Deallusrwydd Artiffisial

Mae'r dudalen we hon wedi'i chynllunio i roi trosolwg o ganllawiau DA Cynhyrchiol y Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol. Mae hyn yn ategu Datganiad y brifysgol ar y Defnydd o DA Cynhyrchiol.  

Mae’r Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol yn gyfrifol am:                      

  • Cynhyrchu canllawiau canolog ar ddefnydd moesegol a diogel o DA Cynhyrchiol  
  • Hyfforddi staff a myfyrwyr ar ddefnydd cyffredinol ac egwyddorion DA Cynhyrchiol yn eu harferion gwaith  
  • Trefnu digwyddiadau arfer da i staff  
  • Cynghori ar ddylunio asesiadau 
  • Cynghori ar ddarganfod adnoddau 
  • Cynghori ar ofynion y Gymraeg a hygyrchedd yng nghyd-destun DA Cynhyrchiol 
  • Cydlynu sesiynau peilota DA Cynhyrchiol sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol                      
  • Cyfrannu at waith sydd ar y gweill gyda DA Cynhyrchiol ar draws y brifysgol 
  • Cefnogi adrannau academaidd i gyflwyno eu canllawiau eu hunain  

Microsoft Copilot yw’r adnodd DA Cynhyrchiol a argymhellir gan y Brifysgol.  Mae hwn wedi'i adeiladu yn ein Trwydded Microsoft. 

I gael cyngor, arweiniad, neu gymorth ynghylch unrhyw un o'r meysydd DA Cynhyrchiol a amlinellir uchod, cysylltwch â’r Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol (llyfrgellwyr@aber.ac.uk). 

Hyfforddiant: Cwrs Hanfodion DA

Mae’r llyfrgellwyr pwnc wedi creu tiwtorial rhyngweithiol, Hanfodion DA, sydd ar gael ar Blackboard. Mae'r tiwtorial yn cynnwys 10 cwrs byr:  

  1. Beth yw (a ble mae) DA Cynhyrchiol
  2. DA fel Partner Astudio, Nid Llwybr Byr
  3. DA, Meddwl Beirniadol, a Llythrennedd Gwybodaeth
  4. DA a Chyfeirnodi
  5. Data, Preifatrwydd, a'r Hyn Na Ddylech ei Uwchlwytho
  6. DA a Hygyrchedd
  7. DA a'r Gymraeg mewn Cyd-destun Amlieithog
  8. Effeithiau Amgylcheddol a Chymdeithasol DA
  9. Byw gyda Newid Cyflym
  10. Beth os nad ydw i eisiau defnyddio DA? 

Mae'r holl fyfyrwyr a staff wedi'u cofrestru ar y Cwrs hwn yn awtomatig.  Rydym yn argymell ymgysylltu â'r cwrs hwn cyn defnyddio DA Cynhyrchiol.  

Llyfrgell Ysgogiadau

Os hoffech feithrin eich hyder gyda defnyddio DA Cynhyrchiol, mae’r Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol wedi cynhyrchu Llyfrgell Ysgogiadau. Nod hyn yw darparu awgrymiadau ar sut y gallech ddefnyddio DA Cynhyrchiol yn eich cyd-destun.  

Datganiad a Diogelwch

Mae yna lawer o offer DA Cynhyrchiol trydydd parti ar gael. Gyda phob meddalwedd trydydd parti, dylech sicrhau eich bod chi'n ei defnyddio'n ddiogel, yn gyfrifol ac yn foesegol.  

Os ydych chi'n defnyddio meddalwedd trydydd parti, gwnewch yn siŵr nad ydych yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol sy'n ymwneud â chi'ch hun neu eraill, neu gynnwys lle mae'r hawlfraint yn eiddo i bobl neu sefydliadau eraill.  

Am ganllawiau manwl ar ddiogelwch, gweler y Canllawiau Cyffredinol ar ddefnydd diogel o DA. 

Os ydych chi'n pryderu bod tor diogelwch data wedi digwydd, gweler y canllawiau gan Llywodraethu Gwybodaeth ar roi gwybod am dor diogelwch data.  

Defnyddio DA ar gyfer eich astudiaethau

Efallai y bydd gan eich adran ei chanllawiau DA Cynhyrchiol ei hun y mae'n rhaid i chi eu dilyn.  

Cyn defnyddio DA Cynhyrchiol ar gyfer eich astudiaethau, rydym yn argymell eich bod yn cwblhau’r cwrs Hanfodion DA sydd ar gael yn Blackboard. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y defnydd derbyniol o DA Cynhyrchiol yn eich gwaith neu’ch asesiadau, siaradwch â'ch darlithydd neu gydlynydd y modiwl.  

Mae rheoliad Ymddygiad Academaidd Annerbyniol y Brifysgol yn nodi bod llên-ladrad yn cynnwys cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan DA fel pe bai'n waith a wnaethoch eich hun.  

Os nad ydych yn siŵr a ganiateir defnyddio DA ar gyfer aseiniad penodol neu agwedd ar eich astudiaethau, dylech ofyn am arweiniad gan eich tiwtor academaidd. 

Mae manteision i ddefnyddio DA Cynhyrchiol fel adnodd cynorthwyol ar gyfer eich astudiaethau, os caiff ei ddefnyddio’n foesegol ac yn ddiogel. Yn gynyddol, mae mwy o swyddi yn disgwyl i raddedigion fod yn wybodus ynghylch DA Cynhyrchiol. Efallai y bydd eich darlithydd yn gofyn i chi ddefnyddio DA Cynhyrchiol fel rhan o weithgaredd dysgu neu asesu.  

Mae manteision hefyd i gwblhau tasgau ac asesiadau heb ddibynnu ar DA Cynhyrchiol.  

Cyn defnyddio DA Cynhyrchiol, ystyriwch pa wybodaeth, sgiliau neu brofiad y gallech eu meithrin trwy ymgymryd â'r dasg yn annibynnol.  

P'un a yw hynny’n golygu darganfod a chrynhoi deunydd, cynllunio a gwneud gwaith, neu ddeall y cwestiwn, ymarfer gwneud hyn yw diben dod i’r brifysgol. Os ydych chi'n allanoli’r gwaith hwn i DA Cynhyrchiol, ni fyddwch yn cael y profiad hwnnw.  

Efallai y bydd eich adran yn gofyn i chi ddefnyddio datganiad defnyddio Datganiad defnydd offer Deallusrwydd Artiffisial (AI) neu ddatganiad Cydnabod Adnodd ar gyfer eich aseiniadau. Mae hyn yn caniatáu ichi fyfyrio ar sut rydych chi wedi defnyddio DA Cynhyrchiol wrth baratoi eich aseiniad.  

Rydym yn blogio'n rheolaidd am DA Cynhyrchiol – gweler ein blog llyfrgellydd am bostiadau diweddar.  

Defnyddio DA ar gyfer eich gwaith addysgu

Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi integreiddio DA Cynhyrchiol mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu. Yn yr un modd ag argymhellion i fyfyrwyr, dylai staff ddatgan pryd a sut maent wedi defnyddio DA Cynhyrchiol.  

Rydym yn argymell bod yr offer canlynol yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu: 

  • Microsoft Copilot 
  • Cynorthwyydd Dylunio DA Blackboard 
  • Dylunydd Cwestiynau DA Vevox 

Mae'r Tîm Addysg Ddigidol yn cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd: Hanfodion E-Ddysgu:  Defnyddio Microsoft Copilot ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu ac E-ddysgu Uwch:   Defnyddio Cynorthwyydd Dylunio DA Blackboard i gydweithwyr.     Gallwch archebu eich lle a gweld ein sesiynau hyfforddi eraill ar-lein. 

Mae ein sesiynau hyfforddi yn rhoi sylw i DA Cynhyrchiol fel adnodd gynorthwyol wrth greu cynnwys. 

Er mwyn sicrhau dilysrwydd asesiad, mae canllawiau Ymddygiad Academaidd Annerbyniol y Brifysgol wedi'u diwygio i gynnwys cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan DA fel pe bai'n waith a wnaethoch eich hun fel llên-ladrad. 

Mae eitem gynnwys safonol wedi'i chynnwys yn ardal Asesu ac Adborth cyrsiau Blackboard sy'n cysylltu ag Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a’r Cwrs Hanfodion DA 

Dylai pob asesiad gynnwys datganiad ar lefel y defnydd derbyniol ar gyfer DA Cynhyrchiol. Mae croeso i chi ddefnyddio datganiadau safonol sydd ar gael yng Nghadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am integreiddio DA Cynhyrchiol yn eich addysgu, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk). 

Defnyddio DA ar gyfer eich ymchwil

Gall defnyddio DA mewn ymchwil fod â goblygiadau moesegol sylweddol.  Mae canllawiau'n dal i gael eu datblygu yn y maes hwn, ond efallai y bydd canllawiau lleol ar gael ar gyfer eich adran neu ddisgyblaeth benodol chi.  Mae arferion gorau cyffredinol ar gael yn y Canllawiau cyffredinol ar ddefnyddio DA yn ddiogel.

Os yw eich ymchwil yn dod o fewn cwmpas y Panel Moeseg Ymchwil, gallant adolygu unrhyw ddefnydd o DA yn eich prosesau ymchwil, boed hynny fel rhan o ymarfer paratoadol, neu fel elfen graidd o'r ymchwil.  Mae rhagor o fanylion am waith y Panel Moeseg Ymchwil a'r prosesau cysylltiedig ar gael yn https://www.aber.ac.uk/cy/rbi/support-services/ethics/ Byddant hefyd yn gallu rhoi cyngor cyn i chi ddechrau unrhyw ymchwil neu adolygiad moesegol.

Mae crynodeb defnyddiol o'r ffactorau sydd angen eu hystyried wrth ddefnyddio DA mewn Ymchwil ar gael yma: https://ukrio.org/ukrio-resources/ai-in-research/

Defnyddio DA yn eich gwaith gweinyddol

Gellir defnyddio DA hefyd ar gyfer gweithgareddau gweinyddol, megis crynhoi dogfennau hir, creu strwythur ar gyfer adroddiadau, ac aildrefnu gwybodaeth rydych chi eisoes wedi'i hysgrifennu. 

Microsoft Copilot yw’r adnodd DA a argymhellir gan y Brifysgol, sy’n rhan o’n Trwydded Microsoft.  

Gweler canllaw Prifysgol Aberystwyth ar Ddefnyddio Copilot ar gyfer cynhyrchiant 

Cofiwch osgoi uwchlwytho gwybodaeth bersonol (am unigolion adnabyddadwy) neu wybodaeth gyfrinachol arall i Copilot.