Anrhydeddu’r parasitolegydd arloesol Gwendolen Rees ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

Mae cyn adeilad IBERS ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth yn cael ei ailenwi i anrhydeddu’r Athro Gwendolen Rees (1906–1994).

Mae cyn adeilad IBERS ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth yn cael ei ailenwi i anrhydeddu’r Athro Gwendolen Rees (1906–1994).

08 Mawrth 2023

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 (ddydd Mercher 8 Mawrth), mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei bod yn ailenwi un o’i phrif adeiladau academaidd i anrhydeddu’r Gymraes gyntaf i gael ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS).

Roedd yr Athro F. Gwendolen Rees (1906–1994) yn sŵolegydd o fri ac yn arloesydd ym maes parasitoleg yn Aberystwyth. Ymddangosodd hefyd yng nghylchgrawn British Vogue ym 1975 mewn dathliad o fenywod dylanwadol y cyfnod.

Bydd ei henw yn ymddangos ar gyn adeilad Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ar gampws Penglais, sydd bellach yn gartref i’r Adran Gwyddorau Bywyd (DLS) a sefydlwyd yn 2022.

Mae cylch gwaith ymchwil a dysgu’r Adran yn cwmpasu ystod eang o feysydd academaidd, gan gynnwys pynciau a astudiwyd yn yr hen Adran Sŵoleg lle bu’r Athro Rees yn gweithio o 1930 hyd ei hymddeoliad ym 1973.

Yn ystod ei gyrfa ac ar ôl ymddeol, cyhoeddodd gyfanswm o 68 o bapurau academaidd gyda’r olaf ohonynt yn ymddangos ym mlwyddyn ei phen-blwydd yn 82 oed pan oedd yn Athro Emeritws mewn Sŵoleg.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Ym mlwyddyn dathlu’n 150, rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol yn anrhydeddu’r Athro Rees fel hyn. Roedd hi’n fenyw ryfeddol a wnaeth gyfraniad rhyngwladol i’w maes ymchwil. Diolch i’w gwaddol hirhoedlog hi, mae Aberystwyth yn parhau hyd heddiw yn ganolfan sy’n arwain y byd ym maes astudio parasitoleg.”

Dewiswyd enw’r Athro Rees yn dilyn pleidlais gan staff yn yr Adran Gwyddorau Bywyd, a chafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan Weithrediaeth a Chyngor y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Iain Barber, Pennaeth yr Adran Gwyddorau Bywyd: “Mae ailenwi’r adeilad hwn nid yn unig yn anrhydeddu un o academyddion mwyaf blaenllaw Cymru, mae hefyd yn nodi carreg filltir arwyddocaol ym mlwyddyn weithredol gyntaf yr Adran Gwyddorau Bywyd. Fel Adran, byddwn yn parhau â thraddodiad yr Athro Rees o ysbrydoli myfyrwyr trwy ein dysgu a thrwy gyflawni ymchwil arloesol sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i Gymru a’r byd ehangach.”

Talwyd teyrnged i’w rhagflaenydd gan Jo Hamilton, Athro mewn Parasitoleg yn yr Adran Gwyddorau Bywyd:

“Torrodd Gwen dir newydd o ran ei gwaith ymchwil a dysgu parasitoleg yn Aberystwyth, gyda ffocws penodol ar helmintholeg. Mae’r maes yn parhau yn un o’n cryfderau ymchwil craidd, ac mae gan nifer o’n hacademyddion rolau arwain mewn cymdeithasau parasitoleg rhyngwladol. Efallai nad yw Gwen gyda ni mwyach, ond rydym yn dal i elwa ar ei gwaddol gyfoethog yn ogystal â defnyddio rhai o’i sleidiau cywrain o barasitiaid wrth ddysgu myfyrwyr heddiw.”

Mae rhai o slediau cywrain yr Athro Rees o barasitiad ymhlith y 150 o wrthrychau sy’n cael sylw yng nghyfrol dathlu 150 y Brifysgol Ceiniogau’r Werin / The Pennies of the People.

Bydd digwyddiad dathlu yn cael ei gynnal yn yr adeilad adeg pen-blwydd yr Athro Rees ym mis Gorffennaf ac fe gaiff yr holl arwyddion ar yr adeilad, y campws a mannau eraill eu diweddaru yn ystod yr haf.

Mae gwaith Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) bellach wedi’i leoli’n bennaf ar gampws Gogerddan y Brifysgol.

Gwendolen Rees