Dŵr Cymru i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i fonitro ansawdd dŵr yfed

Dr Katherine Martin (Dŵr Cymru Welsh Water) a Dr Amanda Clare (Aberystwyth University) yn defnyddio'r model deallusrwydd artiffisial.

Dr Katherine Martin (Dŵr Cymru Welsh Water) a Dr Amanda Clare (Aberystwyth University) yn defnyddio'r model deallusrwydd artiffisial.

25 Mehefin 2022

Mae Dŵr Cymru yn mynd i ddefnyddio systemau deallusrwydd artiffisial (DA) a adeiladwyd gan Brifysgol Aberystwyth i fonitro effeithiolrwydd ei phrosesau trin dŵr.

Mae dŵr yn mynd drwy resi o hidlwyr a phrosesau trin eraill cyn ei fod yn ddiogel i'w yfed. Ar bob cam, caiff ei fesur i asesu faint o ddeunydd solet sydd ynddo, yn ogystal â’i asidedd, lefelau clorin, cyfradd llifo, a pha mor glir ydyw.

Mae’r hidlwyr yn cynnwys synwyryddion sy'n rhybuddio’r gweithredwyr os bydd unrhyw broblemau'n codi neu os oes angen gwneud gwaith i’w cynnal a’u cadw. Ar hyn o bryd mae'r wybodaeth o’r synwyryddion hyn yn gweithredu fel larwm yn hytrach na rhoi rhybuddion cynnar am broblemau neu roi'r rhesymau am y problemau eu hunain.

Serch hynny, gellid defnyddio'r wybodaeth o’r synwyryddion i ddweud mwy wrth Dŵr Cymru am y prosesau trin. Bydd system Deallusrwydd Artiffisial a adeiladwyd gan Dr Amanda Clare, Uwch Ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn rhybuddio peirianwyr ynglŷn ag unrhyw broblemau sy'n dod i’r amlwg, gan wneud seilwaith Dŵr Cymru yn fwy effeithlon a dibynadwy.

Bydd y model Deallusrwydd Artiffisial yn seiliedig ar 15 mlynedd o ddata o'r system hidlo a chaiff ei ddefnyddio hefyd i nodi risgiau i fyny’r afon a allai beryglu ansawdd dŵr yfed, sy’n golygu y bydd modd cymryd camau rhagataliol i ymdrin ag unrhyw broblemau. Bydd y dechnoleg hefyd yn cael ei defnyddio i ragweld anomeleddau, dirywiad y systemau hidlo ac effeithiau’r tywydd tymhorol ar y seilwaith.

Ariennir y gwaith trwy gymrodoriaeth ddiwydiannol gan yr Academi Beirianneg Frenhinol.

Dywedodd Dr Amanda Clare: "Dyma enghraifft wych o sut y gall prifysgolion a byd diwydiant gydweithio ar syniadau peirianneg uwch-dechnoleg. Drwy gymhwyso gwyddor data a thechnoleg Deallusrwydd Artiffisial i'r gweithfeydd trin dŵr hyn a’u symiau enfawr o ddata amser real, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddibynadwyedd ein hansawdd dŵr.

"Mantais technolegau fel gwyddor data a Deallusrwydd Artiffisial yw eu bod yn gallu canfod patrymau ac eithriadau i'r patrymau hynny. Mae prosiectau fel yr un rydym yn ei gynnal gyda Dŵr Cymru yn un enghraifft o’r ffordd y gall defnydd effeithiol ac awtomataidd o ddata parhaus lywio penderfyniadau ac arwain at waith cynnal a chadw amserol."

Mae Dŵr Cymru yn cyflenwi dros 800 miliwn litr o ddŵr yfed bob dydd i dros dair miliwn o gwsmeriaid ar draws Cymru a rhannau o Loegr.

Dywedodd Dr Katherine Martin, Rheolwr Risg Ansawdd Dŵr yn Dŵr Cymru, a chyn-fyfyrwraig raddedig o Brifysgol Aberystwyth: " Yn Dŵr Cymru, mae darparu cyflenwad dŵr sydd o'r ansawdd uchaf bob amser yn flaenoriaeth i ni. Mae ein gweledigaeth hirdymor o arloesi a gwella’n barhaus yn cynnwys mwy o reoli a dadansoddi ar sail data. Y gobaith yw y byddwn yn gallu defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i weithio'n fwy effeithlon ac i adnabod risgiau i ansawdd dŵr yn gynharach".