Anrhydedd frenhinol i academydd blaenllaw Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro Glyn Hewinson, Cadair Ymchwil Sêr Cymru yng Nghanolfan Ragoriaeth Twbercwlosis Buchol Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr Athro Glyn Hewinson, Cadair Ymchwil Sêr Cymru yng Nghanolfan Ragoriaeth Twbercwlosis Buchol Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth

02 Mehefin 2022

Mae’r Athro Glyn Hewinson CCDdC wedi’i urddo’n Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am wasanaethau i Iechyd a Lles Anifeiliaid.

 

Mae’r Athro Hewinson yn wyddonydd a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes twbercwlosis buchol ac mae wedi cyhoeddi dros 250 o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid ar y pwnc.

 

Bu’n arwain ymchwil i dwbercwlosis buchol yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am fwy nag ugain mlynedd. Dros y cyfnod hwn cyflwynodd ei dîm lawer o'r offer rheoli clefydau a ddefnyddir heddiw gan gynnwys profion diagnostig a brechlynnau ar gyfer moch daear a gwartheg a thechnegau genetig er mwyn deall lledaeniad y clefyd yn well.

 

Mae wedi bod yn gynghorydd i Lywodraeth y DU (DEFRA), Llywodraethau Cymru a’r Alban, Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd, Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a Sefydliad Iechyd y Byd.

 

Mae’r Athro Hewinson bellach yn arwain Canolfan Ragoriaeth Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Twbercwlosis Buchol. Derbyniodd Gadair Ymchwil Sêr Cymru yn 2018 fel rhan o sefydlu’r ganolfan sy’n ganolbwynt ar gyfer ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol i TB mewn gwartheg.

 

Wrth sôn am ei anrhydedd, dywedodd yr Athro Hewinson:

 

“Mae’n fraint arbennig i dderbyn yr anrhydedd wych hon – roedd yn syndod mor annisgwyl. Rwy’n ei gweld fel cydnabyddiaeth o ymdrechion yr holl bobl anhygoel a thalentog rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda nhw dros nifer o flynyddoedd. Rwy’n hynod ddiolchgar iddyn nhw i gyd, yn ogystal ag i’m teulu, y mae eu hanogaeth a’u cefnogaeth ddiwyro wedi bod mor bwysig i mi drwy gydol fy ngyrfa.”

 

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure:

 

“Rwy’n falch iawn bod Glyn wedi derbyn yr anrhydedd haeddiannol hon. Rydyn ni mor falch o’r gwaith y mae’n ei wneud yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn arwain y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer TB Gwartheg. Mae ymrwymiad, arbenigedd ac angerdd helaeth Glyn ym maes iechyd anifeiliaid yn disgleirio ym mhopeth y mae’n ei wneud. Dyna pam y mae cymaint o barch iddo. Mae ei waith yn hollbwysig i fywyd mewn llawer o gymunedau gwledig yma yng Nghymru ac ar draws y byd, a bydd yr anrhydedd hon yn symbol o’r parch, y gwerthfawrogiad a’r edmygedd y mae Glyn yn ei ennyn wrth iddo barhau i arwain yn ei faes.”