Tina Evans, y ‘Bod Dynol ar Olwynion’, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Changhellor Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Tina Evans yn Gymrawd Anrhydedd

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Changhellor Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Tina Evans yn Gymrawd Anrhydedd

18 Gorffennaf 2023

Blogwraig sy’n ysbrydoli, areithwraig sy’n ysgogi, a chyflwynydd teledu, mae Tina Evans yn dod yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y seremonïau graddio eleni.

Pan gafodd ddiagnosis o gyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd yn 16 oed, anwybyddodd ddisgrifiad negyddol y meddygon o'r hyn oedd o’i blaen fel rhywun ag Atacsia Friedreich, a dewisodd fyw un dydd ar y tro.

Ar ôl graddio mewn Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth,  mae Tina yn wyneb cyfarwydd ar sgrin S4C, ar ôl bod yn rhan o raglenni fel Bwrdd i Dri, Taith Mawr y Dyn Bach a Dathlu. Roedd hi'n rhan o dîm cyflwyno BBC Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022, a bydd hi’n gohebu ar gystadlaethau para-driathlon yr haf hwn.

Gyda’i hagwedd fythol gadarnhaol a’i hawch parhaus am anturiaethau newydd, mae Tina Evans yn herio rhwystrau ac yn dod o hyd i atebion i sicrhau y gallai hi ac eraill wneud yr hyn y maent yn ei garu. Ei nod yw ysbrydoli eraill, o bob oed, i fanteisio i’r eithaf ar fywyd - dyma’n sicr y mae hi’n ei gyflawni yn ei sgyrsiau ysgogol.

Cyflwynwyd Tina Evans fel Cymrawd er Anrhydedd gan yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ddydd Mawrth 18 Gorffennaf 2023.

Mae’r cyflwyniad llawn ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyno Tina Evans gan yr Athro Anwen Jones:

Canghellor, Dirprwy Is-Ganghellor, graddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Tina Evans yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor, Pro Vice-Chancellor, graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Tina Evans as a Fellow of Aberystwyth University.

Cyfarfum â Tina am y tro cyntaf fel myfyrwraig israddedig iaith Gymraeg yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yma yn Aberystwyth. Roedd Tina yn fyrlymus ac roedd y wen braf sydd ganddi bob amser yn nodwedd ohoni bryd hynny. Roedd hi’n fyfyrwraig cydwybodol, yn gweithio’n galed ac yn llawn hwyl ac asbri. Mae’r ffaith nad oeddwn i yn gwybod bod unrhyw heriau corfforol gan Tina tan ei thrydydd blwyddyn yn dweud y cwbl am ei hagwedd at fywyd ac ati hi ei hun.

I met Tina for the first time as a Welsh language undergraduate studying in the Department of Theatre, Film and Television Studies here at Aberystwyth. She was full of life and the broad smile that she always has characterised her then too. She was a conscientious, hardworking student and was full of energy and verve. The fact that I was totally unaware that Tina had any physical challenges until her third year speaks volumes about her attitude to life and to herself.

Diagnosed with a life limiting condition at 16, Tina ignored the doctors’ negative description of what the future had in store for a Friedreich’s Ataxia patient, and chose to live every day as it comes. Ever positive and always looking for new adventures, Tina challenges barriers and finds solutions to make sure she and others have access to doing the things they love in life.

Mae hi’n disgrifio hi’i hun fel adrenaline junkie’ ac mae ei dewrder yn amlwg wrth iddi ymdaflu i bob math ar her corfforol o arfordiro i triathlon superhero tri. Sut mae Tina yn esbonio hyn oll, trwy ddweud, yn syml, ‘Mae e jest ynof fi, unrhywbeth sy’n bosib i fi neu, na i gael tro.’

Tina has engaged in all sorts of physical challenges such as coasteering and is currently training for a SuperHero three triathlon. Her explanation for all her exploits and her incredible bravery is simply, ‘Well it’s in me. Anything that is possible for me, I’ll give it a go’.

After graduating with BA honours in Theatre Film and Television Studies at Aberystwyth University in 2006, Tina started her career at BBC Wales. She worked as a researcher for the Education Department and then Radio Cymru.

Four years later, Tina moved on to Disability Wales, where her skills in media came of great use as the digital communications and inclusion officer.

Tina is no stranger to the S4C screen, having been involved with programmes like Bwrdd i dri, Taith Mawr y dyn Bach andDathlu.

Yn 2022, daeth gwahoddiad heb ei ail pan ymunodd â thim darlledu BBC Cymry o Gemau’r Gymanwlad.

In 2022, she was invited to be part of BBC Wales presenting team at the Commonwealth Games. For two weeks, Tina worked from Birmingham and the velodrome in London as a reporter.

Today, she has a monthly columnist slot on Prynhawn Da, as well as reporting on para triathlons this summer.

At 37, her aim is to inspire others, of all ages, to grab life with both hands – she has inspired us all here at Aberystwyth. We are privileged to have met her and to have learnt alongside her.

Canghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Tina Evans i chi yn Gymrawd. 

Chancellor, it is my absolute pleasure to present Tina Evans to you as a Fellow of Aberystwyth University.

 

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Tina Evans, Yr Athro Tim Woods

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2023

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i nifer fach o unigolion nodedig er mwyn cydnabod eu cyflawniad a’u cyfraniad rhagorol.

Mae gwobrau Prifysgol Aberystwyth yn dathlu unigolion sydd â gwreiddiau neu gysylltiadau yn yr ardal, ac sydd naill ai: wedi gwneud cyfraniad eithriadol ac arbennig i ddatblygiad y Brifysgol dros gyfnod maith; wedi ennill cydnabyddiaeth am ragoriaeth genedlaethol neu ryngwladol mewn maes academaidd sy’n berthnasol i’r Brifysgol; neu wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r byd diwylliannol, academaidd, addysgol, proffesiynol, neu economaidd.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2023 (yn y drefn y’u cyflwynir):

  • Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Tina Evans, awdur y blog 'Human on Wheels', areithwraig lawn ysbrydoliaeth a chyflwynydd teledu
  • Ben Thompson, Rhaglennydd Ffilmiau Byrion yng Ngŵyl Tribeca, Efrog Newydd
  • Ann Griffith, Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol 2022
  • Yr Athro Dato' Dr Rahmat Mohamad, Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Dechnolegol MARA, Malaysia
  • Kate O'Sullivan, milfeddyg gyda Mill Referrals, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a gwirfoddolwr gyda Chymdeithas Filfeddygol Anifeiliaid Bach Prydain
  • Phil Thomas, milfeddyg, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a Chyfarwyddwr Iechyd Da
  • Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn ohebydd pêl-droed BBC Cymru.