Adnodd Darganfod Digidol
Beth yw e?
Adnodd a gefnogir gan Jisc yw’r Adnodd Darganfod Digidol sy’n galluogi defnyddwyr i wirio eu hyfedredd a’u hyder mewn chwe maes gwahanol o sgiliau digidol. Mae'r adnodd yn cynnwys cyfres o gwestiynau sy'n cymryd tua 25 munud i'w cwblhau. Ar ôl hynny, bydd defnyddwyr yn cael adroddiad personol a fydd yn amlinellu eu hyder a'u hyfedredd presennol mewn sgiliau digidol, yn ogystal ag arweiniad ar yr hyn y gallant ei wneud i ddatblygu ymhellach.
Gellir defnyddio’r adnodd sawl gwaith fel y gall defnyddwyr olrhain eu cynnydd a gweld canlyniadau pendant o ran sut maent wedi gwella yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ar gyfer pwy mae e?
Mae'r Adnodd Darganfod Digidol ar gyfer yr holl staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gan yr Adnodd wahanol setiau o gwestiynau wedi'u teilwra i'ch helpu i nodi pa sgiliau sydd eu hangen arnoch a sut i ddatblygu eich hyder wrth ddefnyddio technolegau digidol yn eich bywyd bob dydd.
Sut ydw i'n ei ddefnyddio? (Myfyrwyr)
Sut ydw i'n ei ddefnyddio? (Staff)
Polisi Data
Y Camau Nesaf
Bydd rhan o'ch adroddiad o'r Adnodd Darganfod Digidol yn ymdrin â pha gamau y gallech eu cymryd nesaf i adeiladu ar eich sgiliau presennol a datblygu hyder mewn meysydd nad ydych yn siŵr ohonynt.
Yn ogystal â hyn, mae gan Brifysgol Aberystwyth amrywiaeth o adnoddau a gwasanaethau i'ch helpu i feithrin sgiliau digidol i'ch helpu gyda'ch astudiaethau a'ch profiad yn y gweithle.
