Nyrsys Milfeddygol i gael eu haddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth o 2024

Emma Anscombe-Skirrow, Uwch Ddarlithydd mewn Nyrsio Milfeddygol

Emma Anscombe-Skirrow, Uwch Ddarlithydd mewn Nyrsio Milfeddygol

09 Tachwedd 2022

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio i fod yn nyrsys milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2024, wrth i unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru ehangu yno.

Y nyrs milfeddygol profiadol Emma Anscombe-Skirrow sydd wedi’i phenodi fel Uwch Ddarlithydd newydd mewn Nyrsio Milfeddygol a hi fydd yn arwain y gwaith o sefydlu’r cwrs newydd. 

Gyda thros 10 mlynedd o brofiad ym maes addysg, mae hi wedi bod yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol yn achredu cymwysterau israddedig ac ôl-raddedig.

Mae disgwyl i’r myfyrwyr nyrsio milfeddygol cyntaf ddechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi 2024. 

Dywedodd Emma Anscombe-Skirrow o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae’n hynod gyffrous ymuno â’r tîm yn Aberystwyth. Nid yn aml mae rhywun yn cael y cyfle i fod yn rhan o fenter mor arbennig. Mae llwyddiant unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru ers iddo agor y llynedd yn wych o weld. Mae ychwanegu astudiaethau nyrsio milfeddygol i’r radd filfeddygol sydd eisoes yn cael ei haddysgu’n gyfle gwych i ehangu darpariaethau addysgol yr Ysgol.”

Mae myfyrwyr wedi bod yn astudio i fod yn filfeddygon ym Mhrifysgol Aberystwyth ers mis Medi 2021, wedi buddsoddiad o dros £2 miliwn mewn cyfleusterau newydd.

Yn rhan allweddol o’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf yng Nghymru, cafodd Canolfan Addysg Milfeddygaeth newydd Aberystwyth ei hagor yn swyddogol ym mis Rhagfyr y llynedd gan y Brenin Charles III.

Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:

“Bellach mae gan Gymru ei Hysgol Filfeddygol ei hun sy’n diwallu ac sy’n cwrdd ag anghenion ei chymuned filfeddygol ei hun - o ddarparu graddedigion sy’n gallu siarad Cymraeg, sy’n dod o Gymru ac sydd felly’n fwy tebygol o aros yng Nghymru, i gefnogi'r proffesiwn gyda hyfforddiant ôl-raddedig ac ymgymryd ag ymchwil sy'n rhagorol ac sydd hefyd yn berthnasol yn lleol.

“Gyda’r rhaglen israddedig wedi hen ddechrau, ac yn unol â gweledigaeth yr Ysgol ac adborth gan y proffesiwn, rydym yn falch iawn y bydd Emma Anscombe-Skirrow yn arwain y gwaith o gyflwyno gradd nyrsio filfeddygol o 2024.

“Trwy gyfoethogi’r proffesiwn, rydym yn cefnogi nid yn unig y gymuned ffermio ond perchnogion anifeiliaid anwes, buddiannau marchogol, llywodraeth genedlaethol ac, yn ein tro, cymdeithas Cymru. Dyna hefyd pam mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi cymaint mewn creu canolfan ragoriaeth mewn iechyd anifeiliaid i ychwanegu at ei llwyfannau presennol - o labordai o’r radd flaenaf i arbenigedd byd-eang mewn ymchwil i TB mewn gwartheg.”

Gellir gwneud ymholiadau am y cwrs nyrsio milfeddygol ac ymgeisio drwy e-bostio vetssat@aber.ac.uk.