Partneriaeth ymchwil i ehangu buddion cywarch

Cyfarfod consortiwm Pharmahemp

Cyfarfod consortiwm Pharmahemp

24 Mawrth 2021

Gallai cywarch fod yn rhan fwy cyffredin o’n dietau a bywyd bob dydd, diolch i bartneriaeth ymchwil £1.1 miliwn newydd.

Nod y prosiect dwy flynedd rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r diwydiant yw dangos defnydd cywarch fel cnwd amaethyddol allweddol er mwyn cynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau bwyd, iechyd a fferyllol.

Ar hyn o bryd, mae cywarch yn cael ei ddefnyddio mewn ffabrigau wedi eu haddasu’n arbennig er mwyn gwrthsefyll tân, matresi, deunyddiau adeiladau, insiwleiddio, gwasod anifeiliaid a biodanwydd. 

Mae’n ddeunydd naturiol sy'n llesol i'r amgylchedd, a welir fel un sy’n gallu disodli cynnyrch petrocemegol.

Bydd y bartneriaeth newydd PharmaHemp yn datblygu cyfansoddynnau’r cnwd drwy ddulliau cynaliadwy; gan eu gwneud o rannau’r planhigyn sy’n cael eu gadael heb eu defnyddio ar hyn o bryd.

Yn ogystal, bydd yr ymchwil yn gwneud y cnwd yn fwy gwerthfawr ac yn caniatáu ei ddefnydd mewn rhagor o sectorau diwydiannol ac anniwydiannol - gan ei wneud yn fwy deniadol i ffermwyr sy’n awyddus i dyfu cnydau amgen wrth iddynt gylchdroi eu tir.

Mae cyfraniad Prifysgol Aberystwyth i’r prosiect wedi elwa ar raglen SMART Expertise a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Alan Gay, Uwch Wyddonydd Ymchwil yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rydym wrth ein boddau gyda’r bartneriaeth newydd, ac yn llawn cyffro. Byddwn yn defnyddio ein harbenigedd hirhoedlog yma yn Aberystwyth er mwyn rhannu buddion y cnwd hwn gyda llawer iawn mwy o bobl. Rydym hefyd yn gobeithio cyfrannu at wella ymwybyddiaeth o’r cnwd ymysg cwsmeriaid a ffermwyr.

“Mae’r prosiect yn hwb economaidd hefyd: gan gefnogi swyddi gyda sgiliau uwch yng ngorllewin Cymru.   Yn ogystal â’r defnydd cosmetig, bwyd a fferyllol, byddwn ni’n ymchwilio i bwrpasau diwydiannol a fyddai’n lleihau’n sylweddol yr angen am fewnforion drud.”

Dywedodd Yr Athro Iain Donnison, Pennaeth Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’r prosiect Pharmahemp yn adeiladu ar arbenigedd IBERS wrth ddatblygu cyfleoedd newydd ar gyfer amaethu yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle cyffrous i ni ail-ymweld â, a theilwra, chnwd amlbwrpas a chynaliadwy iawn at gyfer yr 21ain ganrif.”

Mae’r prosiect yn cysylltu nifer o weithredwyr profiadol cywarch yn y DU gydag arbenigedd bridio arbenigol IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r partneriaid masnachol yn cynnwys: TTS Pharma, arbenigwyr mewn cynnyrch iechyd a fferyllol; Voase and Son, tyfwyr arbenigol cywarch; Elsoms Seeds sy’n datblygu a dosbarthu hadau i’r gymuned amaeth; a GrowPura®, arbenigwyr mewn rheoli tyfu planhigion lle mae angen rheolaeth lefel uchel.

Ychwanegodd Mark Tucker, Prif Weithredwr TTS Pharma:

“Mae’r prosiect yn adeiladu ar y sylfeini osodon ni yn 2018 gyda Phrifysgol Aberystwyth ynghyd â’n prosiectau ymchwil eraill. Mae’r adnoddau ac arbenigedd yn IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn addas iawn ar gyfer yr ymchwil cywarch hwn. Byddan nhw’n ein cynorthwyo i ddatblygu cyltifarau newydd, wedi ei addasu ar gyfer hinsawdd y DU a’r defnydd terfynol.

“Rydyn ni’n falch iawn bod gennym ni bartneriaid cryf er mwyn gwireddu amcanion y prosiect. Rydyn ni’n hyderus y bydd prosiect hwn yn cyfrannu’n sylweddol i wella’r lefelau cynhyrchu presennol. Bydd hefyd yn cyflymu dyfodiad cadwyn cyflenwi ddomestig, ac yn cynorthwyo cael gwared ar fewnforio biomas o Dsiena, ynghyd â De a Gogledd America.

Dywedodd David Coop, Cyfarwyddwr Elsoms Seeds Cyf:

“Elsom Seeds yw’r prif arbenigwr hadau annibynnol a bridiwr planhigion yn y DU. Rydyn ni’n bridio, cyflenwi a thrin hadau amaethyddol a llysiau ledled y DU, gan ddefnyddio’r ymchwil ar fridio planhigion a thechnoleg hadau diweddaraf. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda IBERS a’n partneriaid ar y prosiect hwn, ac, un diwrnod, yn darparu ffermwyr y DU gyda hadau ansawdd uchel yr amrywogaethau newydd ac arloesol a ddaw o ganlyniad.”

Ychwanegodd Nick Bateman o Growpura:

“Yn y diwydiant fferyllol, mae cynhyrchu deunyddiau drwy’r flwyddyn o dan amodau wedi ei rheoli’n dda yn bwysig. Gyda'r prosiect hwn, rydym yn awyddus i weld sut all y planhigyn hwn gael ei addasu er mwyn ei dyfu yn ein hamodau tyfu di-haint gyda chyfradd prosesu uchel. Byddai’n hynny’n galluogi cynhyrchu cynnyrch ansawdd uchel drwy gydol y flwyddyn.”

Dywedodd tyfwr cywarch diwydiannol Nick Voase:

“Rydyn ni wedi bod yn tyfu ac yn prosesu cywarch diwydiannol ers 2002, ond prin ydyn ni wedi gweld datblygiad o’r cnwd yn y DU. Rydyn ni’n falch o gael cymryd rhan yn y prosiect hwn a fydd yn addasu’r cnwd at bwrpasau newydd. Rydyn ni’n anelu’n benodol at sicrhau’r cynnyrch mwyaf o’r cnydau sy’n cael eu tyfu yn y DU.”

Er gwaethaf camddealltwriaeth cyffredin, mae’r straeniau cywarch diwydiannol a dyfir yn y DU i gyd yn amrywogaethau gyda lefelau dibwys o’r sylwedd seicoweithredol THC ac yn cael eu dethol o restr gymeradwy ac yn cael eu tyfu o dan drwyddedau’r Swyddfa Gartref yn unig.