Arddangosfa yn Pontio Bangor: Ffoaduriaid yng Nghymru

09 Mehefin 2023

Bydd arddangosfa sy’n adrodd straeon pobl sydd wedi cael noddfa yng Nghymru dros y blynyddoedd yn cael ei harddangos yn Pontio, Bangor rhwng 8-28 Mehefin.

Mae ‘Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y gorffennol i lywio’r dyfodol’ yn adrodd straeon y ffoaduriaid hynny a gafodd noddfa yng Nghymru ar ôl dianc o Ganol Ewrop yn sgil unbennaeth Sosialaeth Genedlaethol, ac yn dangos y tebygrwydd rhwng eu sefyllfa hwy a sefyllfa ffoaduriaid cyfoes sy'n ymgartrefu yng Nghymru.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys gweithiau celf, gwrthrychau, ffotograffau a llenyddiaeth a grëwyd gan ffoaduriaid a'r rhai a fu’n gweithio ochr yn ochr â nhw ar draws y degawdau.

Curadwyd yr arddangosfa ar y cyd gan Dr Andrea Hammel a Dr Morris Brodie o Ganolfan Astudio Symudedd Pobl Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â ffoaduriaid a'r rhai sy'n cynorthwyo ffoaduriaid i ailsefydlu yng Nghymru.

Cafodd yr arddangosfa ei churadu yn rhan o Raglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost a arweinir gan yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol ac a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dywedodd Dr Hammel, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Fel cenedl, mae Cymru wedi bod yn darparu noddfa i ffoaduriaid ers amser maith. Mae ein harddangosfa yn rhoi llais i'r ffoaduriaid hyn, ac yn caniatáu i ni ddarganfod eu hanesion trwy eu geiriau a'u lluniau eu hunain. Mae’r ffoaduriaid a ailsefydlodd yng Nghymru yn y 1930au a'r 1940au wedi ymgartrefu yn y rhan hon o'r byd, ac maent bellach yn rhan annatod o wead bywyd Cymru. Mae'r un peth yn wir am y Syriaid, Afghanistaniaid ac Wcrainiaid a'u dilynodd ac sydd eisoes yn cael effaith ddiwylliannol ac economaidd yng Nghymru, gan sefydlu busnesau, magu teuluoedd, cyflwyno bwydydd newydd, a llawer mwy.

“Trwy gyfrwng y deunydd a gesglir ynghyd yn yr arddangosfa, ein bwriad yw amlygu a dysgu am brofiad ffoaduriaid yng Nghymru trwy fynd i’r afael â chwestiynau ynglŷn ag amrywiaeth cymdeithas Cymru, gwahaniaethau crefyddol ac ieithyddol, a heriau cymdeithasol, addysgol ac economaidd. Mae ein prosiect yn ceisio annog pobl i ddysgu oddi y wrth gorffennol i lywio’r dyfodol.”

Mae Dr Hammel hefyd wedi bod yn cydweithio â'r gwneuthurwr ffilmiau o Aberystwyth, Amy Daniel, gan weithio ochr yn ochr â grwpiau o ffoaduriaid a’r rhai sy'n eu cynorthwyo, i ddatblygu ymateb creadigol sy'n cysylltu straeon gwahanol ffoaduriaid yng Nghymru. Bydd y ffilm yn cael ei ddangos yn rhan o'r arddangosfa.

Mae'r arddangosfa eisoes wedi cael ei harddangos yn Orielau'r Senedd a'r Pierhead yng Nghaerdydd, Palas San Steffan yn Llundain, a Chanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.