The Conversation

 

The Conversation

Gwefan newyddion a barn yw The Conversation, sy’n cael ei hysgrifennu gan academyddion sy'n gweithio gyda thîm o newyddiadurwyr proffesiynol i gyhoeddi darnau byr sy'n cynnig sylw academaidd i'r cyhoedd.

Hyfforddiant byw ar-lein

Mae'r Tîm Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn trefnu sesiynau gweithdy cyflwyno ac ysgrifennu achlysurol arlein gyda golygydd The Conversation. Mae’r rhain wedi’u hanelu ar gyfer staff academaidd, ymchwilwyr a myfyrwyr PhD PA.

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad i The Conversation a chyngor ar sut i gynnig, cynllunio a strwythuro erthyglau ar gyfer y gynulleidfa dan sylw.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o’r sesiynau hyn, cofrestrwch isod i gadw'ch lle:

Cyrsiau hyfforddi fideo ar-lein

Mae pedwar cwrs hyfforddi byr ar-lein ar gael i ymchwilwyr, academyddion ac ymgeiswyr PhD gael mynediad iddynt pan fo’n gyfleus.

Nod y cyrsiau yw helpu academyddion i ddeall sut mae The Conversation yn gweithio, y cymorth golygyddol a ddarperir, ac i ddatblygu'r sgiliau i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd anacademaidd. 

Mae'r cyrsiau'n cael eu mapio i fframwaith datblygu ymchwilwyr Vitae ac felly gallant gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol.