Mwy o achosion llys ar-lein yn bosib yn dilyn profiad Covid - adroddiad

27 Mawrth 2023

Gellid cynnal rhagor o achosion llys ar-lein er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch ac effeithlon, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan academyddion Aberystwyth sy'n edrych ar y gyfundrefn gyfiawnder yn ystod y pandemig. 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tîm o Brifysgol Aberystwyth wedi edrych ar brofiadau llysoedd a thribiwnlysoedd, y proffesiynau cyfreithiol, a'r farnwriaeth mewn gwrandawiadau o bell yn ystod pandemig Covid-19.

Bu’r academyddion yn cloriannu'r heriau a'r cyfleoedd a gododd trwy ddefnyddio gwrandawiadau o bell mewn achosion teuluol, achosion mewnfudo, achosion yn ymwneud â phlant, gwrandawiadau tribiwnlys, achosion sifil a throseddol.

Dywed yr adroddiad newydd er na ddylai gwrandawiadau o bell gael eu gwneud yn weithdrefnau arferol er mwyn arbed costau, ni ddylid ychwaith dybio bod mynd yn ôl i arferion cyn-Covid o reidrwydd yn fanteisiol.

Mae'n ystyried y manteision o ran hygyrchedd ac effeithlonrwydd, ynghyd â'r rhwystrau a'r cymhlethdodau posibl o sicrhau bod y drefn yn deg ac effeithiol.  Mae'r ymchwil hefyd yn ystyried materion megis technoleg, defnyddio cyfieithwyr ar y pryd, canfyddiadau ynghylch anffurfioldeb, asesu ymarweddiad a chreu cysylltiad.

Dywedodd Dr Catrin Fflur Huws, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fu’n arwain yr astudiaeth:

"Ar ddechrau pandemig Covid-19, gwnaeth y llysoedd addasiadau cyflym er mwyn i wrandawiadau gael eu cynnal yn gyfan gwbl ar-lein.  Ar gyfer ein hymchwil daeth ymchwilwyr ac ymarferwyr cyfreithiol amlwg ynghyd mewn gweithdai, mewn sesiynau efelychu achosion llys, a chynhadledd ar-lein, i drafod arsylwadau o wrandawiadau hybrid a gwrandawiadau o bell a gynhaliwyd hyd yma. 

"Mae adroddiad ein canfyddiadau'n cloriannu’r heriau a'r cyfleoedd a gyflwynir gan wrandawiadau o bell, ac yn archwilio eu dyfodol mewn oes sy’n mynd yn fwyfwy digidol. Mae'r safbwyntiau a'r profiadau sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad yn gyfraniad pwysig i'r drafodaeth ynghylch defnyddio gwrandawiadau o bell mewn cymdeithas ôl-Covid, ac mae’n amserol eu lledaenu cyn i arferion cyn-Covid gael eu hailsefydlu a'u cadarnhau’n llwyr." 

Yr academyddion eraill o Aberystwyth sy'n rhan o'r astudiaeth yw Dr Rhianedd Jewell, Uwch Ddarlithydd Cymraeg Proffesiynol sy’n arbenigo mewn astudiaethau cyfieithu a chyfieithu proffesiynol, a'r darlithydd Seicoleg Dr Hanna Binks sy'n arbenigo mewn caffael iaith a seicoleg dwyieithrwydd. Mae Non Humphries, myfyriwr PhD yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd hefyd yn rhan o'r tîm ymchwil, yn ogystal â Leonie Schwede, myfyriwr ym maes Hawliau Dynol.

Mae'r gwaith ymchwil wedi'i ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru trwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru.