Ysgrifennydd newydd y Brifysgol

Dr Gwawr Taylor

Dr Gwawr Taylor

11 Tachwedd 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi Dr Gwawr Taylor i swydd Ysgrifennydd y Brifysgol.

Ar hyn o bryd, mae Gwawr Is-Ysgrifennydd y Brifysgol a Phennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru lle mae'n gyfrifol am reoli llywodraethiant ar draws Grŵp Prifysgol De Cymru a datblygu darpariaeth y Gymraeg a chydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg ar draws y Brifysgol.

Bydd Gwawr yn ymuno yn ffurfiol ym mis Ionawr 2022.

Meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r penodiad. Mae gan Gwawr gefndir cryf mewn llywodraethiant a chydymffurfiaeth prifysgolion ac edrychaf ymlaen at ei chroesawu i Aberystwyth ym mis Ionawr.

Ychwanegodd Dr Gwawr Taylor:

“Rwyf wrth fy modd i gael y cyfle i ddychwelyd i Geredigion ac ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, yn enwedig wrth iddi baratoi at ddathlu 150 mlynedd ers ei sefydlu. Mae hi’n gyfnod cyffrous yn ei hanes ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda chymuned y Brifysgol i sicrhau llwyddiant parhaus y sefydliad arbennig hwn.”

Fel Ysgrifennydd y Brifysgol, bydd Gwawr yn arwain adran Llywodraethiant y Brifysgol.

Mae'r rôl yn darparu cefnogaeth i lywodraethiant a rheolaeth y Brifysgol trwy weinyddiaeth Cyngor y Brifysgol a'r prif bwyllgorau gwneud penderfyniadau, yn ogystal â chadw trosolwg ar holl strwythur y pwyllgorau llywodraethu.

Mae hefyd yn cefnogi cydymffurfiaeth sefydliadol â dyletswyddau cyfreithiol a statudol, yn enwedig o ran llywodraethu gwybodaeth.

Yn wreiddiol o ardal Llanbed, graddiodd Gwawr o Brifysgol Bangor lle bu’n astudio Cerddoriaeth a Chymraeg, cyn parhau â’i hymchwil doethuriaeth yn yr Ysgol Gerdd. Ar hyn o bryd hi yw Is-Ysgrifennydd y Brifysgol a Phennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru.