A C Swinburne, Atalanta in Calydon, Llundain 1865
A C Swinburne, Atalanta in Calydon, Llundain 1865
Y gerdd hon oedd y gyntaf o gerddi Swinburne i ddod yn wir adnabyddus. Tynnodd lawer o sylw yn sgîl ei chyfuniad o fydrau anghyffredin a oedd yn deillio i raddau o Roeg Glasurol, ac oherwydd ei delweddau a’i hiaith rymus. Syfrdanwyd llawer o bobl oes Fictoria gan y cytgan gyda’i gyfeiriad difloesgni at ‘y goruchaf anfad Dduw’; gorchuddiodd Christina Rossetti y geiriau yn ei chopi hi gyda stribed o bapur trwchus.
Ar ôl darllen y gerdd, ysgrifennodd Powell at Swinburne a dyna sut y dechreuodd eu cyfeillgarwch. Rhoddwyd y copi o Atlanta a welir yma i Powell gan Swinburne.
