Theatr Covent Garden, Llundain
Llyfr Arian, Medi 1757 – Hydref 1758: Theatr Covent Garden, Llundain
Roedd John Powell, un o berchnogion Theatr gyntaf Covent Garden, yn un o hynafiaid George Powell. Roedd George Powell yn ymddiddori mewn casglu llofnodion actorion ar gyfer ei gasgliad sy’n cynnwys llythyrau oddi wrth Charles ac Ellen Kean a’r actores drasig Frengig, Madame Rachel. Cafodd afael hefyd ar lyfr cownt 1745 Theatr Drury Lane.
Agorwyd theatr Covent Garden yn 1732 ac fe’i hailadeiladwyd yn 1809 a 1858. Dyma gofnod o’r cyfrifon ar gyfer rhan o Ragfyr 1757. Mae tri o’r bobl a grybwyllir o ddiddordeb arbennig: John Rich (1682? – 1761) oedd rheolwr cyntaf theatr Covent Garden; ystyrid Spranger Barry (1719-77) gan rai o’i gyfoeswyr yn well actor trasig na hyd yn oed Garrick; ac roedd Giovanni Gallini (1728-1805) yn un o ddawnswyr enwocaf ei oes.
