Gweithgareddau Gwasanaethau'r Llyfrygell i fyfyrwyr newydd

Yn ystod y Wythnos Groeso Aber, rydym yn darparu amrywiaeth o weithgareddau i groesawu myfyrwyr newydd a chyflwyno ein gwasanaethau er mwyn i chi allu manteisio i’r eithaf arnynt yn ystod eich amser yma.

Yr ydym yn cynnig teithiau llyfrgell drwy'r flwyddyn yn ôl yr galw. Cysylltwch â'n llyfrgellwyr pwnc i drefnu.

Teithiau Llyfrgell

Mae pob taith yn para hyd at 30 munud ac wedi ei chynllunio:

  • i'ch croesawu i'ch llyfrgell a'ch helpu i ganfod eich ffordd o gwmpas
  • i'ch cyflwyno'n fyr at gyfleusterau a gwasanaethau sydd ar gael yn y Llyfrgell Hugh Owen
  • i sicrhau eich bod yn gwybod ble i ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth

Dylai pob myfyriwr newydd fynychu taith. 

Os gwelwch yn dda, ewch i Lefel D (llawr y prif fynedfa) Llyfrgell Hugh Owen ar gyfer eich taith o’r llyfrgell.
Ceisiwch gyrraedd 10 munud cyn amser cychwyn y daith yr ydych wedi’i ddewis.

Teithiau’r Llyfrgell: Beth i’w Ddisgwyl

Mae taith rithiol Llyfrgell Hugh Owen ar gael i'w gweld ar unrhyw adeg.

Mae rhai teithiau o gwmpas Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol wedi’u cynnwys yn amserlen y teithiau tywys. Mae taith ar-lein o amgylch Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol hefyd ar gael i’w gweld unrhyw adeg.

 

Casglu eich Cerdyn Aber

  • Bydd myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd yn byw yn Neuaddau Preswyl yn derbyn eu Cerdyn Aber wrth gofrestru yn eu llety.
  • Gall myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd mewn llety preifat gasglu eu Cerdyn Aber o Lyfrgell Hugh Owen yn ystod ein Horiau Agor

 

Cyflwyniad i’r gwasanaethau Llyfrgell ac Addysg Ddigidol

Croeso i’r canllaw ar-lein Dechrau arni yn y Llyfrgell i fyfyrwyr newydd. Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyflwyniad pwysig i’r gwasanaethau Llyfrgell ac Addysg Ddigidol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cymrwch olwg nawr ac wedyn rhowch gynnig ar y cwis byr ar ddiwedd pob adran.  

Mae’r Llyfrgellwyr Pwnc yn cynnig sesiynau cynefino â’r Llyfrgell yn rhan o raglen yr Wythnos Groeso yn eich adran – edrychwn ymlaen i gyfarfod â chi bryd hynny. 

Cymorth i ysgogi eich cyfrif e-bost a chysylltu eich dyfeisiau â rhwydwaith y Brifysgol

Mae ein staff ar gael i'ch helpu chi:

  • yn bersonol wrth y ddesg ymholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen
  • dros y ffôn 01970 62 2020
  • trwy e-bostio library@aber.ac.uk 
  • trwy ddefnyddio'r ddolen Sgwrsiwch nawr ar ein tudalennau gwe

Gweler ein tudalen cysylltu â ni i gael manylion llawn