Prifysgol Aberystwyth yn gefeillio gyda phrifysgol o Wcráin

28 Mehefin 2022

Disgwylir i fyfyrwyr o Wcráin astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dilyn cyhoeddiad am drefniant gefeillio newydd gydag un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r wlad, Prifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa.

Llofnododd cynrychiolwyr o’r ddwy brifysgol Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth yng Nghynhadledd Gefeillio’r DU-Wcráin a gynhaliwyd gan Universities UK heddiw, ddydd Mawrth 28 Mehefin 2022..

Cyhoeddwyd 24 partneriaeth newydd yn y gynhadledd heddiw, sy’n golygu bod cyfanswm o 71 trefniant gefeillio rhwng prifysgolion yn y DU ac Wcráin wedi eu sefydlu ers i Cormack Consultancy Group lansio’r fenter gyda chefnogaeth Universities UK.

Mae'r cytundeb yn braenaru’r tir ar gyfer cyfnewid myfyrwyr a staff rhwng Prifysgol Aberystwyth ac Odessa gyda'r ffocws ar economeg, cyfrifeg a busnes yn y lle cyntaf.

Bydd y garfan gyntaf o tua 20 o fyfyrwyr o Wcráin yn treulio cyfnod ar ddechrau mis Awst yn astudio yn Ysgol Fusnes Aberystwyth ac yn derbyn hyfforddiant iaith Saesneg yng Nghanolfan Saesneg Rhyngwladol y Brifysgol.

Mae cynlluniau hefyd yn eu lle i ail grŵp o fyfyrwyr ymuno â Phrifysgol Aberystwyth ar gyfer semester cyntaf y flwyddyn academaidd newydd - Medi 2022 i Ionawr 2023.

Yn ogystal, mae disgwyl i hyd at chwe aelod o staff academaidd ddod gyda nhw a byddant yn addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ac o bell i fyfyrwyr yn Odessa.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’r cytundeb a lofnodwyd heddiw gyda Phrifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa yn gam pwysig wrth i ni weithio i helpu myfyrwyr y mae’r gwrthdaro dinistriol yn Wcráin wedi amharu ar eu hastudiaethau academaidd. Mae’r ddau sefydliad yn gweddu’n dda yn academaidd ac edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr o Odessa i Aberystwyth yn y dyfodol agos fel y cam cyntaf i ddatblygu’r hyn yr ydym yn gobeithio y bydd yn berthynas hirdymor fuddiol.”

Yn ogystal â chyfnewid myfyrwyr a staff, mae cysylltiadau newydd yn cael eu creu rhwng Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ac Odessa, ac mae cynlluniau’n cael eu datblygu i ddarparu offer a mynediad i adnoddau digidol.

Sefydlwyd Prifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa ym 1921, a heddiw mae ganddi 10,000 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac mae ei ffocws academaidd ar ymchwil sylfaenol a chymhwysol mewn economeg.

Mewn neges o Wcráin, dywedodd yr Athro Kovalev Anatoly Ivanovich, Rheithor Prifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa: “Fel rhan o fenter Cormack Consultancy Group daeth Prifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa yn rhan o’r Rhaglen Gefeillio, sy’n darparu ar gyfer sefydlu partneriaethau agos a chefnogaeth gan sefydliadau addysg uwch Prydain i sefydliadau addysg uwch Wcráin. Yn sgil ymddygiad ymosodol milwrol agored gan Ffederasiwn Rwsia, roedd angen i sefydliadau addysg uwch Wcráin, ac yn arbennig, Prifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa, ddod o hyd i ffyrdd o oroesi. Mae gostyngiadau mewn cyllidebau a gallu myfyrwyr i dalu, ymadawiad llawer o athrawon a myfyrwyr dramor, yr angen i fod yn fwy ymwybodol o ddiogelwch, cynnal hwyliau a phwysau seicolegol ar staff – mae hyn oll yn tanlinellu pwysigrwydd mawr y gefnogaeth y mae’r rhaglen gefeillio hon a gychwynwyd gan Cormack Consultancy Group, a Phrifysgol Aberystwyth yn ei gynnig i Brifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa.”

Dywedodd Vivienne Stern MBE, Cyfarwyddwr Universities UK International: “Rydym wrth ein bodd â’r niferoedd sydd wedi manteisio ar y cynllun arbennig hwn, sy’n paru ein prifysgolion â phrifysgolion yn Wcráin i’w helpu i barhau i weithredu. Mae’r cymorth yn cynnwys eu helpu i addysgu o bell, croesawu staff a myfyrwyr i gampysau yn y DU, darparu mynediad i lyfrgelloedd ac offer, a chefnogi parhad gweithgaredd ymchwil Wcráin.

“Mae’r rhain yn ymrwymiadau sylweddol a hirdymor, ac mae’r undod a ddangoswyd rhwng prifysgolion yn y DU ac Wcráin wedi bod yn rhyfeddol ac yn ysbrydoledig.”

Mae’r cytundeb hwn yn adeiladu ar berthynas agos rhwng Prifysgol Aberystwyth ac Wcráin sy’n ymestyn yn ôl i 2006 a dadorchuddio cofeb i’r newyddiadurwr Gareth R V Jones gan Lysgennad Wcráin yn Llundain ar y pryd, Ihor Kharchenco.

Roedd Gareth Jones yn raddedig o Aberystwyth ac ef oedd y newyddiadurwr gorllewinol cyntaf i adrodd ar yr Holodomor, y newyn mawr a darodd Wcráin yn 1932-33 ac y credir iddo ladd rhwng 7 a 10 miliwn o bobl.

Condemniodd Prifysgol Aberystwyth yr ymosodiad milwrol gan fyddin Rwsia a gweithredoedd llywodraeth Rwsia yn gynharach eleni a chynigiodd ei chefnogaeth lawn i’r rhai a gafodd ei heffeithio.