Gwaith darlithydd ar ofal pobl ifanc wedi’i enwebu ar gyfer gwobr nyrsio

Nicole Crimmings, Darlithydd Addysg Gofal Iechyd, Prifysgol Aberystwyth

Nicole Crimmings, Darlithydd Addysg Gofal Iechyd, Prifysgol Aberystwyth

26 Mehefin 2023

Mae darlithydd o Brifysgol Aberystwyth wedi’i henwebu ar gyfer gwobr Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol y Nyrsys am ei gwaith i wella’r gofal i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd.

Bu Nicole Crimmings, sydd newydd ei phenodi’n ddarlithydd nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn gweithio yn hosbis plant Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg cyn symud i’r gorllewin.

Mae wedi cael ei henwebu yng ngwobrau blynyddol Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru oherwydd ei gwaith arloesol hi a’i chydweithiwr yn ffurfio partneriaeth rhwng Hosbis Tŷ Hafan a’r Uned Gofal Dwys Pediatrig yn Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd, a Nyrsys Rhoi Organau Arbenigol.

Roedd y newidiadau wedi gwella gofal diwedd oes plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywydau a’u teuluoedd mewn galar. Rhoddodd y bartneriaeth ragor o gyfleoedd i’r teuluoedd a chyfeillion mewn galar dreulio amser gyda chleifion yn y cyfnod wedi iddynt roi organau ac i rannu atgofion.

Mae gan Nicole Crimmings 27 mlynedd o brofiad nyrsio ac wedi gweithio yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ac Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Ei harbenigedd yw nyrsio pediatrig a gofal dwys pediatrig. 

Wrth ymateb i’r enwebiad arwyddocaol hwn, dywedodd Nicole Crimmings, darlithydd nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’r enwebiad ar gyfer fy nghydweithiwr yn Nhŷ Hafan a minnau wedi gwneud i mi deimlo’n wylaidd iawn. Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein gwaith yn mynd ymlaen i helpu llawer o deuluoedd sy’n mynd trwy gyfnodau mor anodd. Mae wedi bod yn fraint gweithio yn y GIG a’r sector elusennol am gymaint o flynyddoedd. Fel cynifer o weithwyr eraill, rydyn ni’n ceisio gwneud cymaint o wahaniaeth ag y gallwn ni. Yn fy rôl addysgu newydd yn Aberystwyth, rwy’n gobeithio rhannu rhywfaint o’r profiad hwnnw â’r genhedlaeth nesaf o nyrsys sydd wedi’u hymddiried i ofalu am rai o’n plant a’n hoedolion mwyaf bregus.”

Wrth esbonio manteision y bartneriaeth y bu’n helpu i’w sefydlu, dywedodd Nicole Crimmings:

“Gyda chysylltiadau cryfach yn eu lle rhwng yr Uned Gofal Critigol Pediatrig a Thŷ Hafan, roedd yn llawer haws cyfeirio plant oedd yn agosáu at ddiwedd eu hoes, oherwydd salwch neu anaf trawmatig, yn gynharach. Felly, yn lle bod anwyliaid yn ffarwelio â drysau’r theatr llawdriniaethau, gallen nhw wneud hynny yn yr hosbis, amgylchedd mwy personol a llai meddygol. Gall y rhai sy’n galaru hefyd dderbyn cymorth parhaus, penodol am cyhyd ag y dymunant, wrth iddynt wynebu’r anawsterau aruthrol pan fydd plant a phobl ifanc yn marw. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle iddyn nhw rannu atgofion yn well gyda’u ffrindiau a’u teulu, a bydd yr atgofion hynny’n para am oes.”

Ychwanegodd Amanda Jones, Prif Arweinydd mewn Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’r enwebiadau hyn yn dyst i bwysigrwydd eithriadol gwaith Nicole yn y gwasanaeth iechyd. Rwy’n siŵr y bydd ei gwaith yn ysbrydoliaeth i’n myfyrwyr a’n staff yma wrth iddyn nhw fynd ymlaen i’n gwasanaethu ni oll yn y gwasanaeth iechyd yn ystod y blynyddoedd i ddod.” 

Cynhelir noson wobrau Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghaerdydd ar 29 Mehefin. Mae Nicole Crimmings wedi’i henwebu ar gyfer Gwobr Nyrsio Gofal Lliniarol Pediatrig Suzanne Goodall yn ogystal â’r wobr Nyrs y Flwyddyn.


Diwedd

Nodiadau

Llun:


Rhagor o wybodaeth: