Penodi Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth yn ymgynghorydd arbenigol ar fasnachu pobl

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

02 Mai 2023

Cafodd yr Athro Ryszard Piotrowicz, sy’n arbenigwr ym maes cyfraith ymfudo a masnachu pobl, ei benodi’n ymgynghorydd arbenigol i Bwyllgor Dethol Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin, i gynorthwyo’r ymchwiliad i’r fasnach mewn pobl.

Pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Seneddol yw'r Pwyllgor Materion Cartref, ac mae’n gyfrifol am graffu ar waith y Swyddfa Gartref a'i chyrff cysylltiedig.

Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd y Pwyllgor y cynhelir ymchwiliad newydd i’r fasnach mewn pobl, er mwyn asesu graddfa’r fasnach yn y Deyrnas Unedig a'r ffurfiau sydd i’r farchnad.

Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ceisio gweld a ellir gwella polisi'r Llywodraeth, y ddeddfwriaeth a'r gyfundrefn gyfiawnder troseddol i atal y masnachu, erlyn drwgweithredwyr, a diogelu dioddefwyr yn well. 

Fel ymgynghorydd arbenigol, bydd yr Athro Piotrowicz yn gwneud sylwadau ar y cyflwyniadau a wneir i'r Pwyllgor, yn rhoi sylwadau a chynghori ar ddrafftiau o ddogfennau neu ddatganiadau y gallai’r Pwyllgor eu cyhoeddi, a defnyddio’i arbenigedd ym maes masnachu pobl i gynghori'r Pwyllgor ar agweddau cyffredinol ei ymchwiliadau i’r fasnach mewn pobl yn y DU.

Wrth sôn am ei benodiad, meddai’r Athro Piotrowicz:

"Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi i'r gwaith hwn, oherwydd bydd yn fy rhoi mewn sefyllfa i ddefnyddio fy arbenigedd, ac, rwy'n gobeithio, i gael dylanwad cadarnhaol ar ddatblygiad polisi'r llywodraeth wrth gefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern ac erlyn y masnachwyr.”

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Ac yntau'n hanu o'r Alban, astudiodd yr Athro Piotrowicz ym Mhrifysgolion Dundee, Glasgow, Thessaloniki, a Warsaw, yn ogystal ag astudio yn Sefydliad Materion Rhyngwladol Gwlad Pwyl yn Warsaw a Sefydliad Cyfraith Ryngwladol Max-Planck yn Heidelberg.

Ar ôl ennill ei Ddoethuriaeth yn 1987, aeth i fod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Tasmania. Arhosodd yno am ddeng mlynedd a chael ei benodi'n Ddeon ar Gyfadran y Gyfraith.

Cafodd Gadair yn y Gyfraith yn Aberystwyth ym 1999 ac mae hefyd wedi dysgu cyfraith ryngwladol ym Mhrifysgolion Glasgow a Durham. Mae'n un o Gymrodyr Alexander-von-Humboldt, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a bu'n Athro Gwadd ym maes cyfraith ryngwladol mewn sawl gwlad.

Mae'n arbenigo ar gyfraith ymfudo a'r gyfraith ddyngarol ryngwladol, ac ar hyn o bryd mae wrthi'n gweithio'n bennaf ar y materion cyfreithiol sy'n deillio o’r fasnach mewn pobl.

Mae wedi cynghori cyrff rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol, a chyrff anllywodraethol ar y materion hyn. Mae'n aelod o Grŵp Arweiniad Atal Caethwasiaeth Cymru a bu'n aelod o Grŵp y Comisiwn Ewropeaidd o Arbenigwyr ar Fasnachu Pobl o 2008-15, ac yn aelod o GRETA, Grŵp Cyngor Ewrop o Arbenigwyr ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl, o 2013 i 2020 (Is-lywydd 2017-20).

Mae'r Athro Piotrowicz wedi cydweithio'n eang â sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE), Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), Sefydliad Rhyngwladol Ymfudo (IOM), Cyngor Ewrop, a'r Undeb Ewropeaidd.