A C Swinburne: ‘An appeal to England’
A C Swinburne: ‘An appeal to England’
Dyma’r unig un o lawysgrifau Swinburne, ar wahân i’w lythrau at George Powell, sydd ym meddiant Llyfrgell y Coleg. Ysgogwyd y gerdd gan ddienyddiad tri Ffeniad am ladd swyddog o’r heddlu ym mis Tachwedd 1867 ac mae’n annog Lloegr i fod yn drugarog wrth ymdrin ag Iwerddon. Mae’n gydnaws â cherddi eraill y cyfnod hwn pan oedd Swinburne â’i holl fryd ar y syniad o ryddid ac iawnderau. Ymddangosodd yn y Morning Star ac ar ffurf taflen a phamffled cyn ymddangos yn ei Songs before Sunrise yn 1871.
Parhaodd cyfeillgarwch Swinburne a George Powell o 1865 hyd farwolaeth Powell yn 1882. Am rai blynyddoedd bu Swinburne a Powell yn cyfarfod yn aml. Cyflwynodd Powell y Legends of Iceland,1866, i Swinburne a’r Arglwydd Dufferin. Ymwelodd Swinburne â Powell yng Nghymru ac yn Etretat yn Normandi. Tra yn Etretat, cafodd Swinburne ddihangfa gyfyng rhag boddi tra’n nofio gyda Powell; gwelodd Guy de Maupassant yr anffawd a gwnaeth ddeunydd ohono yn un o’i storïau, ‘L’anglais d’Etretat’ ac ysbrydolwyd cerdd Swinburne ‘Ex voto’ gan y digwyddiad. Roedd Swinburne yn cael Powell yn ffrind defnyddiol ac mae ei lythyrau iddo yn cynnwys apeliadau am gymorth gyda phethau bob dydd megis dod o hyd i lety newydd, talu biliau, symud ei eiddo a byddai’n anfon adolygiadau o’w waith iddo fel y byddent yn ymddangos.
Pan fu Powell farw yn 1882, bu Swinburne yn galaru’n ddiffuant ar ei ôl. Mae tair cerdd yn A century of roundels (1883) yn dwyn i gôf gyfeillgarwch y ddau ddyn.



