Gallai athrawon iaith ddefnyddio nofelau graffeg yn hytrach na thraethodau wrth asesu myfyrwyr

Enghraifft o Brifysgol Galway, Iwerddon. Llyfr i blant a grëwyd gan fyfyriwr fel rhan o fodiwl yn Sbaeneg am lenyddiaeth plant. Credyd llun:  Pilar Alderete Diez (Prifysgol Galway, Iwerddon)

Enghraifft o Brifysgol Galway, Iwerddon. Llyfr i blant a grëwyd gan fyfyriwr fel rhan o fodiwl yn Sbaeneg am lenyddiaeth plant. Credyd llun: Pilar Alderete Diez (Prifysgol Galway, Iwerddon)

19 Ionawr 2023

Gellid defnyddio clownio, dramâu radio a nofelau graffeg i asesu myfyrwyr sy’n dysgu ieithoedd, yn ôl gwaith sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae addysgu ieithoedd modern yn aml yn dibynnu ar asesiadau traddodiadol fel gwaith ysgrifenedig a phrofion gramadeg i fesur perfformiad y myfyrwyr.

Serch hynny, mae tîm o academyddion Ieithoedd Modern yn ysbrydoli athrawon a myfyrwyr i fabwysiadu ffyrdd newydd a chreadigol o ymchwilio i ieithoedd ac o asesu myfyrwyr sy’n dysgu ieithoedd – trwy gyfrwng celf.

Mae'r tîm wedi lansio'r ‘Creative Modern Languages Hub’, adnodd ar-lein rhad ac am ddim sy'n cynnig enghreifftiau o ddulliau asesu creadigol ac ymchwil artistig o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt. 

Mae arweinydd y prosiect, Dr Alex Mangold – darlithydd yn yr Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth - yn egluro:

"Fel athrawon sy’n dysgu ieithoedd modern, gallwn fesur sgiliau iaith myfyrwyr trwy osod traethawd neu arholiad llafar. Serch hynny, rydym yn awyddus i ysbrydoli athrawon i feddwl ‘y tu allan i'r blwch’. Bwriad ein casgliad eang o enghreifftiau o ddulliau asesu creadigol yw tanio'r dychymyg a dangos y potensial y gall creadigrwydd artistig ei gynnig.

"Gall ymarferion creadigol ac ymchwil artistig myfyrwyr gynnwys blogiau, podlediadau, ffilmiau byrion, gosodweithiau celf, nofelau graffeg, barddoniaeth, paentio, ffotograffiaeth, monologau theatrig, clownio, animeiddiadau, perfformiadau digidol a cherddoriaeth."

"Mae'r dulliau hyn yn gwahodd myfyrwyr i wneud pethau mewn ffyrdd gwahanol a mwy diddorol ac, yn y pen draw, gallent annog mwy o fyfyrwyr i astudio ieithoedd modern yn ein prifysgolion."

Mae’r tîm yn gobeithio y bydd eu casgliad o enghreifftiau yn ysbrydoli cydweithwyr a myfyrwyr i arbrofi â mathau creadigol o asesu ac ymchwil artistig ym maes Ieithoedd Modern, gan ddangos i fyfyrwyr sut y gall astudio iaith fodern danio’u potensial creadigol.

Ariannwyd y prosiect gan Wobrau Datblygu Talent yr Academi Brydeinig 2021. 

Mae'r Tîm Ieithoedd Modern Creadigol yn cynnwys Dr Alex Mangold (Prifysgol Aberystwyth), Dr Sarah Pogoda (Prifysgol Bangor) a Fernando Castellano-Banuls (Prifysgol Aberystwyth).

Mae'r ‘Creative Modern Languages Hub’ ar gael ar-lein yn https://creativemodernlanguages.uk.