Cymrodoriaethau am ragoriaeth academydd i dri gwyddonydd Aberystwyth

Yn y llun (o’r chwith i’r dde) – Yr Athro Andy Evans, Yr Athro Hazel Davey, Yr Athro Helen Roberts

Yn y llun (o’r chwith i’r dde) – Yr Athro Andy Evans, Yr Athro Hazel Davey, Yr Athro Helen Roberts

25 Ebrill 2023

Mae tri academydd blaenllaw ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae’r Athro Andy Evans, Pennaeth Adran Ffiseg y Brifysgol, yr Athro Bioleg Hazel Davey a’r   Athro Daearyddiaeth Ffisegol a Chyfarwyddwr Rhagoriaeth Ymchwil ac Effaith Helen Roberts wedi derbyn yr anrhydedd academaidd.

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd. Etholir Cymrodyr yn dilyn asesiad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol.

Dywedodd yr Athro Hazel Davey:

“Mae’n anrhydedd fawr cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a chael fy nghydnabod yn allanol am fy ngwaith gyda myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.”

Dywedodd yr Athro Helen Roberts:

“Rwy’n teimlo yn ddiolchgar iawn o fod wedi cael fy ethol i’r Gymdeithas. Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i gyfrannu at ei gwaith a hyrwyddo ei nodau a’i uchelgeisiau, sy’n cynnwys hyrwyddo ymchwil ac ymchwilwyr, ysbrydoli dysgu a dadlau, a gweithredu fel ffynhonnell awdurdodol ac annibynnol o arbenigedd a chyngor.”

Dywedodd yr Athro Andy Evans:

“Mae’n fraint fawr i dderbyn yr anrhydedd hon, ac rwy’n gobeithio y galla i ddefnyddio’r gymrodoriaeth i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr Cymraeg i lwyddo.”