Caffi Sgiliau Digidol

Mae’r Caffi Sgiliau Digidol yn wasanaeth galw heibio wythnosol i fyfyrwyr lle gallwch gael arweiniad ar sut i ddatblygu eich sgiliau digidol yn ystod eich amser yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n cael ei gynnal ddwywaith yr wythnos wrth y ddesg galw heibio ar lawr D yn Llyfrgell Hugh Owen, gallwch ddod o hyd i'r ddesg wrth y fynedfa i’r grisiau. 

Beth allwch chi edrych arno yn y Caffi Sgiliau Digidol?

  1. Ar gyfer eich datblygiad digidol - Trafodaeth dan arweiniad o'ch adroddiad Adnodd Darganfod Digidol, gydag argymhellion ar gyfer pa gymorth ac adnoddau sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth
  2. Ar gyfer eich astudiaethau - Cefnogaeth gydag aseiniad, prosiect neu dasg astudio, gan eich helpu i ddewis yr offer digidol cywir a symud ymlaen yn hyderus
  3. Ar gyfer eich dyfodol - Trafodaeth ar ba sgiliau y gallech fod eu hangen, sut i'w datblygu a sut i'w cyflwyno yn eich ceisiadau am swyddi neu astudiaethau pellach

Pryd?

O 7 Hydref 2026 yn ystod y tymor:

Dydd Mercher 13.30-15.30

Dydd Gwener 10.30-12.30

Dewislen Caffi

Dewislen Gwasanaethau Caffi Sgiliau Digidol - PDF

Digital Skills Café Service Menu - PDF