Lansio prosiect twristiaeth wledig Cymru ac Iwerddon sy’n ceisio denu rhagor o dwristiaid

Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth; Dr Christine Bonnin, University College Dublin; Dr Arlene Crampsie, University College Dublin; Nigel Clubb, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed; Jessica Domiczew, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed; Dr Rhodri Llwyd Morgan, Prifysgol Aberystwyth.

Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth; Dr Christine Bonnin, University College Dublin; Dr Arlene Crampsie, University College Dublin; Nigel Clubb, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed; Jessica Domiczew, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed; Dr Rhodri Llwyd Morgan, Prifysgol Aberystwyth.

27 Ebrill 2022

Lansiwyd prosiect Ewropeaidd newydd sy’n werth €3 miliwn yn ddiweddar, a’i nod yw hybu twristiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru ac Iwerddon.

Arweinir prosiect Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth (CUPHaT) gan Brifysgol Aberystwyth, ac mae’n cydweithio â Choleg Prifysgol Dulyn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.

Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.

Bydd y cynllun yn para am ddwy flynedd a bydd yn defnyddio asedau treftadaeth ddiwylliannol a naturiol Mynyddoedd Canolbarth Cymru, Bryniau’r Preseli, Mynyddoedd Wicklow a Mynyddoedd Blackstairs i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy.

Bydd tîm y prosiect yn ymchwilio i sut y gall technoleg roi hwb i brofiad ymwelwyr, creu rhwydwaith twristiaeth ac ymgyrch farchnata ar y cyd. Bydd hefyd yn cydweithio ag ysgolion ac eraill i olrhain hanesion am ddiwylliant lleol.

Y nod hefyd yw rhoi hwb i’r economi lleol yn y ddwy ardal drwy feithrin neu ehangu wyth o ficrofentrau lleol.

Y targed yw denu 5% yn rhagor o dwristiaid erbyn diwedd y prosiect.

Meddai’r Athro Rhys Jones o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: "Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol dros ben a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr mewn cymunedau gwledig ac arfordirol yn nwyrain Iwerddon a gorllewin Cymru. Bydd hefyd yn helpu i oresgyn heriau Brexit a phandemig COVID-19 drwy fod yn sbardun i dwristiaeth ddomestig a rhyngwladol fwy cynaliadwy.

"Mae gan Gymru ac Iwerddon dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol gyfoethog ond amrywiol. Bydd y prosiect hwn yn cryfhau'r cysylltiadau sydd rhwng y ddwy wlad eisoes, a bydd yn ein helpu i ddysgu mwy am ein gilydd.

"Yn hollbwysig, bydd y prosiect hefyd yn sicrhau bod twristiaeth yn gweithio i'r gymuned leol ac yn rhoi rhywbeth yn ôl. Bydd yn adfywio ardaloedd yn hytrach na’u gwneud yn dlotach.”

Meddai Dr Arlene Crampsie a Dr Christine Bonnin o Goleg Prifysgol Dulyn: "Bydd y prosiect hwn yn rhoi llwyfan i dreftadaeth unigryw sy'n gyffredin rhwng ucheldiroedd arfordirol Cymru ac Iwerddon ar y ffin â Môr Iwerddon. Mae'n rhoi sylw i’r potensial sydd gan adnoddau treftadaeth ddiwylliannol a naturiol i helpu cymunedau i gyd-greu cynigion ar gyfer twristiaeth gynaliadwy, a dod â’r cynigion hyn at ei gilydd.

"Mae’r prosiect yn gyfle cyffrous i ddechrau defnyddio dulliau arloesol a thechnolegol sy'n seiliedig ar wyddoniaeth y gall pobl ar lawr gwlad eu defnyddio, a hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â chyfoeth y dirwedd yn y ddwy wlad a sicrhau bod rhagor o bobl o’r cymunedau hyn a thwristiaid fel ei gilydd yn gallu mwynhau’r safleoedd hyn. Drwy gydweithio i ddatblygu gweithgareddau twristiaeth sy'n briodol i’r ardal leol ac sy'n cefnogi ymdrechion i ddatblygu’r economi gwledig, bydd y gwaith hwn yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu cymunedau yn yr ucheldiroedd arfordirol o ran cynaladwyedd."

Meddai Jessica Domiczew, Swyddog Prosiect Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed: "Mae gan Fynyddoedd Canolbarth Cymru a Bryniau’r Preseli safleoedd archeolegol dirifedi lle gallwch weld holl gyfoeth ac amrywiaeth hanes Cymru. Mae prosiectau fel y rhain yn helpu i gysylltu cymunedau â'r dreftadaeth hon a chryfhau cysylltiadau ag Iwerddon. Bydd hefyd yn denu mwy o dwristiaid i fwynhau rhai o drysorau cudd Cymru drwy fath mwy cynaliadwy a gwahanol o dwristiaeth."