Gallai pori alpacaod helpu taclo newid hinsawdd - ymchwil

Alpacaod yng Nghanolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran, IBERS, Prifysgol Aberystwyth

Alpacaod yng Nghanolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran, IBERS, Prifysgol Aberystwyth

15 Mawrth 2023

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio a allai pori alpacaod ochr yn ochr ag anifeiliaid eraill helpu ffermwyr i fynd i’r afael â newid hinsawdd. 

Bydd y prosiect newydd yn edrych ar effeithlonrwydd a buddion amgylcheddol pori gwahanol rywogaethau gyda’i gilydd, megis defaid, geifr ac alpacaod.

Bydd y gwaith yng Nghanolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran y Brifysgol yn adeiladu ar ymchwil blaenorol, a ganfu fod pori cymysg o ddefaid gyda gwartheg wedi gwella cyfradd tyfiant ŵyn, iechyd anifeiliaid a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Fodd bynnag, er gwaethaf y buddion hyn, mae niferoedd gwartheg yn yr ucheldiroedd yn parhau i ddisgyn.

Bydd yr astudiaeth newydd yn canolbwyntio ar y potensial, sydd heb ei ymchwilio eto, o ddefaid yn pori gyda rhywogaethau llai cyffredin, megis alpacaod a geifr, a'r gallu i wella effeithiolrwydd y defnydd o dir pori a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Fel gwartheg, mae arferion pori’r rhywogaethau hyn yn wahanol i ddefaid.

Bydd treialon bwydo ar gyfer yr ymchwil yn dechrau’r mis hwn i gasglu data ar effeithiolrwydd treuliadwyedd cymharol gwahanol fwydydd mewn alpacaod, geifr a defaid, a monitro eu hallyriadau methan. Dilynir hyn gan dreialon pori yn ystod gwanwyn a haf 2023 a 2024.

Dywedodd yr Athro Mariecia Fraser o Athrofa Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth:

“Mae Alpacaod wedi cael eu hanwybyddu fel porwyr cadwraeth posibl. Mae'r prosiect hwn yn edrych ar ffyrdd newydd o bori'r anifeiliaid hyn a sut y gallen nhw helpu mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’n cyd-fynd yn berffaith â’r brif flaenoriaeth ymchwil yma yn IBERS yn Aberystwyth i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr amaethyddol a helpu i gyrraedd targedau sero net.

“Mae alpacaod wedi addasu i oroesi ar ddiet o ansawdd gwael. Gallan nhw hefyd fod o fudd i fioamrywiaeth glaswelltiroedd gan eu bod nhw’n bwyta rhywogaethau ymledol sy’n doreithiog ar ucheldiroedd Cymru. Mae cael gwared ar y rhywogaethau ymledol hyn, fel Molinia, hefyd yn cael effaith gadarnhaol drwy sicrhau bod bwyd sy’n well gan ddefaid ar gael. Yn yr un modd, mae gofynion hwsmonaeth a seilwaith alpacaod yn debyg i ofynion defaid, a allai ganiatáu addasu systemau ffermio ucheldir presennol yn gymharol hawdd.

“Mae taliadau cymorth amaethyddol yn newid ac yn parhau i symud oddi wrth gynhyrchu cynradd tuag at reoli cadwraeth. Felly, gallai fod cyfle i gynnwys y rhywogaethau da byw amgen hyn mewn cynlluniau ariannu yn y dyfodol.”

Ariennir y prosiect gan Ysgoloriaeth AberDoc a Chyllid Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran.