Meddylwyr blaenllaw i annerch gŵyl ymchwil Prifysgol Aberystwyth

Rhai o siaradwyr Gŵyl Ymchwil Aberystwyth 2022 - yr Athro Olivette Otele, Lee Waters AS, Aled Haydn Jones o Radio 1, Golygydd Hinsawdd y BBC Justin Rowlatt, Dr Rowan Williams a'r Athro Mererid Hopwood

Rhai o siaradwyr Gŵyl Ymchwil Aberystwyth 2022 - yr Athro Olivette Otele, Lee Waters AS, Aled Haydn Jones o Radio 1, Golygydd Hinsawdd y BBC Justin Rowlatt, Dr Rowan Williams a'r Athro Mererid Hopwood

08 Tachwedd 2022

Bydd cyn Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams a PhennaethBBC Radio 1 Aled Haydn Jones ymysg y cyfranwyr yng Ngŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae’r ŵyl flynyddol yn tynnu sylw at yr ymchwil o safon fyd-eang yn Aberystwyth, ac mae’r un eleni’n cael ei chynnal fel rhan o’i dathliadau 150 mlwyddiant. 

Bydd yr arbenigwr byd-enwog ar hanes caethwasiaeth, yr Athro Olivette Otele, yn traddodi darlith gyhoeddus trabydd Golygydd Hinsawdd y BBC Justin Rowlatt yn siarad am yr heriau newid hinsawdd sy’n wynebu’r byd wedi COP27 yn yr Aifft.

Bydd trafodaethau panel yn archwilio gwahanol agweddau ar ddyfodol Cymru, gan gynnwys Dr Rowan Williams a’r Athro Mererid Hopwood yn trafod swyddogaeth deialog wrth greu dyfodol gwell. 

Bydd Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, yn lansio Canolfan Trafnidiaeth a Symudedd Prifysgol Aberystwyth a fydd yn hyrwyddo ymchwil ar drafnidiaeth gynaliadwy a phatrymau teithio.

Mae rhagor o wybodaeth a thocynnau am ddim ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus yr Ŵyl ar gael drwy fynd i: aber.ac.uk/gwylymchwil 

Dywedodd Yr Athro Rhys Jones, Cadeirydd Gŵyl Ymchwil 2022 Prifysgol Aberystwyth:

“Un o brif amcanion yr Ŵyl yw ymgysylltu â chymunedau lleol ynghyd â rhannu syniadau a mewnwelediadau. Rydyn ni eisiau hyrwyddo deialog gadarnhaol rhwng ein Prifysgol, ein gwleidyddion a’r cyhoedd. Rwy’n siŵr y bydd y trafodaethau yn yr Ŵyl yn helpu i daflu goleuni ar y materion brys sydd o’n blaenau fel gwlad a phlaned, ac ysgogi trafodaeth drylwyr ar draws pob disgyblaeth.”

Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Elizabeth Treasure:

“Mae’n wych gweld ystod eang o siaradwyr mewn amrywiaeth o feysydd yn cymryd rhan ar gynifer o bynciau difyr. Mae’r Ŵyl Ymchwil yn gyfle gwych i ddod â rhywfaint o’r gwaith pwysig a wneir yma yn y Brifysgol at sylw cynulleidfaoedd lleol a chenedlaethol. 

“Wrth i ni ddathlu ein 150 mlwyddiant fel prifysgol gyntaf Cymru, mae’n amser addas i edrych ymlaen at yr heriau sy’n ein hwynebu a thrafod y bydoedd rydyn ni eisiau byw ynddyn nhw.”