Academyddion Aberystwyth yng Ngŵyl y Gelli

Credyd: Sam Hardwick

Credyd: Sam Hardwick

12 Mai 2021

Bydd tri academydd o Brifysgol Aberystwyth ar raglen Gŵyl y Gelli eleni, a ddarlledir am ddim ar-lein o'r Gelli Gandryll o 26 Mai tan 6 Mehefin.  

Yn yr ŵyl, fe gyflwynir yr Athro Mererid Hopwood, a ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth fel Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mis Ionawr 2021, yn Gymrawd Rhyngwladol newydd Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli.  Ac fe drafodir rhai cwestiynau sy’n berthnasol iawn i'r byd sydd ohoni, yng nghyd-destun pandemig COVID-19, mewn dwy ddarlith a fydd yn cael eu traddodi gan academyddion o Aberystwyth. 

Yn ei darlith ‘Women and Leadership’ am 13:00 ddydd Sadwrn 29 Mai, fe fydd y Dr Jenny Mathers o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gofyn a fyddai'r byd yn wahanol - ac yn well - pe bai mwy o fenywod yn dal yr awenau mewn safleoedd arweinyddiaeth.

Mae'r Dr Mathers yn esbonio sail ei darlith:  “Byddaf yn edrych eto ar y pwnc llosg hwn yng nghyd-destun y pandemig byd-eang. Rhywedd yw rhan o'r esboniad am y gwahaniaeth mawr rhwng profiadau COVID Seland Newydd o dan Jacinda Ardern a'r Unol Daleithiau o dan America.  Mae rhai wedi dadlau y gallasai effeithiau Argyfwng Ariannol Byd-Eang 2008 wedi'u lleddfu pe buasai mwy o fenywod wrth fyrddau rheoli'r prif sefydliadau ariannol. Ond mae arweinwyr benywaidd yn dal i fod yn gymharol brin, ac mae'r menywod sy'n arwain llywodraethau a sefydliadau drwy argyfyngau yn cael eu trin yn fwy garw na dynion mewn safleoedd cyfatebol.”

Ddydd Mercher 2 Mehefin, 13:00, bydd y Dr Siobhan Maderson, Cymrawd Ôl-Ddoethurol yr ESRC yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn siarad am ‘The Great Reset: Co-designing an inclusive, sustainable, post-pandemic future’.

Mae'r Dr Maderson yn esbonio: “Wrth i'r rhaglen frechu at COVID-19 fynd rhagddi, mae llawer ohonom yn dechrau mentro teimlo'n obeithiol am y dyfodol, er ein bod hefyd yn ymwybodol o'r difrod cymdeithasol ac economaidd a achoswyd gan y pandemig. Yn fy narlith arall byddaf yn ystyried sut olwg allai fod yn ar y normal newydd a sut y gellir sicrhau bod yr ailgychwyn yn gweithio er lles pawb - a rhywogaethau eraill - yn yr amgylchedd ehangach. Bydd fy nghyflwyniad yn cloriannu camgymeriadau'r gorffennol, edrych ar fentrau'r presennol ac ystyried gweledigaethau llawn dewrder a dychymyg at y dyfodol.”

Bydd y ddwy ddarlith yn cael eu recordio ymlaen llaw, ac fe fydd y Doethuriaid Mathers a Maderson ill dwy ar gael wrth i'w darlithoedd gael eu darlledu a thoc wedyn i ateb cwestiynau gan y gynulleidfa yn y llif sgwrsio.

Bydd darlith yr Athro Hopwood ddydd Sul 30 Mai yn trafod sut mae'r beirdd wedi dychmygu iaith a sut mae'r dychymyg hwnnw yn ein helpu i ddeall yr elfen hanfodol hon o lenyddiaeth. 

Mae'r ysgolhaig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill prif gystadlaethau’r Brifwyl dair gwaith, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn 2001. Mae wedi bod yn Fardd Plant Cymru ac wedi ennill gwobr Glyndŵr am ei chyfraniad at lenyddiaeth. Roedd ei chasgliad o farddoniaeth Nes Draw yn fuddugol yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016.

Dywedodd yr Athro Hopwood: “Fel Cymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli eleni, mae’n arbennig o braf gweld yr Ŵyl yn ymestyn nid yn unig dramor ond hefyd yn nes at adref. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau’r drafodaeth ddechreuodd llynedd am ddwyieithrwydd, gan ystyried eleni sut mae llenorion wedi dychmygu iaith ar hyd yr oesoedd.”

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “A ninnau'n brifysgol sydd ag enw da am ragoriaeth ein gwaith dysgu ac ymchwil, mae gennym lawer o werthoedd cyffredin â Gŵyl y Gelli – yn fan lle y gellir trin a thrafod materion pennaf yr oes.  Mae'n bleser gennym fod yn bartner i Ŵyl y Gelli, 2021, gan barhau â'n perthynas ehangach a fagwyd drwy fentrau megis Taith 'Scribblers' Gŵyl y Gelli, 'Hay Levels' a'n cynlluniau am ŵyl flynyddol ar y cyd yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar ôl iddo ailagor tua diwedd 2023.”

Bydd y rhaglen ddigidol o ddigwyddiadau am ddim i Ŵyl y Gelli 2021 yn dod â llenorion a darllenwyr ynghyd am amrywiaeth o sgyrsiau, trafodaethau, gweithdai a pherfformiadau ar-lein, yn llawn ysbrydoliaeth, o ddydd Mercher 26 Mai tan ddydd Sul 6 Mehefin.  I weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau ac i gofrestru ar-lein yn rhad ac am ddim, gweler: www.hayfestival.com