Adnodd newydd i helpu pobl LHDTC+ hŷn sydd wedi profi cam-drin domestig

28 Mawrth 2022

Mae Menter Dewis Choice, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn lansio pecyn adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gynorthwyo ymarferwyr sy'n gweithio gyda phobl LHDTC+ hŷn sydd yn neu sydd wedi dioddef cam-drin domestig.

Mae’r pecyn adnoddau yn cynnwys dwy ffilm fer a phecyn cymorth i ymarferwyr, a’i nod yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr sy'n gweithio gyda dioddefwyr-oroeswyr LHDTC+ hŷn.

Ffilm ddogfen fer yw’r ffilm gyntaf, 'Do You See Me?', a gyd-gynhyrchwyd gan bedwar ar ddeg o ddioddefwyr-oroeswyr hŷn o'r gymuned LHDTC+. Mae'r ffilm yn taflu goleuni ar brofiadau byw pedwar o bobl LHDT hŷn sydd wedi profi cam-drin domestig.

Mae’r ail ffilm, 'Hidden Voices', yn ffilm fer i ymarferwyr sy'n codi ymwybyddiaeth am gam-drin domestig o fewn perthnasoedd LHDTC+ hŷn, ac mae’n rhoi cyngor ymarferol ar sut i ymateb yn briodol i ddioddefwyr LHDTC+ hŷn.

Mae'r pecyn cymorth yn amlinellu natur a pha mor gyffredin yw cam-drin domestig mewn perthnasoedd LHDTC+, gan ddarparu enghreifftiau o astudiaethau achos i ddangos dynameg cam-drin. Yn ogystal, mae'n edrych ar y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael cymorth, cefnogaeth a chyfiawnder, gan ystyried safbwyntiau ymarferwyr a phobl LHDTC+ hŷn. 

Mae'r adnodd yn rhoi arweiniad i ymarferwyr ar sut i ymateb yn effeithiol, ar lefel unigol a sefydliadol, i bobl LHDTC+ hŷn sydd yn neu sydd wedi dioddef cam-drin domestig.  Mae hefyd yn trafod gwerth mabwysiadu dull amlasiantaeth o gefnogi anghenion dioddefwyr-oroeswyr LHDTC+ hŷn.

Bydd yr adnodd newydd yn cael ei lansio ar-lein ddydd Mercher 30 Mawrth am 1pm.  I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ewch i www.eventbrite.co.uk/e/265814286687.

Mae’r pecyn cymorth wedi’i lywio gan ganfyddiadau'r ymchwil, ynghyd â gwybodaeth a gafwyd gan gleientiaid LHDTC+ hŷn sy'n ymwneud â Menter Dewis Choice.

Ariennir y maes ymchwil hwn gan y Gronfa Gymunedol Genedlaethol dan arweiniad Sarah Wydall, Rebecca Zerk ac Elize Freeman. 

Fel yr esbonia Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd Menter Dewis Choice a Chyfarwyddwr y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae'r adnodd newydd hwn yn arf pwysig i ymarferwyr sy'n gweithio gyda phobl LHDTC+ hŷn sydd yn neu sydd wedi dioddef cam-drin domestig, ac mae’r cynnwys wedi’i lywio'n uniongyrchol gan brofiadau byw pobl o geisio cymorth ac ymarferwyr arbenigol.

"Rydym yn gwybod bod pobl LHDTC+, fel grŵp, yn profi cam-driniaeth ar yr un gyfradd neu ar gyfraddau uwch na phobl heterorywiol. Ac eto, er y ceir cydnabyddiaeth gynyddol bod pobl LHDT yn dioddef cam-drin domestig, mae dioddefwyr LHDT hŷn yn aml wedi’u tangynrychioli o fewn ymchwil, polisi ac ymarfer."

"Nawr am y tro cyntaf, bydd ymarferwyr yn gallu cael cyngor ymarferol ynghylch sut i ymateb yn briodol i ddatgeliadau o gam-drin domestig gan bobl LHDTC+ hŷn, a gwybodaeth a chyngor ar sut i'w cynorthwyo'n effeithiol."

Menter yng Nghymru yw Dewis Choice sy'n cyfuno darparu gwasanaeth ag ymchwil. Gan weithio gyda sefydliadau partner, mae'r Fenter yn cynnig gwasanaeth unigryw ac wedi'i deilwra ar gyfer menywod, dynion a phobl anneuaidd hŷn sydd wedi profi cam-drin domestig. Mae’r astudiaeth ymchwil hydredol wedi cofnodi profiadau byw dioddefwyr hŷn dros gyfnod o saith mlynedd, wrth iddynt geisio cymorth a chyfiawnder. Caiff y canfyddiadau eu lledaenu'n eang ledled y Deyrnas Gyfunol fel bod modd ymgorffori’r hyn a ddysgir i ddulliau gweithredu, a sicrhau newid i bobl hŷn. Hyd yma, mae tîm y Fenter wedi hyfforddi dros 15,000 o ymarferwyr ledled y Deyrnas Gyfunol.

I gael rhagor o wybodaeth am Fenter Dewis Choice, ewch i: www.dewischoice.org.uk neu dilynwch nhw ar Twitter @choiceolderppl.

Os ydych chi'n dioddef cam-drin domestig neu'n poeni am rywun rydych chi'n ei adnabod, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn i gael gwybodaeth gyfrinachol a rhad ac am ddim ar 0808 80 10 800.