Mary Frere: Old Deccan Days
Mary Frere: Old Deccan Days, Llundain, 1870
Aeth Mary Frere (1845-1911) i Bombay yn 1863. Casglodd chwedlau gwerin India drwy gyfrwng un o’i gwasanaethyddion a chyhoeddodd bedwar ar hugain ohonynt yn Old Deccan Days. Mae copi o’r ail argraffiad i’w weld yma. Atgynhyrchodd yn dra gofalus ddull llafar y storïau gwreiddiol. Dyma’r llyfr cyntaf o chwedlau gwerin Indiaidd a gasglwyd yn y maes. Yn sgîl ei boblogrwydd mawr ymhlith Eingl-Indiaid rhoddodd gryn symbyliad i’r astudiaeth ddifrif o lên gwerin.
