Gwaith adeiladu yn dechrau ar brosiect ynni gwyrdd

Delwedd o sut y bydd arae solar newydd Prifysgol Aberystwyth yn edrych pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau

Delwedd o sut y bydd arae solar newydd Prifysgol Aberystwyth yn edrych pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau

29 Mawrth 2022

Mae’r gwaith wedi dechrau ar osod arae solar newydd a fydd yn cynhyrchu trydan gwyrdd i Brifysgol Aberystwyth.

Bydd y buddsoddiad o £2.9m yn darparu hyd at 25 y cant o anghenion trydan blynyddol Campws Penglais ac yn lleihau allyriadau carbon y Brifysgol ychydig dros 500 tunnell bob blwyddyn, a hyd at 12,000 tunnell dros oes waith 25 mlynedd y cynllun.

Bydd yr arae newydd ar ddarn o dir 3.8 hectar sy’n eiddo i’r Brifysgol ar Fferm Penglais ac yn cynnwys mwy na 4500 o baneli solar unigol, ac mae disgwylir iddo fod yn gwbl weithredol erbyn diwedd Gorffennaf 2022.

Disgwylir i’r trydan a gynhyrchir arwain at ostyngiad o 8 y cant yn yr allyriadau blynyddol sy’n gysylltiedig ag ynni ar draws portffolio ynni cyfan y Brifysgol (nwy a thrydan) a chyfrannu at gyflawni amcan y Brifysgol o ystâd ddi-garbon erbyn 2030/31.

Ac, ar adeg o gostau ynni cynyddol, disgwylir i'r prosiect gyflawni arbedion ariannol o dros £325,000 y flwyddyn a thros £13m dros oes y prosiect.

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd bod y gwaith adeiladu ar y prosiect newydd cyffrous hwn, sy’n adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a lleihau ein hallyriadau tŷ gwydr, yn dechrau.

“Ein huchelgais yw ystâd Brifysgol a fydd yn niwtral o ran carbon erbyn 2030/1 ac mae’r datblygiad solar hwn yn gam pwysig tuag at wireddu hynny. Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o hyd wrth inni fynd i’r afael â rhai o’r heriau sylfaenol y mae cymdeithas yn eu hwynebu a gweithio i ddatgarboneiddio ein heconomi er lles y blaned.”

Mae disgwyl i’r prosiect fod yn garbon niwtral o fewn ychydig flynyddoedd cyntaf ei oes waith, a bydd y gwaith adeiladu ar y safle yn cynnwys elfennau i annog bioamrywiaeth yn y gwrychoedd cyfagos. Unwaith y bydd yn gwbl weithredol, bydd defaid yn parhau i bori’r tir o rhwng y paneli.

Dywedodd Brian Drysdale, Rheolwr Datblygu, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru: “Cysylltwyd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2018 i werthuso potensial ynni adnewyddadwy Prifysgol Aberystwyth. Fe wnaethom helpu i nodi safle priodol drwy wneud y gwaith modelu dichonoldeb cychwynnol, a chynghori ar ddatblygu achos busnes i sicrhau’r buddsoddiad angenrheidiol. Mae hon yn enghraifft arall wych o’r sector addysg uwch yng Nghymru yn arwain y ffordd tuag at sero net ac mae gweld y prosiect hwn yn dod yn fyw yn ein cyffroi.”

Dywedodd Hayley Bristow, Cydlynydd Rhaglen gyda Salix Finance Ltd, cwmni sy’n darparu cyllid ar gyfer mentrau effeithlonrwydd ynni yn y sector gyhoeddus: “Mae Salix yn falch o gefnogi Prifysgol Aberystwyth i gyflawni’r cam hwn o’u Cynllun Re:Fit, gyda £2.6m o gyllid gan Raglen Gyllido Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect arae PV solar yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith i ddatgarboneiddio’r sector gyhoeddus yng Nghymru, ac amcangyfrifir y bydd mwy na 500 tunnell o garbon yn cael ei arbed bob blwyddyn.”

Dywedodd Scott Lutton, Cyfarwyddwr Gweithredu, y Gogledd a’r Alban, Vital Energi: “Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud cynnydd cryf o ran cyrraedd ei thargedau lleihau carbon ac mae’r arae solar hon yn fuddsoddiad sylweddol arall sy’n dangos ei hymroddiad i gyflawni sero-net. Er mai lleihau carbon fu’r prif yrrwr ar gyfer y prosiect hwn, mantais arall defnyddio trydan adnewyddadwy yw y bydd yn insiwleiddio’r Brifysgol rhag y cynnydd ym mhris ynni.”

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi lleihau ei hallyriadau CO2 dros 40 y cant ac yn 2019 datganodd argyfwng hinsawdd.

Yn ddiweddar, cwblhaodd y Brifysgol gytundeb perfformiad ynni gwerth £3m fel rhan o raglen RE:FIT, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, er mwyn gwneud adeiladau'n fwy ynni-effeithlon.

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r Brifysgol, gan ddarparu amrywiaeth o gymorth technegol a masnachol, i helpu i nodi, datblygu a chyflawni prosiectau addas fel y prosiect solar ar Fferm Penglais.

Mae'r Brifysgol hefyd yn aelod o gonsortiwm o brifysgolion o’r DU sydd wedi taro bargen ynni gwyrdd nodedig gwerth £50m, y tro cyntaf i ddefnyddwyr ynni cyhoeddus gydweithio ar fargen o'r fath i brynu trydan glân.