Nawdd Ambiwlans Awyr Cymru’n Esgyn

Llun trwy garedigrwydd Ambiwlans Awyr Cymru

Llun trwy garedigrwydd Ambiwlans Awyr Cymru

06 Medi 2021

Pleidleisiodd myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn y Brifysgol am yr ail flwyddyn yn olynol.

Gwnaethpwyd y cyhoeddiad ar ddechrau'r Wythnos Ambiwlans Awyr (6-12 Medi 2021) sy'n gweld elusennau ambiwlans awyr ledled y DU yn dod ynghyd i gyflwyno'r neges hanfodol fod Pob Eiliad yn Cyfrif a Phob Ceiniog yn Bwysig wrth achub bywydau pobl sydd ag argyfwng meddygol neu anaf sydyn a allai beryglu eu bywyd.

Meddai'r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Rwy'n falch iawn bod ein staff a'n myfyrwyr wedi pleidleisio i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru eto eleni. Nid oedd llawer o'n digwyddiadau codi arian arferol ar y campws yn bosibl dros y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i'r pandemig, ond wrth i'r cyfyngiadau lacio, edrychwn ymlaen at allu cefnogi'r gwasanaeth achub bywyd hanfodol hwn drwy ragor o weithgareddau codi arian yn ystod 2021-22."  

Ymatebodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru, drwy ddweud:  "Rydyn ni wrth ein bodd i gael ein dewis fel partner elusennol Prifysgol Aberystwyth ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd ein partneriaeth flaenorol yn un hwyliog a phleserus, a nawr, hoffem adeiladu ar hynny. Gyda'r incwm o weithgareddau codi arian yn parhau i fod yn sylweddol is o ganlyniad i'r pandemig, byddwn yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn i weithio'n agos â'r staff a myfyrwyr i wneud gwahaniaeth mawr o ran cyfraniadau a chysylltiadau."

Ers 2012, mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn dewis Elusen y Flwyddyn fel ffocws codi arian i staff, myfyrwyr a'r gymuned.