Arddangosfa Senedd yn dangos effaith newid hinsawdd ar arfordiroedd

Julian Ruddock Gwales (2021)  Llun wedi'i gynhyrchu o'r ddelwedd LiDAR wreiddiol trwy garedigrwydd CHERISH © Crown: CHERISH PROJECT 2020. Cynhyrchwyd gyda chymorth cronfeydd yr UE fel rhan o Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2022. Mae’r holl ddeunydd sydd ar gael am ddim trwy'r Drwydded Llywodraeth Agored.

Julian Ruddock Gwales (2021) Llun wedi'i gynhyrchu o'r ddelwedd LiDAR wreiddiol trwy garedigrwydd CHERISH © Crown: CHERISH PROJECT 2020. Cynhyrchwyd gyda chymorth cronfeydd yr UE fel rhan o Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2022. Mae’r holl ddeunydd sydd ar gael am ddim trwy'r Drwydded Llywodraeth Agored.

08 Mehefin 2022

Mae arddangosfa yn darlunio effeithiau newid hinsawdd ar arfordiroedd bregus Cymru ac Iwerddon wedi agor yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Mae’r arddangosfa yn amlygu gwaith prosiect CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd), a ariennir gan yr UE, sy’n dod ag archeolegwyr, daearyddwyr a daearegwyr ynghyd mewn astudiaeth drawsddisgyblaethol i edrych ar effeithiau newid hinsawdd, stormydd a thywydd eithafol ar dreftadaeth arfordirol a morol Cymru ac Iwerddon.

Mae gweithiau celf Dr Julian Ruddock, Darlithydd mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’i gyd-artist Pete Monaghan, ar ddangos yn Oriel y Senedd.  Mae eu gwaith, sydd wedi datblygu ochr yn ochr â gwyddonwyr, yn cynrychioli ymatebion gweledol yr artistiaid i, a dehongliadau o, ganfyddiadau gwyddonol y prosiect CHERISH.

Dywedodd yr Athro Sarah Davies, Pennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:

“Mae’r arddangosfa hon yn gyfle gwych i ni dynnu sylw at bwysigrwydd ein gwaith yma yn Aberystwyth ynghyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae ein gwaith gyda phartneriaid yn Iwerddon a chymunedau arfordirol i ymchwilio i effeithiau hirdymor newid hinsawdd ac amgylcheddol yn cyfrannu at ddealltwriaeth ddyfnach o'r tirweddau arfordirol deinamig hyn a graddfa’r newid yn y safleoedd treftadaeth arfordirol hyn. Diolch yn fawr iawn i Julian a Pete am eu cyfraniadau gwych a fydd yn dod â’r canfyddiadau hyn i gynulleidfa newydd.”

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James MS, a agorodd yr arddangosfa yn swyddogol:

“Roedd yn bleser mynychu agoriad yr arddangosfa. Mae'n hynod o bwysig bod safleoedd treftadaeth ac adnoddau sydd mewn perygl o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn cael eu diogelu. Mae'r prosiect pwysig hwn yn dod â Chymru ac Iwerddon at ei gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau ry’n ni’n eu hwynebu mewn perthynas â newidiadau hinsawdd ac amgylcheddol yn ein hardaloedd arfordirol.”

 

Mae’r arddangosfa celf-gwyddoniaeth, sy’n ffrwyth gwaith y cydweithio, yn cynnwys paentiadau, acrylig/collage ar baneli pren, ac ailddehongliadau o ddelweddau sy’n deillio o wyddoniaeth gan ddefnyddio ffotograffiaeth ddigidol a fideo.

Eglurodd Dr Julian Ruddock: “Mae’r darnau yn yr arddangosfa’n trin a thrafod y dirwedd arfordirol hynod a’r safleoedd a gafodd eu harchwilio gan CHERISH. Mae rhai darnau yn ailddehongli awyrluniau sy'n datgelu newid yn y tirweddau dros amser. Mae eraill yn cynnig ymateb artistig i brofiadau uniongyrchol a goddrychol o leoedd, tywydd a’r amgylchedd.

“Wedi’u lleoli o fewn cyd-destun brys hinsawdd sy’n newid, mae’r gweithiau celf yn ystyried perthnasedd yr arfordir yn ein gorffennol cyfunol, ac yn codi ymwybyddiaeth o harddwch naturiol a threftadaeth ddiwylliannol y safleoedd preswyl hynafol hyn sy’n cael eu colli’n gyflym i'r môr.”

Mae CHERISH yn brosiect 6 blynedd rhwng Cymru-Iwerddon sy’n cynnwys Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth sy’n gweithio ochr yn ochr â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru; y Rhaglen Darganfod, Iwerddon; ac Arolwg Daearegol Iwerddon.