Llyfrgell Ysgogiadau DA
Mae’r Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol wedi cynhyrchu Llyfrgell Ysgogiadau DA.
Mae'r ysgogiadau hyn yn rhoi rhai syniadau i chi ynghylch sut y gallech chi ddefnyddio DA Cynhyrchiol mewn ffordd foesegol a chyfrifol.
Wrth gwrs, nid oes disgwyliad eich bod chi'n defnyddio DA – gweler ein blogbost diweddar ar Beth os nad ydw i eisiau defnyddio DA?
Mae ein canllaw wedi’i rannu i’r adrannau canlynol:
- Cyngor ar gyfer dylunio ysgogiad gyda DA Cynhyrchiol
- Llyfrgell Ysgogiadau i Fyfyrwyr a Llyfrgellwyr Pwnc
- Llyfrgell Ysgogiadau i Staff
- Gweithgareddau Cyffredinol
- Gweithgareddau dysgu ac addysgu
- Ymchwil
Os ydych chi'n defnyddio ysgogiad yn eich astudiaethau neu waith yr hoffech ei rannu, cysylltwch â ni ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Byddem wrth ein bodd yn ei gynnwys yn ein Llyfrgell Ysgogiadau DA.
Cyngor ar gyfer dylunio ysgogiad gyda DA Cynhyrchiol
Mae ansawdd yr allbwn a geir gan DA Cynhyrchiol yn dibynnu ar yr ysgogiad a ddarperir.
Rydym yn argymell eich bod chi'n treulio rhywfaint o amser yn meddwl am ysgogiad cyn i chi ei roi i mewn i DA Cynhyrchiol.
Isod ceir saith awgrym a syniad ar sut i fireinio'ch ysgogiad i wneud yn siŵr eich bod chi'n manteisio i’r eithaf arno:
- Byddwch yn glir ac yn benodol
Meddyliwch am yr hyn rydych chi'n ceisio ei wneud a byddwch mor benodol â phosibl i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael yr allbwn gorau posibl. Os ydych chi'n defnyddio DA Cynhyrchiol i gynhyrchu syniadau, byddwch yn glir ynghylch pa syniadau rydych chi eu heisiau a’r syniadau nad ydych chi eu heisiau.
- Gosodwch y cyd-destun
Rhowch rywfaint o gyd-destun gyda'ch ysgogiad – er enghraifft, rhowch gefndir i'r broblem rydych chi'n ceisio ei datrys. Rhowch gefndir ychwanegol i'ch ysgogiad.
- Diffiniwch y fformat
Pa allbwn ydych chi ei eisiau o'ch ysgogiad? A yw'n rhestr neu'n gynllun prosiect? A yw'n grynodeb? Faint o bwyntiau ydych chi am i'ch allbwn ei gael? Beth yw’r cyfanswm geiriau yr hoffech? Os yw'n ddelwedd, nodwch y fformat.
- Defnyddiwch gyfarwyddiadau rôl
Rhowch rôl i'r ysgogiad. Er enghraifft, fel swyddog y wasg, rhowch grynodeb o ddatganiad i'r wasg i mi ar gyfer y gynhadledd addysg a phrofiad y myfyrwyr. Nodwch yn glir ar gyfer pwy mae’r ysgogiad i helpu i gynhyrchu'r naws gywir o'ch allbwn. Efallai yr hoffech chi feddwl am ddefnyddio DA Cynhyrchiol i greu allbwn mwy cynhwysol a hygyrch.
- Mireiniwch yr awgrymiadau
Peidiwch â bodloni ar yr allbwn cyntaf y mae DA Cynhyrchiol yn ei ddarparu i chi; defnyddiwch y nodweddion mireinio ar waelod allbwn yr ysgogiad i fireinio ymhellach a chynhyrchu’r allbwn yr ydych chi'n chwilio amdano.
- Defnyddiwch enghreifftiau
Rhowch enghreifftiau o allbynnau da neu strwythurau cynnwys rydych chi am i'r allbwn alinio â nhw.
- Cadwch yn foesegol
Gan fod allbynnau DA cynhyrchiol yn seiliedig ar fodelau iaith mawr, cynhyrchir rhagfarnau. Anogwch herio'r rhagfarnau hyn yn yr ysgogiadau rydych chi'n eu darparu. Er enghraifft, os ydych chi'n trafod nyrsys, defnyddiwch y rhagenwau fe / ei. Os ydych chi'n trafod macanyddion, defnyddiwch y rhagenwau hi / ei.
Ysgogiadau yn y Gymraeg
Nid yw ysgogiadau wedi’u cyfieithu o'r Saesneg i ieithoedd eraill yn cynhyrchu'r un allbynnau â'r ysgogiadau Saesneg gwreiddiol. Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod ysgogiadau Saesneg yn aml yn cynhyrchu allbynnau mwy cywir a chynhwysfawr na'r un ysgogiad wedi'i gyfieithu i iaith arall. Mae hyn yn cynnwys ieithoedd adnodd uchel – ieithoedd gyda llawer o siaradwyr sydd â phresenoldeb mawr ar y rhyngrwyd – ac ieithoedd adnodd isel – ieithoedd â phresenoldeb llawer llai ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, mae allbynnau mewn ieithoedd heblaw Saesneg yn gwella wrth i fodelau DA wella. Mae rhai modelau yn perfformio'n well mewn ieithoedd adnodd isel nag eraill.
Mae'n bosibl ysgogi modelau DA yn Saesneg a gofyn i'r allbwn fod mewn iaith wahanol. Fodd bynnag, canfu un astudiaeth fod hyn yn cynhyrchu allbynnau a oedd â diffyg cywirdeb sylweddol nag ysgrifennu'r ysgogiad yn yr un iaith â'r allbwn, hyd yn oed ar gyfer ieithoedd adnodd uchel (Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg). Hynny yw, mae ysgrifennu ysgogiad yn Saesneg a gofyn am yr allbwn yn Almaeneg yn cynhyrchu allbwn llai cywir nag ysgrifennu ysgogiad yn Almaeneg a chael allbwn Almaeneg yn awtomatig.
Mae'r Gymraeg yn iaith adnodd isel. Nid oes llawer o ymchwil wedi bod ar saernïo ysgogiadau mewn ieithoedd adnodd isel i wella allbynnau DA. Fodd bynnag, yn ogystal â'r awgrymiadau cyffredinol uchod, gall y strategaethau canlynol fod yn ddefnyddiol:
- Os ydych chi eisiau allbwn yn Gymraeg, efallai y bydd ysgogiad yn Gymraeg yn darparu allbwn mwy cywir
- Gall gofyn am allbynnau mewn iaith syml wella cywirdeb ieithyddol – er enghraifft, osgoi geiriau rhith-weld sy'n ymddangos pan nad yw'r model yn gallu dod o hyd i'r gair cywir ac yn llenwi'r bwlch trwy greu gair. Fodd bynnag, bydd gan allbynnau o'r fath lai o ddyfnder.
- Os yw allbwn yn cynnwys gair sy'n anghyfarwydd, rhowch ysgogiad dilynol yn gofyn i'r model chwilio am ddiffiniadau geiriadur a / neu dystiolaeth o'i ddefnydd. Os nad oes diffiniadau geiriadur yn bodoli, mae'n debygol bod y gair yn rhithwelediad, er y bydd y model yn parhau i honni ei fod yn bodoli.
- Efallai y bydd angen i chi fod yn fwy penodol yn y Gymraeg er mwyn cael yr hyn rydych chi ei eisiau – er enghraifft, drwy nodi a hoffech i'r model ddefnyddio ffynonellau Cymraeg a Saesneg neu drwy nodi'r cyd-destun diwylliannol.
- Os ydych chi'n cynhyrchu allbynnau lle byddai'n ddefnyddiol eu cael yn Gymraeg a Saesneg, megis allweddeiriau, nodwch yr hoffech gael yr allbynnau yn y ddwy iaith. (Bydd rhai modelau a phynciau yn cynhyrchu allbynnau dwyieithog, ond nid pob un).
- Os ydych chi eisiau defnyddio cyfieithu peirianyddol â chymorth DA, peidiwch â defnyddio sgwrsfot megis ChatGPT neu Microsoft Co-Pilot. Mae adnoddau cyfieithu DA penodol megis Microsoft Translate neu Google Translate yn fwy cywir.
Llyfrgell Ysgogiadau i Fyfyrwyr a Llyfrgellwyr Pwnc
Llyfrgell ysgogiadau hyblyg a yrrir gan egwyddor, sy'n gweithio ar draws y rhan fwyaf o offer DA, gan gefnogi dysgu myfyrwyr, meddwl beirniadol, ac uniondeb academaidd.
1. Athroniaeth Graidd
Ysgogiadau a Yrrir gan Egwyddor
Dylai ysgogiadau ganolbwyntio ar yr hyn y mae angen i lyfrgellwyr a myfyrwyr ei gyflawni (e.e. gwerthuso ffynonellau, adeiladu strategaethau chwilio), yn hytrach na sut mae adnodd DA penodol yn gweithredu.
Mae'r dull hwn yn sicrhau hirhoedledd, addasrwydd, ac aliniad ag egwyddorion llythrennedd gwybodaeth.
Addaswyr Lefel Myfyriwr
Efallai y bydd angen addasu ysgogiadau gan ddibynnu ar y lefel academaidd:
- Israddedig – esboniad sylfaenol, enghreifftiau gydag arweiniad, iaith hygyrch
- Uwchraddedigion a Addysgir – dadansoddiad dyfnach a mwy o ffocws ar ddulliau
- PhD – meddwl beirniadol uwch a gwybodaeth arbenigol am y pwnc
Addaswyr Hygyrchedd
Dylid ystyried addaswyr ar gyfer myfyrwyr ag anghenion hygyrchedd hefyd, er enghraifft:
- Darparu fersiynau iaith eglur
- Lleihau llwyth gwybyddol
- Ychwanegu strwythurau cam wrth gam ar gyfer dysgwyr niwrowahanol
2. Enghreifftiau o achosion penodol i’w defnyddio ar gyfer ysgogiadau
Gellir defnyddio ysgogiadau i helpu llyfrgellwyr neu fyfyrwyr:
- Gwerthuso adnoddau
- Cynhyrchu termau chwilio
- Gwirio am ragfarn
- Darparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch
3. Mesurau diogelu (i'w cynnwys ym mhob ysgogiad)
Er mwyn hyrwyddo defnydd diogel, cyfrifol o DA mewn cyd-destunau academaidd, gallai ysgogiadau gynnwys:
- Ymwadiad yn erbyn ffugio dyfyniadau
- Cyfarwyddiadau ar gyfer croeswirio gydag adnoddau llyfrgell
- Cymal ymwybyddiaeth o ragfarn
Rhai ymadroddion a argymhellir:
- "Peidiwch â ffugio dyfyniadau. Os nad ydych yn siŵr, dywedwch hynny."
- "Dyfynnwch ffynonellau go iawn, dilys yn unig."
- "Awgrymwch sut y gall y defnyddiwr wirio eich honiadau gan ddefnyddio adnoddau llyfrgell."
- "Tynnwch sylw at unrhyw ragdybiaethau neu gyfyngiadau yn eich ymateb."
4. Ysgogiadau Craidd
Isod ceir rhai ysgogiadau enghreifftiol sy’n barod i'w torri a'u gludo.
Gwerthuso ffynhonnell gan ddefnyddio fframweithiau beirniadol
"Gwerthuswch pa mor gredadwy yw’r ffynhonnell yma [Linc] gan ddefnyddio fframwaith megis CRAAP. Esboniwch eich rhesymoli cam wrth gam. Peidiwch â dyfeisio ffeithiau am y ffynhonnell; seiliwch eich sylwadau ar yr hyn a ddarperir."
Cymharu Ffynonellau Ysgolheigaidd â Ffynonellau nad ydynt yn Ysgolheigaidd
"Esboniwch y gwahaniaethau rhwng ffynonellau ysgolheigaidd, proffesiynol a phoblogaidd i fyfyrwyr ym maes [disgyblaeth]. Darparwch ddangosyddion y gallant eu defnyddio i werthuso pob math. Osgowch ddarparu enghreifftiau ffug."
Cynhyrchu Allweddeiriau Chwilio a Chyfystyron
"Cynhyrchwch gyfres o dermau chwilio, cyfystyron, ac allweddeiriau cysylltiedig ar gyfer y pwnc: [mewnosod pwnc]. Trefnwch hwy i themâu neu grwpiau cysyniadol. Peidiwch â chreu dyfyniadau; cadwch y ffocws ar derminoleg."
Esbonio Adolygu gan Gymheiriaid i Fyfyrwyr
"Esboniwch y broses adolygu gan gymheiriaid i fyfyriwr israddedig blwyddyn un mewn iaith glir a hygyrch. Dylech chi gynnwys pam mae’n bwysig, ei chyfyngiadau, a sut mae gwirio a yw ffynhonnell wedi’i hadolygu gan gymheiriaid. Osgowch enghreifftiau sy’n cynnwys cyfnodolion ffug. Peidiwch â chynnwys termau rydych chi wedi'u creu."
Darparu Canllawiau ar Uniondeb Academaidd
"Esboniwch sut y gall myfyrwyr gynnal uniondeb academaidd wrth ddefnyddio offer DA cynhyrchiol. Cofiwch gynnwys arfer da, risgiau a strategaethau ar gyfer gwirio gwybodaeth. Peidiwch â rhoi cyngor a fyddai'n galluogi llên-ladrad."
Helpu myfyrwyr i ddeall 'Beth sy'n Cyfrif fel Ffynhonnell'
"Esboniwch pa fath o ffynonellau sy’n addas ar gyfer gwaith academaidd ym maes [maes]. Cynhwyswch ffynonellau cynradd, eilaidd a thrydyddol. Peidiwch â chreu gwaith neu awduron penodol. Peidiwch â chreu termau."
Trosi Cwestiwn Myfyriwr yn Gysyniad Chwiliadwy
"Helpwch i drosi’r cwestiwn myfyriwr yma yn set o gysyniadau chwiliadwy: Gwerthuswch a dadansoddwch yn feirniadol yr erthygl cyfnodolyn canlynol."
Awgrymu Ffyrdd o Wirio Cynnwys a Gynhyrchir gan DA
"Darparwch ffyrdd y gall myfyrwyr wirio honiadau wedi’u cynhyrchu gan offer deallusrwydd artiffisial wrth wneud ymchwil academaidd. Cynhwyswch strategaethau defnyddio adnoddau llyfrgell, gwerthuso beirniadol a croeswirio gyda ffynonellau dibynadwy."
Deall Rhagfarn a Safbwynt mewn Ffynonellau
"Esboniwch sut mae adnabod tuedd neu safbwynt mewn ffynonellau academaidd ac anacademaidd Rhowch sawl enghraifft o arwyddion heb ddyfeisio erthyglau penodol. Peidiwch â chreu termau."
5. Ysgogiadau i Fyfyrwyr ag Anghenion Hygyrchedd
Ailysgrifennu mewn Iaith Eglur
"Ail-ysgrifennwch y testun canlynol mewn iaith glir, hawdd i’w deall wrth gadw’r ystyr gwreiddiol. Torrwch brawddegau cymhleth yn gamau byrrach a thynnwch unrhyw jargon diangen. Uwcholeuwch unrhyw dermau a allai angen rhagor o esbonio."
Canllaw Cam wrth Gam Niwroamrywiaeth-Gyfeillgar
"Newidiwch y dasg yma yn ganllaw cam wrth gam sy’n addas i ddysgwyr niwro-amrywiol. Cynhwyswch gamau byr a chlir, delweddau opsiynol neu fetafforau, a chrynodeb o’r prif bwyntiau. Osgowch fanyldeb llethol. Peidiwch ag ychwanegu cynnwys sydd ddim yn berthnasol i’r dasg. Peidiwch â chreu unrhyw eiriau yn eich ymateb."
Cynyddu Eglurder a Lleihau Llwyth Gwybyddol
"Ail-ysgrifennwch y cynnwys yma i leihau’r llwyth gwybyddol. Defnyddiwch baragraffau byr, pwyntiau bwled, penawdau clir a therminoleg gyson. Peidiwch â chreu termau. Adnabyddwch unrhyw feysydd lle gallai’r testun gwreiddiol achosi dryswch. Peidiwch â chyflwyno gwybodaeth newydd."
Llyfrgell Ysgogiadau i Staff
Gweithgareddau Cyffredinol
Adborth
Gofynnwch i Microsoft Copilot am adborth ar rywbeth rydych chi wedi'i greu.
Gallai hyn fod yn e-bost rydych chi wedi'i ddrafftio, neges gyfathrebu, neu gynllun ar gyfer eich gwasanaeth.
- "Rhowch adborth i mi ar [enw'r eitem]. Rwy'n chwilio’n benodol am adborth ar [nodwch yr hyn yr hoffech adborth arno]."
- "Darparwch adborth clir, adeiladol ar y ddogfen hon. Amlygwch gryfderau, nodwch feysydd i'w gwella, a chynigiwch awgrymiadau penodol, gweithredadwy
- "Adolygwch y ddogfen hon fel golygydd. Rhowch sylwadau ar eglurder, strwythur, cydlyniant, naws a llif. Darparwch argymhellion manwl."
Crynodeb
Gofynnwch i Microsoft Copilot ddarparu crynodeb o ddogfen.
- "Rhowch grynodeb o [y ddogfen atodedig] i mi. Beth yw prif bwyntiau'r ddogfen? Pa gamau sydd angen i mi eu cymryd?"
- "Darparwch grynodeb pwyntiau bwled o’r wybodaeth hanfodol yn y ddogfen hon [y ddogfen atodedig]."
- "Crynhowch y ddogfen hon [atodwch ddogfen] gyda ffocws ar y goblygiadau ar gyfer gwneud penderfyniadau, risgiau, cyfleoedd, a chamau gweithredu a argymhellir
Hygyrchedd a chynhwysiant
Gofynnwch i Microsoft Copilot greu rhywbeth sy'n hygyrch.
- "Gwnewch awgrymiadau ar sut y gallaf wneud hwn [mewnosod eitem] yn fwy hygyrch."
- "Ailysgrifennwch hwn [mewnosod eitem] i'w wneud yn fwy darllenadwy i bobl â dyslecsia."
- "Ychwanegwch benawdau ac is-benawdau ystyrlon i hwn [mewnosod eitem] i wella’r llywio ar gyfer defnyddwyr darllenydd sgrin."
- "Pa mor gynhwysol yw'r iaith yn y ddogfen hon [mewnosod eitem]? Allwch chi wneud unrhyw awgrymiadau i'w gwneud yn fwy cynhwysol?
Cynhyrchu Syniadau
Gofynnwch i Microsoft Copilot gynhyrchu rhai syniadau.
- "Cynhyrchwch syniadau heb gyfyngiadau ynghylch cyllideb, ymarferoldeb, neu normau presennol am [mewnosod prosiect]. Meddyliwch yn fawr ac yn llawn dychymyg."
- "Rhowch 20 syniad gwahanol i mi ar gyfer [mewnosod pwnc], pob un yn fwriadol amrywiol o ran ymagwedd, arddull, a chymhlethdod."
- "Cynhyrchwch ystod o atebion posibl i hyn [mewnosod mater], o atgyweiriadau syml i ailgynllunio uchelgeisiol."
Cyfathrebu
Gofynnwch i Microsoft Co-pilot gynhyrchu rhywfaint o gyfathrebiadau ar gyfer eich gwasanaeth, ymchwil, neu weithgareddau addysg a phrofiad y myfyrwyr.
- "Crëwch neges am [mewnosod pwnc] gyda fersiynau ar wahân wedi'u teilwra ar gyfer myfyrwyr, staff academaidd, a staff y gwasanaethau proffesiynol."
- "Ailysgrifennwch hwn [mewnosod eitem] mewn iaith eglur sy'n addas ar gyfer cynulleidfa addysg uwch eang gan gadw'r holl wybodaeth allweddol yn gyflawn."
- "Ysgrifennwch ddiweddariad cyfeillgar a chefnogol i fyfyrwyr am [mewnosod pwnc], gan dynnu sylw at yr hyn y mae angen iddynt ei wybod, unrhyw gamau sydd eu hangen, a ble i gael cymorth."
Dadansoddi'r Data
Gofynnwch i Microsoft Co-pilot gynhyrchu rhai dadansoddiadau yn seiliedig ar setiau data rydych chi'n eu rhoi iddo. Wrth uwchlwytho setiau data, gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n cynnwys gwybodaeth bersonol a dilynwch ein canllawiau ar ddefnyddio DA Cynhyrchiol yn ddiogel. Byddwch yn ymwybodol o wybodaeth diogelu data'r Brifysgol.
- "Darparwch ddadansoddiad archwiliol o hwn [mewnosod set ddata]. Crynhowch ei strwythur, newidynnau allweddol, patrymau cyffredinol, ac unrhyw beth diddorol neu annisgwyl."
- "Cynhyrchwch ystadegau disgrifiadol ar gyfer hwn [mewnosodwch set ddata] (cymedr, canolrif, amrediad, amrywiant, chwarteli, ac ati) ac esboniwch beth maen nhw'n ei ddweud wrthym."
- "Adolygwch hwn [mewnosodwch set ddata] ar gyfer gwerthoedd coll, dyblygiadau, anghysondebau, neu faterion fformatio. Awgrymwch neu gymhwyswch gamau glanhau."
Adolygu Prosesau
Gofynnwch i Microsoft Co-pilot adolygu prosesau.
- "Trowch hwn [mewnosod disgrifiad y broses] yn fap proses clir, strwythuredig gyda chamau, pwyntiau penderfynu, a chyfrifoldebau."
- "Nodwch y camau yn hwn [mewnosodwch broses] y gellid eu hawtomeiddio neu eu cefnogi gan offer digidol, ac eglurwch y manteision."
- "Dadansoddwch gryfderau a gwendidau hwn [mewnosodwch y broses], gan gynnwys effeithlonrwydd, eglurder, dibynadwyedd a phrofiad y defnyddiwr."
Creu ffeithlun
Gofynnwch i Microsoft Co-pilot greu cynrychioliadau gweledol o wybodaeth.
- "Trawsnewidiwch y testun hwn yn amlinelliad ffeithlun gyda phenawdau, delweddau, a chynllun awgrymedig: [gludo testun]."
- "Trowch hwn [mewnosodwch y broses] yn ffeithlun cam wrth gam gyda chamau clir, saethau, pwyntiau penderfynu, a labeli cryno."
- "Trowch hwn [mewnosod set ddata] yn ffeithlun sy'n tynnu sylw at yr ystadegau, y tueddiadau a’r cymariaethau pwysicaf."
Gweithgareddau dysgu ac addysgu
Cynllunio gwersi
Gofynnwch i Microsoft Co-pilot gynorthwyo i greu cynlluniau gwersi a syniadau ar gyfer pynciau newydd.
- "Crëwch gynllun gwers manwl ar lefel prifysgol ar [bwnc], gan gynnwys canlyniadau dysgu, cysyniadau allweddol, strwythur sesiwn, gweithgareddau, amseroedd, a deunyddiau."
- "Datblygwch gynllun gwers wedi'i alinio â'r canlyniadau dysgu canlynol: [mewnosod canlyniadau]. Cofiwch gynnwys awgrymiadau am weithgareddau sy'n cefnogi pob canlyniad."
- "Cynlluniwch wers ystafell ddosbarth wedi'i gwrthdroi ar [pwnc], gan gynnwys deunyddiau cyn y dosbarth, gweithgareddau yn y dosbarth, a thasgau dilynol."
Adolygiadau asesu
Gofynnwch i Microsoft Co-pilot adolygu arferion asesu.
- "Gwiriwch pa mor dda y mae'r asesiad hwn [mewnosod briff asesu] yn cyd-fynd â chanlyniadau dysgu'r modiwl [mewnosod canlyniadau dysgu] ac awgrymwch welliannau."
- "Adolygwch eglurder y cyfarwyddiadau yn yr asesiad hwn [mewnosodwch grynodeb yr asesiad]. Nodwch unrhyw eiriad dryslyd, manylion coll, neu gamddehongliadau posibl."
- ""Gwerthuswch ba mor ddilys a pherthnasol yw hwn [mewnosodwch friff asesu] i'r ddisgyblaeth ac arferion yn y byd go iawn. Awgrymwch welliannau."
Cyfathrebu
Gofynnwch i Microsoft Co-pilot greu ac adolygu cyfathrebiadau sy'n ymwneud â dysgu ac addysgu.
- "Drafftiwch gyfathrebu clir a chryno sy'n esbonio [pwnc dysgu/addysgu], gan ganolbwyntio ar yr hyn y mae angen i fyfyrwyr/staff ei wybod, pam y mae'n bwysig, a pha gamau y dylent eu cymryd."
- "Crëwch neges gyfarwyddyd cam wrth gam sy'n esbonio sut y dylai myfyrwyr gwblhau hyn [mewnosod briff tasg neu weithgaredd], gan gynnwys awgrymiadau, maglau, ac enghreifftiau."
- "Drafftiwch nodyn atgoffa cefnogol am asesiad [mewnosodwch wybodaeth asesu] ar gyfer myfyrwyr sy'n cynnwys dyddiadau allweddol, disgwyliadau, adnoddau cymorth, a naws dawel."
Adolygiadau modiwlau
Gofynnwch i Microsoft Co-pilot adolygu modiwlau.
- "Cynhaliwch adolygiad cynhwysfawr o'r modiwl hwn [mewnosod amlinelliad a strwythur y modiwl]. Gwerthuswch ei ganlyniadau dysgu, strwythur, asesiadau, dull addysgu, profiad myfyrwyr, a dangosyddion data. Darparwch gryfderau, gwendidau, ac argymhellion y gellir gweithredu arnynt."
- "Adolygwch y strwythur wythnosol a'r gweithgareddau dysgu [mewnosodwch ddadansoddiad a throsolwg o’r modiwl]. Awgrymwch welliannau o ran ymgysylltu, gosod cyflymder, a dilyniannu."
- "Gwerthuswch y modiwl hwn ar gyfer cynhwysiant a hygyrchedd [mewnosodwch ddadansoddiad a throsolwg o’r modiwl. Nodwch rwystrau posibl i ddysgwyr amrywiol ac argymhellwch welliannau."
Senarios ac Astudiaethau Achos
Gofynnwch i Microsoft Copilot ddarparu astudiaethau achos neu senarios ar gyfer cwestiynau traethawd, gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, neu gwestiynau arholiad.
- "Rhowch rai awgrymiadau enghreifftiol i mi ar gyfer astudiaethau achos i fyfyrwyr nyrsio’r brifysgol allu deall diabetes. Dylai'r ysgogiadau ofyn i'r nyrsys pa gamau y dylent eu cymryd."
- "Rwy'n profi gwybodaeth y myfyrwyr am [mewnosod pwnc]. Rwy'n chwilio am astudiaeth achos a fydd yn profi hyn"
- "Rwy'n ysgrifennu cwestiwn arholiad ar [mewnosod cwestiwn neu bwnc]. Rhowch senario i mi er mwyn profi myfyrwyr"
