Milfeddyg Aberystwyth, Phil Thomas, yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd

Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Dr Kate O’Sullivan

Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Dr Kate O’Sullivan

20 Gorffennaf 2023

Mae Phil Thomas, Cyfarwyddwr Milfeddygfa Ystwyth yn Aberystwyth wedi’i gwneud yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd Phil ei eni a’i fagu yn Aberystwyth, ac yma hefyd y cafodd ei addysg, cyn mynd ymlaen i astudio i’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yn Llundain.

Bu'n gweithio mewn milfeddygfeydd cymysg yn Llanymddyfri a Phen-y-bont ar Ogwr tan 1991. 

Yna treuliodd dair blynedd yn helpu i ddatblygu gwasanaethau milfeddygol yn Battambang, un o daleithiau gorllewinol Cambodia, drwy’r Gwasanaethau Gwirfoddol Dramor.

Ar ôl dychwelyd bu'n gweithio mewn sawl milfeddygfa gymysg cyn dychwelyd i Aberystwyth a chael swydd ym Milfeddygfa Ystwyth, lle’r aeth ymlaen i fod yn bartner ac yn ddiweddarach yn gyfarwyddwr, gan rannu swydd gyda'i bartner, Dr Kate O’Sullivan, wrth iddynt fagu pedwar o blant.

Mae wedi ymwneud â nifer o grwpiau lleol a milfeddygol, gan gynnwys fel cyfarwyddwr Iechyd Da, un o’r partneriaid sy'n darparu gwasanaethau milfeddygol i lywodraethau'r DU a Chymru. Trwy gyfrwng y swydd hon, bu'n ymwneud â Phrifysgol Aberystwyth i sefydlu Canolfan Milfeddygaeth Cymru ar hen safle’r Ganolfan Ymchwil Filfeddygol yn Aberystwyth.

Mae wedi cynorthwyo i gyfweld, dysgu, arholi a mentora myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyflwynwyd Phil Thomas fel Cymrawd er Anrhydedd gan Sharon King, Darlithydd mewn Gwyddor Milfeddygol yn Adran Gwyddorau Bywyd, ddydd Iau 20 Gorffennaf 2023.

Mae’r cyflwyniad llawn ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyno Phil Thomasgan Sharon King:

Cadeirydd y Cyngor, Dirprwy Is-Ganghellor,  graddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Phil Thomas yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chair of Council, Pro Vice-Chancellor, graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Phil Thomas as a Fellow of Aberystwyth University.

Dwi’n nabod Phil, a’i deulu ers mwy o flynyddoedd na hoffwn gofion, yn mynychu yr un ysgol gynradd, yr un coleg milfeddygol, gweld practis yn yr un filfeddygfa a dychwelyd i weithio yn yr un ardal....... wir yr Phil, dwi ddim ar eich trywydd!! Ganed, magwyd ac addysgwyd Phil yn lleol cyn iddo raddio gyda BVetMed o’r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC), yn Llundain ym 1987. Yna fe ddysgodd ei grefft yn gweithio mewn milfeddygfeydd yn Llanymddyfri a Phen-y-bont ar Ogwr cyn gweithio fel Swyddog Gwasanaeth Gwirfoddol i Weinidogaeth Amaeth Cambodia o 1991-94, yn gweithio yno i ddatblygu gwasanaethau milfeddygol ym Mattambang, un o daleithiau gorllewinol Cambodia. Ar ei ddychwelyd, fe weithiodd mewn amryw o filfeddygfeydd anifeiliaid cymysg, cyn dychwelyd a setlo yn ei dref gartref, ble ddaeth yn bartner ac yn ddiweddarach yn gyfarwyddwr yng Ngrŵp Milfeddygol Ystwyth (Ystwyth Vets). Mae wedi helpu i fagu pedwar o blant gyda’i wraig Kate ynghyd â’r ddau ohonynt yn dod yn sêr y teledu ar gyfres teledu Cymraeg, S4C, ‘Y Fets’ gan ddangos bod angen i gyfarwyddwyr weithiau fopio’r lloriau!

In 2012, or there abouts, it may not be common knowledge, but Phil wrote an email, stating his dream for the Agricultural and Veterinary Industries in Wales. This dream was to once again see a Welsh veterinary diagnostic laboratory in Aberystwyth following the closure of the government Veterinary Investigation Centre along with the first Welsh Veterinary School, educating the vets of the future here in Wales, thus placing Aberystwyth on the map as a centre of excellence for animal health in Wales. Not long after, in 2014/15, following involvement with many local veterinary groups and becoming one of the directors of Iechyd Da, one of the delivery partners delivering veterinary services to the UK and Welsh governments, Phil was instrumental along with Aberystwyth University in setting up the Wales Veterinary Science Centre at the site of the closed veterinary investigation centre on the Buarth here in Aberystwyth.

Yna yn 2021, gwelwyd agoriad swyddogol Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth, diweddglo misoedd a blynyddoedd o waith caled gan amryw unigolion a chyn-ddeiliaid, gyda Phil yn un o’r cefnogwyr mwyaf blaenllaw. Yng ngeiriau Phil ei hun fel “middling wannabe poet”, a rhan o dim Talwrn Talybont, fe ysgrifennodd englyn goffa i ddathlu agoriad yr Ysgol:

Yma trig gweledigaeth, yn aelwyd

coleg milfeddygaeth.

Nid fe ddaw, ond fe a ddaeth

ein goriad i ragoriaeth

gyda’r plac coffa yn cymryd ei le yn y Ganolfan Addysg Filfeddygol. Ers hynny, mae Phil wedi cynorthwyo gyda chyfweliadau ac arholi drwy gyfrwng y Gymraeg a mentora myfyrwyr milfeddygol yn yr ysgol filfeddygol.

Phil’s passion, determination, contribution and dedication to his vision, proves that dreams can and really do come true!

Dyn ei fro, â barn gadarn,

Cymro, a chefn gwlad ei lwyfan,

Addysg yw ffrwyth ei winllan,

A’i gyd-ddyn yn sail i’w anian.

Cadeirydd y Cyngor, Dirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Phil Thomas i chi yn Gymrawd. 

Chair of Council, Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Phil Thomas to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Yr Athro Neil Glasser (Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Ddaear a Bywyd), Phil Thomas (Cymrawd Anrhydeddus), Dr Emyr Roberts (Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth)

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2023

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i nifer fach o unigolion nodedig er mwyn cydnabod eu cyflawniad a’u cyfraniad rhagorol.

Mae gwobrau Prifysgol Aberystwyth yn dathlu unigolion sydd â gwreiddiau neu gysylltiadau yn yr ardal, ac sydd naill ai: wedi gwneud cyfraniad eithriadol ac arbennig i ddatblygiad y Brifysgol dros gyfnod maith; wedi ennill cydnabyddiaeth am ragoriaeth genedlaethol neu ryngwladol mewn maes academaidd sy’n berthnasol i’r Brifysgol; neu wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r byd diwylliannol, academaidd, addysgol, proffesiynol, neu economaidd.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2023 (yn y drefn y’u cyflwynir):

  • Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Tina Evans, awdur blogiau ac areithwraig lawn ysbrydoliaeth 'Human on Wheels', a chyflwynydd teledu
  • Ben Thompson, Rhaglennydd Ffilmiau Byrion yng Ngŵyl Tribeca, Efrog Newydd
  • Ann Griffith, Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol 2022
  • Yr Athro Dato' Dr Rahmat Mohamad, Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Dechnolegol MARA, Malaysia
  • Kate O'Sullivan, milfeddyg gyda Mill Referrals, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a gwirfoddolwr gyda Chymdeithas Filfeddygol Anifeiliaid Bach Prydain
  • Phil Thomas, milfeddyg, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a Chyfarwyddwr Iechyd Da
  • Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn ohebydd pêl-droed BBC Cymru.