:30- 22:00

Gwiriwch oriau agor y llyfrgelloedd ar ein calendar

Helpwch ni i lunio'ch llefydd chi

17/03/2026

Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol 

Llenwch ein harolwg byr a rhowch wybod inni beth sydd ei angen arnoch o'r gofod a'r adnoddau yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.

Cwblhewch yr arolwg yn awr: https://forms.office.com/e/Gvs1n17qDZ

Dyddiad cau 10 Ebrill 2026

Amserlen Arholiadau Terfynol - Semester 2

23/03/2026

Mae amserlen arholiadau terfynol ar gyfer semester 2 ar gael ar y wefan amserlennu: https://ow.ly/a6GI50Qanas

Cynhadledd Fer ar Niwroamrywiaeth: Cyhoeddi'r Rhaglen

24/03/2026

Mae’r rhaglen ar gyfer ein cynhadledd fer ar niwroamrywiaeth wedi'i chyhoeddi. Fe’i cynhelir wyneb yn wyneb ar ddydd Mawrth 14 Ebrill ac mae gennym nifer o gyflwyniadau a gweithdai. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, gweler ein blogbost.

Sesiynau Addysg Ddigidol sydd ar ddod

23/03/2026

Mis Ebrill

14/04 Cynhadledd fach: Niwrowahaniaeth Mini-Conference: Neurodiversity (Wyneb yn wyneb)

Amserau/archebu

Sesiynau galw-heibio mathemateg ac ystadegau

28/01/2026

Eisiau ychydig o help ac arweiniad ar gwestiwn mathemateg neu ystadegau?

Ymwelwch â’r sesiwn galw-heibio wythnosol (yn ystod tymor):

  • Dydd Iau
  • 10:00-13:00
  • Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen (drws nesaf i’r man gwerthu)

Gallwch hefyd anfon e-bost i maths-help@aber.ac.uk gyda'ch ymholiad os na allwch wneud y sesiwn galw-heibio.

Enillwyr Gwobr Cwrs Eithriadol 2025-26

17/03/2026

Llongyfarchiadau i gydweithwyr o adrannau Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu am eu llwyddiant yn y Wobr Cwrs Eithriadol yn ddiweddar.  Gweler ein blog am ragor o wybodaeth.    

Cyfeirnodi cywir

11/02/2026

Mae sgiliau cyfeirnodi yn rhan bwysig a hanfodol o ysgrifennu academaidd. Eisiau cymorth 1:1 gyda chyfeirnodi? Cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc a bwciwch apwyntiad i fynd drwy bopeth sydd angen i chi wybod am gyfeirnodi: https://www.aber.ac.uk/cy/library/help/librarians/

Dysgwch sut i gyfeirnodi pob ffynhonnell rydych yn ei defnyddio'n gywir, a deall beth yw canlyniadau methu â’u cydnabod. Ymwelwch â'r Canllaw Cyfeirnodi: https://libguides.aber.ac.uk/cyfeirnodi

Galwad am Gynigion: 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr, 8-10 Medi 2026

10/03/2026

Derbynnir cynigion ar gyfer 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr (8-10 Medi 2026), ac mae modd archebu lle nawr.

Gweler ein blog am thema'r gynhadledd a'r ddolen i'r ffurflen archebu.  

Angen gwybodaeth cryno am wahanol sgiliau?

10/03/2026

Cofiwch - rydych chi eisoes wedi cofrestru yn y Sefydliad SgiliauAber / AberSkills yn Blackboard: Content / SgiliauAber / AberSkills

Cymerwch funud i bori drwy’r deunyddiau addysgu gweithdai sydd ar gael yno. Maen nhw’n llawn canllawiau bach hawdd eu dilyn i’ch helpu i wella eich sgiliau—p’un a ydych yn ailddysgu hanfodion y llyfrgell neu’n trio rhywbeth newydd. Os ydych chi’n chwilio am grynodeb syml o’r pethau pwysica’, dyma’r lle i fynd!

Dathlu Mis Hanes Menywod trwy gydol mis Mawrth

05/03/2026

Beth am dreulio peth amser yn ystod Mis Hanes Menywod eleni yn cofio ac yn dysgu am yr holl fenywod sydd wedi helpu i lunio’r byd sydd ohoni?

Dewch i bori ein casgliad o lyfrau

??Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen

Dysgwch ragor am Fis Hanes Menywod yma:Women’s History Month 2026

Eisiau gwella'ch sgiliau astudio'r semester hwn?

19/01/2026

Darganfyddwch pa sesiynau sgiliau sy’n digwydd a bwciwch eich lle yma: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/skills-workshops/

Peidiwch â cholli allan! Tanysgrifiwch i’n e-bost wythnosol i gadw’n gyfredol gyda’r gweithdai sydd ar gael i chi: tanysgrifiwch yma.