Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth yn helpu i gynnal safonau ansawdd mewn addysg uwch

Yr Athro Jamie Medhurst

Yr Athro Jamie Medhurst

07 Rhagfyr 2022

Bydd Athro o Brifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan flaenllaw wrth osod safonau a chynnwys cyrsiau addysg uwch ledled y DU.

Mae'r Athro Jamie Medhurst, Athro yn y Cyfryngau a Chyfathrebu, wedi'i benodi gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (ASA) i helpu i lywio gwaith i ystyried safonau ac ansawdd ym maes pwnc Cyfathrebu, y Cyfryngau, Ffilm ac Astudiaethau Diwylliannol.

Mae'r ASA yn gorff annibynnol sy'n monitro safonau ac ansawdd mewn addysg uwch ledled y DU, ac yn cynghori yn eu cylch.

Mae'n arwain y gwaith o ddatblygu Datganiadau Meincnod Pwnc sy'n disgrifio natur yr astudiaeth a'r safonau academaidd a ddisgwylir gan raddedigion mewn meysydd pwnc penodol. Caiff pob datganiad ei adolygu'n rheolaidd gan grŵp cynghori, gan gynnwys aelodau o'r gymuned academaidd, cyflogwyr, cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol, a myfyrwyr. 

Dywedodd yr Athro Jamie Medhurst, Athro yn y Cyfryngau a Chyfathrebu a Phennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth:  "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n un o Ddirprwy Gadeiryddion y panel, ynghyd â Dr Sorcha Ní Fhlainn (Prifysgol Fetropolitan Manceinion) gyda'r Athro Einar Thorsen (Prifysgol Bournemouth) yn Gadeirydd y panel.

"Mae rôl y Dirprwy Gadeirydd yn cynnwys cefnogi'r Cadeirydd wrth ddewis y Grŵp Ymgynghorol, ac rydym wrthi’n gwneud hyn ar hyn o bryd. Byddwn hefyd yn cytuno â'r Cadeirydd a'r ASA ar gyfrifoldebau penodol ar gyfer datblygu'r Datganiad. Gall hyn gynnwys arwain is-grwpiau ar ysgrifennu adrannau a chynnwys. Bydd y Dirprwy Gadeirydd hefyd yn gweithio gyda'r Cadeirydd a’r ASA ar unrhyw newidiadau i'r Datganiad Meincnod yn sgil adborth i'r ymgynghoriad."

Dywedodd Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol: "Llongyfarchiadau i'r Athro Medhurst ar ei benodiad i'r rôl bwysig hon. Fel academydd nodedig yn ei faes, bydd ei arbenigedd a'i fewnbwn yn amhrisiadwy wrth i'r ASA ystyried ei chyfarwyddyd ynghylch dylunio, cyflwyno ac adolygu rhaglenni academaidd, er mwyn diogelu'r profiad academaidd o ansawdd uchel y mae myfyrwyr yn ei haeddu."