Cynhadledd ar-lein i ddathlu canmlwyddiant penodi T. H. Parry-Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth

T. H. Parry-Williams

T. H. Parry-Williams

19 Hydref 2021

Cyfraniad T. H. Parry-Williams (1887-1975) at ddysg a llenyddiaeth Gymraeg fydd dan sylw mewn cynhadledd arlein a fydd yn cael ei chynnal gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth ddydd Sadwrn 23 Hydref.

Bydd y gynhadledd, a fydd i’w gweld ar sianel YouTube yr Adran ac sydd wedi derbyn nawdd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn nodi can mlynedd ers penodi T. H. Parry-Williams yn Athro a Phennaeth yr Adran Gymraeg yn y Brifysgol.

Penodwyd Parry-Williams yn ddarlithydd cynorthwyol yn yr Adran Gymraeg yn 1914. Yr haf hwnnw bu farw’r Athro Edward Anwyl, gan adael y Gadair Gymraeg yn wag trwy gydol blynyddoedd y Rhyfel. Ar ôl diwedd y Rhyfel hysbysebwyd y Gadair a swydd Pennaeth yr Adran, ac yr oedd Parry-Williams ar y rhestr fer, ond oherwydd iddo gofrestru fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel yr oedd cryn wrthwynebiad cyhoeddus iddo.

Penderfynodd y Coleg ohirio’r penodiad am flwyddyn. Dyna pryd y dewisodd Parry-Williams beidio ag adnewyddu ei gytundeb fel darlithydd a chofrestru fel myfyriwr gwyddonol blwyddyn gyntaf gyda’r bwriad o newid cwrs ei yrfa ac astudio meddygaeth.

Pan ailhysbysebwyd y swydd yn 1920, fodd bynnag, cynigiodd Parry-Williams amdani a chael ei benodi. Rhoddodd 37 mlynedd o wasanaeth i’r Brifysgol a 32 o’r rheini fel Athro a Phennaeth Adran cyn ymddeol yn 1952.

Meddai Dr Bleddyn Owen Huws, trefnydd y gynhadledd: “Rydym fel Adran yn awyddus i nodi canmlwyddiant penodi T. H. Parry-Williams yn Athro’r Gymraeg yn Aberystwyth a dathlu ei gysylltiad â’r Brifysgol a’r cyfraniad a wnaeth i ddysg a llenyddiaeth Gymraeg. Rydym yn ffodus fod gennym raglen mor gyfoethog o bapurau yn trafod amrywiol agweddau ar ei feddwl a’i waith.”

  • Dr Bleddyn Owen Huws – Cerddi olaf T. H. Parry-Williams
  • Dr Llion Jones –‘Where yo’ goin’ bud?’: golwg ar ddyddiadur taith 1925 T. H. Parry-Williams
  • Yr Athro Emyr Lewis – E2 + B + C: rhai atgofion teuluol a sylwadau personol am T. H. Parry-Williams
  • Yr Athro Angharad Price – H. Parry-Williams, Bergson ac Amser
  • Mr Ioan Talfryn – Rhwng gwybod ac anwybod: agwedd ar waith T. H. Parry-Williams
  • Yr Athro Howard Williams – Cysyniadau o natur yng ngwaith T. H. Parry-Williams’

Cyhoeddir y papurau am 10 o’r gloch bore Sadwrn 23 Hydref 2021 ar sianel YouTube yr Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Am fwy o wybodaeth cysyllter â Dr Bleddyn Owen Huws, boh@aber.ac.uk