Cyflwyno Ann Griffith gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd

Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd, Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Ann Griffith yn Gymrawd Anrhydedd

Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd, Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Ann Griffith yn Gymrawd Anrhydedd

18 Gorffennaf 2023

Ann Griffith, sydd wedi byw ar bum cyfandir dros y pedwar degawd diwethaf ond wastad wedi meithrin ei gwreiddiau cadarn yng Nghymru, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth. 

Addysgwyd Ann Griffith yn yr Ysgol Gymraeg ac Ysgol Ramadeg Ardwyn yn Aberystwyth, cyn mynd i astudio Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol yn Aberystwyth.

Cwblhaodd ei thystysgrif addysg ac astudiodd Ddiwinyddiaeth ym Mhrifysgol Manceinion, lle treuliodd chwe blynedd fel caplan i fyfyrwyr tramor. Yma y cyfarfu â'i gŵr, sydd yn Americanwr, ac yn 1983 aeth y ddau i Lesotho i wirfoddoli gyda ffoaduriaid o Dde Affrica; ganwyd eu tri phlentyn yno a’u magu i siarad Cymraeg.

Treuliodd Ann dros ddau ddegawd yn byw yn Lesotho, Bolivia, Bangladesh, Sri Lanka ac India, gan geisio dysgu’r iaith leol bob tro, a threuliodd ei hamser yn gweithio fel athrawes ysgol gynradd ac mewn gwaith dyngarol.

Ers cyrraedd yr Unol Daleithiau yn 2007, ymhlith pethau eraill, mae hi wedi gweithio fel athrawes ffoaduriaid, wedi bod yn drefnydd sirol i ymgyrch Obama ac wedi helpu gyda threfniadau ar gyfer Gorymdaith Gwragedd yn Washington DC yn 2017. 

Lle bynnag yn y byd mae Ann wedi byw, mae hi wastad wedi cadw cysylltiad cryf â Chymru.

Ann yw cydlynydd Heddwch Nain/ Mamgu yn yr Unol Daleithiau, ac wedi bod yn datblygu cysylltiadau rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.

Mae hi'n Is-lywydd Cymdeithas Gymraeg Washington DC, ac yn Darpar Lywydd Undeb Cymru’r Byd. Cafodd ei phenodi’n Arweinydd Cymru a’r Byd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2022.

Cyflwynwyd Ann Griffith fel Cymrawd er Anrhydedd gan Yr Athro Mererid Hopwood, Athro y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Prifysgol Aberystwyth, ar ddydd Mawrth 18 Gorffennaf 2023.

Cyflwyno Ann Griffith gan Yr Athro Mererid Hopwood:

Ddirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, graddedigion, a chyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Ann Griffith yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Ann: Croeso. Lumelang. Namascar. Buenas Tardes. Welcome.

A dyna 5 cyfarchiad yn rhai o’r ieithoedd y mae ein cymrawd anrhydedus ni heddiw wedi eu dysgu ar ei thaith; Cymraeg a Saesneg – ie, ond hefyd, Sbaeneg, Sesotho a Hindi.

Mae’n rhaid i bob gwlad gwerth ei halen gael llysgenhadon. Unigolion dibynadwy sy’n gallu lladmeru ar ran ‘gartref’ oddi cartref.  Un felly yw Ann. Ann Griffith. Alwmna o’r Brifysgol hon ac Aberystwythen o’i chorrun i’w sawdl.

Cafodd ei geni, do, yn Shir Gâr, ond daeth i fyw yn ddyflwydd oed i Beth-seilun ar aelwyd oleuedig lle dysgodd gan ei rhieini mai un o werthoedd gorau bywyd yw gallu cofleidio pawb, pwy bynnag y bo, â’r un parch, yr un cariad. Cafodd Ann a’i dwy chwaer – Gwawr a Nia – gwmni myfyrywr o bob cwr o’r byd, o bob cefndir a thuedd ar yr aelwyd honno, a phan ddaeth hi’n amser i Ann ei hun fynd i’r Brifysgol, colled Bangor ac ennill Aber oedd hi iddi ddod yn y diwedd atom ni i astudio Addysg yn yr Adran flaengar o dan arweiniad Yr Athro Jac L.

Ar ddiwedd ei blwyddyn gyntaf a’r Wanderlust eisoes wedi cydio, aeth hi a’i chwaer Nia o Aber i Tehran i weld un o’r cyn-fyfyrwyr rhyngwladol hynny a oedd wedi dod yn ffrind i’r teulu. Dechrau’r daith oedd Aber, sylwch. Mae rhai’n dweud mai pen y daith yw Aber ... ond ry’n ni, bawb sydd yma heddiw, yn gwybod mae dechrau’r daith yw’r dref ryfeddol hon. Mater o berspectif yw diwedd a dechrau wedi’r cyfan. Ac rydych chi, Raddedigion newydd, oll yn dechrau ar eich taith nesaf chi heddiw oddi YMA. Aber ac Ymlaen.

Aeth Ann o Aberystwyth i Gasnewydd i weithio gyda phobl ifanc ac oddi yno i Fanceinion am ei hail radd – y tro hwn mewn Diwnyddiaeth, a chyflymodd ei siwrnai wedi hynny. Cyfarfu â’r Americanwr – Steve Hollingworth – ei henaid hoff cytun, chwedl R Williams Parry, ac wele’r antur fawr yn cychwyn.

I Lesotho, Bolivia, Bangladesh, Sri Lanka, India  ... Ann yn gweithio gyda ffoaduriaid ac yn athrawes, Steve yn gyflogedig gan elusennau yn annog datblygu economaidd ac ymateb i drychinebau. A’u tri phlentyn yn dod i’r byd yn Affrica, yn Gymry Cymraeg a Rhyngwladol yn llythrennol.

Mae hynt a helynt y teulu amlieithog hwn wedi bod yn destun sawl rhaglen deledu, ond yn fwy diweddar gwelir Ann yn gyson yn adrodd ar faterion y dydd o ddinas eu cartref diweddaraf – Washington DC.

Mae’r ymroddiad i achosion dyngarol – fel y gwaith gyda Thaith Gerdded 365 yn India i godi ymywbyddaieth am HIV/AIDS, wedi parhau ers ymgartrefu yn yr UDA – a’r pwyslais yn gynyddol ar achosion y menywod. Dyna’r Women’s March enwog yn 2017 a gwaith criw’r ‘Herd on the Hill’ sy’n helpu cario negeseuon brys gan bobl o bob cwr o’r UDA at ddesgiau’r gwleidyddion yn ardal y Capitol.

Yn fwy diweddar mae Ann wedi dod i amlygrwydd fel y ddolen gyswllt rhwng Cymru a’r UDA yng nghyswllt hanes deiseb ryfeddol menywod Cymru .. a’i braint hi fydd dweud gair ymhellach am hynny.

Ydym, rydym yn ei chroesawu hi yma heddiw fel Darpar Lywydd Undeb Cymru’r Byd, ond yn bennaf oll fel ffrind i’r Brifysgol ac i’r Dref ac un a fydd, mi wn, yn gallu rhoi gair doeth i’ch ysbrydoli chi y myfyrwyr a gwir sêr ein sioe ni heddiw.

Ddirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Ann Griffith i chi yn Gymrawd.  

Cyflwynwyd Ann Griffith fel Cymrawd er Anrhydedd gan Yr Athro Mererid Hopwood, Athro y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd


Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2023

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i nifer fach o unigolion nodedig er mwyn cydnabod eu cyflawniad a’u cyfraniad rhagorol.

Mae gwobrau Prifysgol Aberystwyth yn dathlu unigolion sydd â gwreiddiau neu gysylltiadau yn yr ardal, ac sydd naill ai: wedi gwneud cyfraniad eithriadol ac arbennig i ddatblygiad y Brifysgol dros gyfnod maith; wedi ennill cydnabyddiaeth am ragoriaeth genedlaethol neu ryngwladol mewn maes academaidd sy’n berthnasol i’r Brifysgol; neu wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r byd diwylliannol, academaidd, addysgol, proffesiynol, neu economaidd.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2023 (yn y drefn y’u cyflwynir):

  • Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Tina Evans, awdur blogiau ac areithwraig lawn ysbrydoliaeth 'Human on Wheels', a chyflwynydd teledu
  • Ben Thompson, Rhaglennydd Ffilmiau Byrion yng Ngŵyl Tribeca, Efrog Newydd
  • Ann Griffith, Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol 2022
  • Yr Athro Dato' Dr Rahmat Mohamad, Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Dechnolegol MARA, Malaysia
  • Kate O'Sullivan, milfeddyg gyda Mill Referrals, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a gwirfoddolwr gyda Chymdeithas Filfeddygol Anifeiliaid Bach Prydain
  • Phil Thomas, milfeddyg, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a Chyfarwyddwr Iechyd Da
  • Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn ohebydd pêl-droed BBC Cymru.