Y Brifysgol yn ymrwymo i ddiogelu swyddi er gwaethaf effaith COVID-19

31 Mawrth 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi yn ei gweithlu a'i hystad, er gwaethaf costau ychwanegol sylweddol COVID-19 yn 2019/20.

Mae Datganiadau Ariannol y Brifysgol am y Flwyddyn yn Gorffen 31 Gorffennaf 2020, a gyhoeddwyd ar-lein ddydd Mawrth 30 Mawrth, yn nodi colledion o dros £5m wrth i’r pandemig COVID-19 arwain at gostau ychwanegol ac incwm a gollwyd. Fodd bynnag, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure na fydd colledion COVID-19 yn golygu colli swyddi nac ailstrwythuro.

Mae'r colledion yn cynnwys y cwymp sylweddol mewn incwm ffioedd llety, colledion incwm cynhadledda a masnachu arall, costau addasu campws, glanhau ychwanegol, a chostau cyflogi staff ychwanegol i helpu gyda llwyth gwaith addysgu.

Dywedodd yr Athro Treasure: “Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflawni ei chyllideb yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac unwaith eto roedd hi ar y trywydd iawn i wneud hynny yn 2019-2020. Hon fyddai’r flwyddyn gyntaf iddi gyflawni gwarged gweithredol ers 2013-14 o ganlyniad i’n rhaglen o fesurau sydd wedi llwyddo i roi ein cyllid ar sylfaen gynaliadwy. Fodd bynnag, yn yr un modd â sefydliadau ledled y sector addysg uwch a thu hwnt, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ariannol sylweddol ar y Brifysgol.

“Mae’r costau wedi bod yn fawr, ond rydym yn eu hystyried yn gymharol fyrdymor - barn sy’n cael ei hategu gan ein harchwilwyr allanol. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu'n negyddol ar gynaliadwyedd ariannol tymor hir y Brifysgol.

“Yn wir, mae’r Brifysgol yn bwriadu parhau i fuddsoddi yn ei gweithlu a’i hystad wrth i ni edrych tuag at ddiwedd y pandemig. Bydd y cyllidebau'n dynn, ond cyhyd â bod ein targedau recriwtio yn cael eu cyflawni, ni welwn unrhyw reswm i gynllunio ar gyfer ailstrwythuro, gostyngiadau staffio neu ostwng ein datblygiadau cyfleusterau addysgu ac ymchwil o ganlyniad i'r colledion sy’n gysylltiedig â COVID-19.

“Felly bydd ein cynlluniau i dyfu fel Prifysgol yn parhau.”

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o lwyddiannau mawr.

Mae'r Brifysgol yn parhau i gael ei chydnabod am ei haddysgu a'i hymchwil ragorol.

Cafodd y Brifysgol ei henwi’n ‘Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru’, gan The Times a’r SundayTimes ac enillodd y sgôr uchaf am y profiad cyffredinol i’r myfyrwyr o blith holl brifysgolion Cymru a Lloegr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2019.

Aed ati i barhau â’r gwaith i ddatblygu’r portffolio academaidd, gan groesawu ei charfannau cyntaf o fyfyrwyr i raglen Addysg Gychwynnol i Athrawon. Mae honno’n cynnwys llwybrau cynradd yn ogystal ag uwchradd, sy’n golygu bod hyfforddiant cychwynnol i athrawon cynradd wedi dychwelyd i Aberystwyth.

Mae’r cytundeb a wnaed â’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol ynghylch y radd ddeuol mewn Meddyginiaeth Filfeddygol, ynghyd a phenodiad yr Athro cyntaf yn y ddisgyblaeth, yn gwireddu uchelgais sydd gan y Brifysgol ers amser maith, ac a gofnodwyd gyntaf yn 1891.

Mae’r Brifysgol hefyd wedi penodi Pennaeth Nyrsio wrth iddi fwrw ymlaen â’i hymdrech i ddod â nyrsio i Brifysgol Aberystwyth.

Roedd prosiect yr Hen Goleg yn llwyddiannus wrth gael grant yn ail gam Cronfa Treftadaeth y Loteri, sef £9.7 miliwn yn ogystal â £7 miliwn o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru ac Ewrop.

Yn ystod y flwyddyn, gwelwyd cynnydd sylweddol ar ddau brosiect mawr sydd bellach wedi agor eu drysau; Neuadd breswyl Pantycelyn, a Champws Arloesi a Menter Aberystwyth (ArloesiAber).

Mae Aberystwyth yn parhau i fuddsoddi i gyflawni ei nodau strategol, yn benodol y ddarpariaeth hirdymor o addysgu ac ymchwil rhagorol gan gynnwys y buddsoddiad cyfalaf cysylltiedig sy'n sail i'r amcanion hynny.

Meddai’r Athro Treasure: “Er gwaethaf effeithiau amlwg sylweddol COVID-19, yn ystod blwyddyn 2019/20, cafwyd cynnydd o hyd mewn nifer o feysydd. Mae hyn oherwydd ymdrechion rhagorol ein staff. Mae eu hymrwymiad a'u hymroddiad wedi disgleirio mewn cymaint o ffyrdd yn ystod y flwyddyn heriol hon. Hoffwn ddiolch o galon iddynt i gyd, wrth i ni edrych ymlaen at amseroedd mwy diogel o'n blaenau.”