Blog Sgiliau Digidol
Bwriad y Blog Sgiliau Digidol yw cyflwyno’r newyddion diweddaraf am y cyfleoedd a’r datblygiadau gan y Tîm Sgiliau Digidol i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Gallwch chi hefyd danysgrifio i’r blog er mwyn derbyn hysbysiadau drwy e-bost am gyhoeddiadau newydd ar y blog.
Datblygwch eich hyder digidol yn y Caffi Sgiliau Digidol
A hoffech chi deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio offer digidol ar gyfer eich astudiaethau a thu hwnt? Dewch draw i’r Caffi Sgiliau Digidol, ein gwasanaeth galw heibio wythnosol newydd i’ch helpu i feithrin eich sgiliau digidol drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. P’un a oes gennych gwestiwn penodol, neu ddim yn siŵr ble i […]
Eich Aseiniad Cyntaf
Ydych chi wedi cael eich aseiniad cyntaf? Rhwng 19 a 23 Hydref, byddwn yn rhannu cyngor, adnoddau a digwyddiadau i’ch helpu i ddechrau arni. Byddwn yn eich tywys trwy bob cam o’r broses, o ddeall briff yr aseiniad a dod o hyd i’r wybodaeth gywir i gynllunio, ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith yn hyderus. Ac […]
Datblygwch eich sgiliau digidol bob wythnos gyda’n TipiauDigi newydd! TipDigi 1 – Llyfrnodi eich hoff dudalennau gwe 🔖
Bob wythnos byddwn yn postio TipDigi defnyddiol i’ch helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg. I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! Ydych chi eisiau gallu dod o hyd i’r union dudalen we rydych chi’n […]
TipDigidol 79 – Ticiwch eich Tasgau gyda Blychau Ticio Microsoft Excel ✅
Gall Excel fod yn ffordd wych o gynllunio, amserlennu a chadw golwg ar bethau fel cyllidebau neu dasgau prosiect. Ond oeddech chi’n gwybod y gallwch chi fewnosod blychau ticio yn eich taenlen fel y gallwch chi wirio’ch gwaith yn hawdd. I wneud hyn, ewch i mewnosod > blwch ticio. I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog […]
TipDigidol 78 – Shhhh gyda Microsoft Teams ‘Oriau Tawel’ 🤫
Os ydych chi’n cael trafferth cydbwyso bywyd a gwaith, gall TipDigidol 78 helpu. Oeddech chi’n gwybod y gallwch osod ‘oriau tawel’ ar ap ffôn Microsoft Teams fel nad ydych chi’n derbyn hysbysiadau y tu allan i’ch oriau gwaith. Ar yr ap, ewch i Notifications > Block Notifications > Block during quiet hours. Gallwch osod yr […]
TipDigidol 77 – Meistrolwch bwyntiau bwled gyda Alt + Shift + Saeth! 🟣
Addaswch eich ardal nodiadau PowerPoint gyda ThipDigidol 77. Mewn unrhyw ddogfen PowerPoint gallwch ddewis cynnwys nodiadau cyflwynydd, dim ond chi fydd yn gweld y nodiadau hyn. Yn yr ardal hon gallwch ddyrchafu a darostwng pwyntiau bwled yn hawdd trwy ddefnyddio’r llwybr byr Alt + Shift + Saeth. Edrychwch ar y fideo byr isod am arddangosiad […]
TipDigidol 76 – Newid eich tudalen yn OneNote 🎨
Personoli’ch OneNote trwy newid lliw y cefndiroedd gyda ThipDigidol 76. P’un ai i leihau straen ar y llygaid neu yn syml i addasu’r llyfrau nodiadau fel yr hoffech, gallwch newid lliw cefndir eich tudalennau OneNote yn hawdd. Ewch i View > Page Colour a dewiswch eich lliw! I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. […]
TipDigidol 75 – Dileu Dyblygiadau! ❌
Os ydych chi’n gweithio yn Excel a dim ond eisiau cyfrif digwyddiadau unigryw, neu os ydych chi eisiau ffordd gyflym o ddileu pob enghraifft o ddyblygu, bydd TipDigidol 75 yn datrys eich problem! Oeddech chi’n gwybod y gallwch ddileu pob dyblygiad yn awtomatig yn syml trwy ddefnyddio’r swyddogaeth Data > Dileu Dyblygu. Bydd hyn yn […]
TipDigidol 74 – Cod am ddim gyda freeCodeCamp > 💻
Yn cyflwyno Free Code Camp gyda ThipDigidol 74! Os oes gennych ddiddordeb mewn codio ac yr hoffech ddilyn cyrsiau am ddim, freeCodeCamp yw’r adnodd i chi. Cyfres o gyrsiau codio am ddim i helpu i ddatblygu eich sgiliau mewn amrywiaeth o ieithoedd codio gan gynnwys python, Java a mwy. I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog […]
TipDigidol 73 – Pŵer wrth Ailstrwythuro’ch Traethawd ↕️
Wrth ysgrifennu traethawd, ydych chi erioed wedi sylwi nad yw llif y traethawd yn gweithio’n iawn? Mae TipDigidol 73 ar eich cyfer chi! O fewn Microsoft Word gallwch symud paragraffau cyfan i fyny neu i lawr trwy ddefnyddio’r llwybr byr Alt + Shift + saethau i fyny / i lawr. Edrychwch ar y fideo byr […]
