Hwb o £9.8 miliwn ar gyfer ymchwil cnydau IBERS yn Aberystwyth

Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth

Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth

26 Mai 2023

Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb ariannol o £9.8 miliwn ar gyfer eu gwaith ar gnydau gwydn.

Mae IBERS, sydd yng Ngogerddan ger Aberystwyth, yn cynnal ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd.

Mae gwaith y ganolfan ymchwil yn mynd i’r afael â her newid hinsawdd drwy astudio’r hyn sydd ei angen ar gyfer gwydnwch amaethyddol yn y dyfodol a deall sut i gynhyrchu biomas cynaliadwy i gyrraedd targedau sero net.

Bydd y cyllid cnydau gwydn newydd yn cefnogi ymchwil i rygwellt parhaol, meillion, ceirch a'r glaswellt ynni, miscanthus.

Mae'r ymchwil yn cynnwys edrych ar leihau effaith amgylcheddol da byw, datblygu offer i gyflymu bridio planhigion, a defnyddio bioburfeydd i gynyddu nifer y cynhyrchion sy'n seiliedig ar blanhigion.

Dywedodd pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro Iain Donnison:

“Mae’n anrhydedd mawr, gan gynnwys bod yr unig sefydliad yng Nghymru, i dderbyn y buddsoddiad strategol pwysig hwn. Mae’r cyllid newydd yn rhoi’r cyfle i ni gynorthwyo amaethyddiaeth i allu gwrthsefyll yr hinsawdd yn fwy yn ogystal â hybu cynhyrchiant amaethyddol a datblygu bioeconomi sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd wrth greu diwydiannau a swyddi newydd o fewn economïau gwledig a threfol.”

“Mae IBERS yn cynnull grŵp unigryw o wyddonwyr bridio glaswelltir a phlanhigion, cyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf a rhwydweithiau diwydiant cydweithredol gydag un weledigaeth glir mewn golwg: i sicrhau y gall dynolryw gynhyrchu’r bwyd, porthiant anifeiliaid ac adnoddau diwydiannol sy’n seiliedig ar blanhigion yn gynaliadwy ac y mae ei angen, nawr ac yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Elizabeth Treasure:

“Mae’r cyllid newydd hwn yn tanlinellu’r hyder yn y tîm o arbenigwyr yn IBERS a’i ymchwil sy’n arwain y byd mewn cynifer o feysydd.  Mae ei gwaith yn hanfodol, nid yn unig yn lleol ac yn genedlaethol, ond er lles y byd cyfan.”

Mae IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn un o wyth sefydliad ymchwil strategol a gefnogir gan y buddsoddiad hirdymor hwn gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), rhan o UKRI.

Mae arian ar gyfer y sefydliad yng ngorllewin Cymru yn rhan o fuddsoddiad ehangach gan y BBSRC mewn sefydliadau ymchwil gwyddonol ac isadeiledd gwerth mwy na £376m rhwng 2023 a 2028.

Yn ogystal â darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd mewn meysydd ymchwil pwysig, mae’r sefydliadau hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth symud y weledigaeth a’r themâu craidd a amlinellir yn Strategaeth Sefydliad y BBSRC- gallu, cysylltedd, a diwylliant - yn eu blaen.

Dywedodd yr Athro Melanie Welham, Cadeirydd Gweithredol y BBSRC:

“Mae sefydliadau a gefnogir yn strategol gan BBSRC yn elfen hanfodol o’r ecosystem ymchwil ac arloesi biowyddoniaeth genedlaethol a rhyngwladol. Fel arbenigwyr yn eu meysydd, mae’r sefydliadau ymchwil hyn o safon fyd-eang yn darparu’r gallu a’r cysylltedd sydd eu hangen ar y Deyrnas Gyfunol i sicrhau bod y Deyrnas Gyfunol yn parhau i fod ar flaen y gad yn y chwyldro biowyddoniaeth.

“Bydd y buddsoddiad y mae BBSRC yn ei wneud yn ei sefydliadau a gefnogir yn strategol dros y pum mlynedd nesaf yn helpu i ddarparu atebion newydd sy’n seiliedig ar fiowyddoniaeth i rai o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu fel cymdeithas.

“Mae biowyddoniaeth yn siapio ein bywydau mewn cymaint o wahanol ffyrdd ac fel prif ariannwr cyhoeddus ymchwil ac arloesi biowyddoniaeth yn y Deyrnas Gyfunol, mae’n hollbwysig i’n cenhadaeth fod y BBSRC yn buddsoddi mewn gwyddoniaeth o safon fyd-eang sy’n dod â buddion i’r gymdeithas gyfan tra’n sbarduno twf economaidd a ffyniant ar draws y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt.”