Trafod cryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd am y cyfryngau

14 Tachwedd 2022

Bydd academydd o Aberystwyth yn trafod sut i gryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd amlwg ynghylch y cyfryngau yr wythnos hon.

Cynhelir ‘Lleisiau’r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau’n Gweithio dros Gymru’ yn y Sefydliad Materion Cymreig yng Nghaerdydd ddydd Iau 17 Tachwedd, ac mae'n cynnwys areithiau o bwys gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden AS, a'r newyddiadurwr arobryn Shirish Kulkarni.

Yn rhan o'r rhaglen bydd Dr Anwen Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn arwain trafodaeth am y rhan y gall sgyrsiau ymgynghori eu chwarae mewn democratiaeth gydag Yvonne Murphy o’r Talking Shop, sef canolfan wybodaeth am ddiwylliant a democratiaeth yng Nghaerdydd. 

Dr Elias yw arweinydd y prosiect Dyfodol Cyfansoddiadol ym Mhrifysgol Aberystwyth - prosiect sy'n ceisio ysgogi sgyrsiau newydd ynglŷn â sut y dylem gael ein llywodraethu, a hynny fel sail i ddychmygu gwahanol ddyfodol cyfansoddiadol. Mae'r prosiect yn archwilio ffyrdd arloesol o gynnwys dinasyddion mewn trafodaethau am lywodraethu tiriogaethol sy'n effeithio arnynt ond nad ydynt, yn aml iawn, yn eu cynnwys.

Yn ôl Dr Elias:

"Mae hwn yn gyfle gwych i rannu canfyddiadau prosiect sydd wedi bod yn defnyddio dulliau creadigol megis gwneud collage i ddechrau sgyrsiau newydd am sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu. Rwy'n gobeithio y gall ein canfyddiadau gyfrannu at drafodaeth ehangach am sut i gryfhau democratiaeth yng Nghymru."

Bydd y Sefydliad Materion Cymreig a'r Brifysgol Agored yng Nghymru hefyd yn cyflwyno gwaith Panel Dinasyddion a ddaeth ynghyd yn ystod yr haf i drafod y cwestiwn: 'Pa mor dda mae'r newyddion yn eich helpu i ddeall gwleidyddiaeth?', gan drafod sut y gallai’r cyfryngau yng Nghymru ddiwallu anghenion pobl a chymunedau yn well, yn ogystal â thrafod yr ymateb i'w hargymhellion gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant a chan wleidyddion.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys awduron sy’n trafod darlledu yng Nghymru yn y gorffennol a heddiw. Byddwn hefyd yn dathlu lansio ymchwil newydd gan y Sefydliad Materion Cymreig sy'n ystyried sut y gallai fod angen newid y fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol er mwyn sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn addas ar gyfer Cymru'r dyfodol, gyda thrafodaeth panel a fydd yn cynnwys yr Athro Jamie Medhurst, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ‘Lleisiau’r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau’n Gweithio dros Gymru’ yn cael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth, y Brifysgol Agored yng Nghymru, Gwasg Prifysgol Cymru a Newport Live.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i:
https://www.iwa.wales/eventbrite-event/citizens-voices-peoples-news-making-the-media-work-for-wales/