Ffermydd gwynt ar y môr yn gynefinoedd da i gimychiaid – ymchwil

Fferm wynt ar y môr

Fferm wynt ar y môr

13 Gorffennaf 2023

Gall ffermydd gwynt ar y môr gynnig cynefinoedd newydd i gimychiaid a buddion bioamrywiaeth posibl, yn ôl ymchwil newydd sydd wedi cael ei arwain gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth.

Yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Gwyddor Forol yr ICES, mae ardaloedd penodol o gynefinoedd o fewn ffermydd gwynt ar y môr yn cynnig cynefinoedd addas i gimychiaid.

Credir bod y tyrbinau newydd hyn a osodwyd oddi ar yr arfordir yn creu math o riff artiffisial, gan ychwanegu swbstrad caled i ardaloedd lle bu gwaddod meddal ar un adeg.

Ar gyfer yr ymchwil, cafodd degau o gimychiaid eu tagio o fewn fferm gwynt ym Môr Iwerddon, gan olrhain eu symudiadau. Wedi'u monitro gan academyddion gyda thelemetreg acwstig, roedd modd arsylwi ar yr anifeiliaid yn byw yn agos at swbstrad caled o fewn y ffermydd gwynt. Mae'r data'n dangos bod gan yr ardaloedd hyn botensial i fod yn gynefinoedd addas i gimychiaid.

Dywedodd Dr David Wilcockson o Brifysgol Aberystwyth, a oedd yn un o’r ymchwilwyr ar y prosiect:

“Mae cimychiaid yn llochesu yn y mathau hyn o greigiau a chlogfeini fel arfer, ac felly mae effeithiau’r riff artiffisial hyn rydyn ni wedi'u gweld yn rhesymegol. Mae’r canfyddiadau yn dangos y gallai ffermydd gwynt ar y môr ddarparu cynefin addas ar gyfer cramenogion. Yn ogystal â’r manteision amgylcheddol sydd eisoes yn hysbys am ffermydd gwynt, rydyn ni bellach yn eu gweld fel hwb ychwanegol i fioamrywiaeth ychwanegol y dylai llunwyr polisïau ei ystyried.

Dywedodd Harry Thatcher, myfyriwr doethuriaeth yn Aberystwyth ac awdur arweiniol yr astudiaeth:

“Gallai cyflwyno’r swbstrad caled hwn fod â manteision posibl eraill hefyd. Drwy greu cynefinoedd newydd posibl ar gyfer cimychiaid, gallen nhw hefyd gynnig cyfleoedd pysgota cynaliadwy ledled Ewrop. Yn wir, wrth i rai ffynonellau eraill ddiflannu, gellid ystyried hyn fel ffordd o helpu stociau ar gyfer y diwydiant pysgota.”

Cafodd yr ymchwil ei arwain gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth ynghyd ag ymchwilwyr o Brifysgolion Plymouth a Newcastle.