Myfyrwyr yn Aberystwyth yn creu adnoddau i ddysgu plant am droseddau ieuenctid

Sgrinlun o gêm gyfrifiadurol a ddyluniwyd gan fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth i gyfathrebu â phlant am oedran ieuengaf cyfrifoldeb troseddol.

Sgrinlun o gêm gyfrifiadurol a ddyluniwyd gan fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth i gyfathrebu â phlant am oedran ieuengaf cyfrifoldeb troseddol.

20 Rhagfyr 2022

Roedd cân fachog wedi’i chwarae ar iwcalili a gêm gyfrifiadurol newydd ymhlith yr adnoddau arloesol yr aeth myfyrwyr Troseddeg Prifysgol Aberystwyth ati i’w dylunio ar gyfer plant ysgolion cynradd.

Mae'r modiwl Youth Crime and Justice, sy’n cael ei ddysgu yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, yn cyflwyno myfyrwyr i faes datblygiad plant, troseddau ieuenctid a sut mae plant sy'n troseddu yn cael eu trin, yn ogystal â chloriannu nifer o fentrau cyfiawnder ieuenctid.

Yn rhan o'r modiwl, mae’r aseiniad yn gofyn i fyfyrwyr gynhyrchu adnodd addas o ran oedran i helpu plant i ddeall cysyniad oedran ieuengaf cyfrifoldeb troseddol.

Mae oedran ieuengaf cyfrifoldeb troseddol yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn destun dadl ers blynyddoedd lawer.

Ers y 1960au, ystyrir bod plant a phobl ifanc 10 oed a hŷn yn gyfrifol yn droseddol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr Alban, cafodd oedran cyfrifoldeb troseddol ei gynyddu i 12 mlwydd oed yn ddiweddar.

Fel yr eglura Dr Kathy Hampson, sy'n arwain y modiwl Youth Crime and Justice: "Fe all plentyn 10 oed yng Nghymru neu Loegr gael ei ddyfarnu'n euog o drosedd, a bod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu a allai arwain at record droseddol a fydd gyda hwy am weddill eu hoes. Fodd bynnag, nid yw'r cysyniad o feiusrwydd troseddol plant yn cael ei ddysgu mewn ysgolion. Rydym yn annog ein myfyrwyr i ystyried y ffaith hon, ac ymateb i'r her drwy ddatblygu adnodd er mwyn cyfathrebu â phlant am oedran ieuengaf cyfrifoldeb troseddol."

"Roedd yr aseiniadau creadigol yn arbennig o ddyfeisgar a gwreiddiol eleni.  Cyfansoddodd un o'r myfyrwyr gân a chanddi eiriau hynod o glyfar, gyda harmonïau a chyfeiliant ar iwcalili. Cynhyrchodd un arall lyfr gwych i blant, ac aeth un myfyriwr ati i godio gêm gyfrifiadurol o'r dechrau, a llunio deialog ardderchog i gyd-fynd â hi." 

"Mae ymdrech ac egni creadigol y myfyrwyr wrth iddynt fynd ati i ddatblygu eu hadnoddau difyr ac addysgiadol wedi gwneud argraff fawr arnaf. Mae'r aseiniad hefyd yn dangos bod yna ffyrdd mwy dyfeisgar, weithiau, o asesu’r hyn y mae myfyrwyr wedi’i ddysgu na gosod traethawd iddynt."

Mae Dr Kathy Hampson yn ddarlithydd Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu'n gweithio gyda phlant ym maes cyfiawnder troseddol am flynyddoedd lawer, ac mae'n ymchwilio i systemau cyfiawnder, dalfa ac ailsefydlu ieuenctid, a sut i fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol gan blant.