Academyddion dileu TB yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr Athro Glyn Hewinson a'r Athro Bernardo Villarreal-Ramos

Yr Athro Glyn Hewinson a'r Athro Bernardo Villarreal-Ramos

30 Mehefin 2022

Daeth gwyddonwyr blaenllaw ynghyd yn Aberystwyth heddiw (ddydd Iau 30 Mehefin) i drafod y datblygiadau diweddaraf yn y frwydr yn erbyn twbercwlosis (TB).

 

Fe ddenodd y gynhadledd, a gynhaliwyd gan Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg Prifysgol Aberystwyth, dros 100 o wyddonwyr o bob cwr o’r Deyrnas Gyfunol.

 

Mae’r academyddion i gyd yn aelodau o’r ‘Acid Fast Club’ a ffurfiwyd ym 1954 gan wyddonwyr yn y Sefydliad Ymchwil Meddygol Cenedlaethol.

 

Hi yw prif gymdeithas ymchwil mycobacterol y DU ac mae cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i drafod pob agwedd ar ymchwil mycobacterial.

 

Bellach mae’n un o’r prif fforymau trafod TB mewn gwartheg a phobl.

 

Yr Athro Glyn Hewinson a'r Athro Bernardo Villarreal-Ramos a drefnodd y gynhadledd yn Aberystwyth

 

Yn anerchiad agoriadol y gynhadledd, rhoddodd yr Athro Hewinson drosolwg o sefyllfa TB Gwartheg yng Nghymru a gwaith y Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru yn y Brifysgol.

 

Wrth siarad am bwysigrwydd y gynhadledd, dywedodd yr Athro Hewinson:

 

“Roedd yn bleser gen i groesawu’r holl arbenigwyr yma i Aberystwyth. Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o effaith ddifrifol TB ar ein cymunedau: mae cydweithio yn hanfodol wrth i ni chwilio am y ffordd orau ymlaen i’w ddileu.

 

“Mae’r gymdeithas hon a’i chynadleddau yn werthfawr iawn o ran dod i nabod pa ymchwil sy’n digwydd ar draws ynysoedd Prydain, gan rannu gwybodaeth ac arbenigedd, annog ymchwilwyr yn ystod cyfnod cynnar eu gyrfaoedd gan feithrin cydweithio a chyfeillgarwch gydag ymchwilwyr eraill ar hyd y ffordd. Mae ei hirhoedledd, fel cymdeithas sy’n agosáu at ei phen-blwydd yn 70, yn dyst i weledigaeth ei sylfaenwyr.”