Diolch i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth am "flwyddyn o gynnydd mawr"

Graddio 2022.

Graddio 2022.

31 Ionawr 2023

Mae Cadeirydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi diolch i staff a myfyrwyr y sefydliad ar ôl blwyddyn o gyflawniadau sylweddol sydd wedi’u hamlygu yn yr adroddiad blynyddol diweddaraf.

Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021/22 yn crynhoi'r flwyddyn yn y Brifysgol - gan gynnwys manylion am y camau mawr a gymerwyd ym meysydd dysgu, ymchwil a'i pherfformiad ariannol.

Cyrhaeddodd y Brifysgol darged ariannol pwysig drwy lwyddo i fantoli’r gyllideb yn ystod y flwyddyn academaidd. Yn unol â’r cynlluniau a roddwyd ar waith i sicrhau bod y Brifysgol yn ariannol gynaliadwy, daeth y flwyddyn hyd at ddiwedd Gorffennaf 2022 i ben gyda gwarged gweithredu bychan. Mae'r garreg filltir bwysig hon yng nghynlluniau'r Brifysgol yn dod yn sgil dwy flynedd o gostau uwch oherwydd pandemig COVID-19 a gafodd effaith fyrdymor ar ei sefyllfa weithredu waelodol.

Yn ystod y flwyddyn, croesawodd y Brifysgol ei charfan gyntaf o fyfyrwyr milfeddygaeth i'r cyfleusterau newydd gwerth £2.4 miliwn. Dyma’r unig ysgol filfeddygol yng Nghymru ac fe agorwyd y cyfleusterau yn swyddogol gan y Tywysog Charles ar y pryd.

Fe barhaodd yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr i gydnabod Prifysgol Aberystwyth am ragoriaeth ei dysgu, ac yn ôl yr arolwg hi yw’r brifysgol orau am foddhad myfyrwyr ledled Cymru a Lloegr.

Roedd twf yn nifer y myfyrwyr ar draws portffolio’r Brifysgol ac mae hyn, ynghyd âchwrdd â’i chostau am y tro cyntaf ers 2013/14, yn rhoi sail i’r sefydliad edrych yn hyderus tua’r dyfodol, er gwaetha’r angen i gydnabod yr heriau sy’n ein wynebu o ran y rhagolygon economaidd ehangach.

Yn yr adroddiad, disgrifiodd Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, Dr Emyr Roberts y flwyddyn academaidd fel cyfnod o gynnydd mawr wrth "i’n cymdeithas ddod allan o'r gwaethaf o'r pandemig [COVID-19]". Dywedodd y bydd y flwyddyn academaidd 22/23 yn un o "egni a hyder o'r newydd".

Dywedodd y Dr Roberts: "Mae eleni wedi dangos yn glir pam bod Prifysgol Aberystwyth yn sefydliad mor uchel ei barch. Mae ein staff yn cael effaith a dylanwad ar y lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan helpu i newid bywydau a chwarae rhan sylweddol yn addysgol, yn economaidd ac yn gymdeithasol.

"Er bod heriau digynsail wedi ein hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, oherwydd COVID-19 yn bennaf, yn 2021/22 parhaodd y Brifysgol i ymateb yn rhagorol i’r amgylchiadau anodd ac, ar yr un pryd, gwnaed cynnydd tuag at ei hamcanion strategol a chryfhau ei sefyllfa ariannol sylfaenol.

"Mae’r Is-Ganghellor, y staff, y myfyrwyr a'r rhanddeiliaid yn haeddu llawer o glod am eu hymateb yn ystod y cyfnod o ansicrwydd.  Maent wedi cyflawni llawer mewn cyfnod anodd ac wedi gwneud argraff ar y Cyngor gyda'u penderfynoldeb. Diolch o galon i bawb sydd wedi gweithio mor galed."

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Pleser a balchder o'r mwyaf yw adrodd ar y flwyddyn academaidd 2021/22 fel y cyfnod yn ein hanes pan lwyddasom i ymryddhau o effeithiau gwaethaf pandemig COVID-19. Daethom drwy'r heriau a wynebwyd diolch i ymdrechion amrywiaeth eang o bobl – ein rhanddeiliaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, ein staff a'n myfyrwyr ein hunain, a chyd-aelodau o'n cymuned yma yn Aberystwyth.

"Yn tystio i’r holl ymdrechion hyn, parhaodd yr addysgu a’r ymchwil rhagorol rydym yn adnabyddus am eu darparu; ar yr un pryd llwyddodd y Brifysgol i gynnal ein cynaladwyedd ariannol rydym wedi gweithio mor galed amdano."

Dyma rai o’n llwyddiannau yn ystod y flwyddyn:

  • Roedd y Brifysgol hefyd ymhlith y 10 uchaf am foddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr am y seithfed flwyddyn yn olynol.
  • Mae cyfran y sgoriau tair a phedair seren y mae’r Brifysgol wedi’u cael yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil wedi cynyddu. Roedd pum adran - Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Cyfrifiadureg, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, IBERS a Mathemateg – ar lefel cyfartaledd y DU, neu’n uwch na’r lefel honno, am ymchwil sy’n arwain y byd neu o safon rhagoriaeth ryngwladol.
  • Mae niferoedd y myfyrwyr ar draws ein portffolio yn dal i dyfu.
  • Mae darpariaeth Dysgu Cymraeg y Brifysgol wedi’i hasesu’n "rhagorol" gan Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Hefyd cafodd y Brifysgol ei dewis i gyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd.
  • Cychwynnwyd ar waith adeiladu’r banciau newydd o baneli solar, gwerth £2.9 miliwn, a fydd yn cynhyrchu trydan ar gyfer Campws Penglais.
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo ar adnewyddu’r Hen Goleg, ein hadeilad nodedig ar lan y môr.
  • Gwaith paratoi at groesawu ein myfyrwyr nyrsio cyntaf ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23.