Lleisiau’r Pridd - perfformiad 24-awr gan Miranda Whall

Credyd llun: Ashley Calvert

Credyd llun: Ashley Calvert

02 Awst 2023

Bydd Miranda Whall, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn artist, yn 'rhoi llais i'r pridd' yn rhan o brosiect arloesol sy'n dangos sut y gall celf godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd.

Mewn perfformiad 24 awr yn ystod penwythnos 12-13 Awst, bydd Miranda yn ffrydio'n fyw o ffos fry ym mynyddoedd yr Elenydd.

Mae'r ffos y mae hi ei hun wedi’i chloddio wedi’i lleoli tua 600 metr uwchlaw lefel y môr, ar y llwyfandir a elwir y Ffridd, sy’n cael ei reoli gan Ganolfan Ymchwil yr Ucheldir Prifysgol Aberystwyth, Pwllpeiran.

Ar yr awr, bob awr, bydd Miranda yn ceisio lleisio llif byw, parhaus o ddata rhifiadol o synwyryddion yn y tir o’i hamgylch, sy’n mesur y newidiadau yn lleithder a gwres y pridd.

Fel y mae Miranda Whall yn esbonio:

“Diben y prosiect hwn yw helpu cynulleidfaoedd ehangach a phobl nad ydynt yn wyddonwyr i ddod yn rhan o’r sgwrs am reoli tir ac am newid yn yr hinsawdd. Fy nghyfraniad i, yr artist, yw cynnig safbwynt newydd ar yr ymchwil wyddonol a hynny’n llythrennol drwy osod fy nghorff yn y tir er mwyn ymgorffori’r pridd a rhoi llais iddo.   Byddaf yn delweddu a chyflwyno’r data o’r synwyryddion yn y pridd mewn ffordd sy’n mynd y tu hwnt i ystadegau traddodiadol, er mwyn ceisio rhoi ystyr ehangach a mwy o effaith iddo.

Mae ‘Lleisiau’r Pridd’ yn rhan o brosiect arloesol dan nawdd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) sy’n pontio sawl disgyblaeth academaidd dan y teitl ‘Making the invisible visible: Instrumenting and interpreting an upland landscape for climate change resilience.’

Ymhlith yr academyddion eraill o Brifysgol Aberystwyth sy'n rhan o'r prosiect mae'r Athro Mariecia Fraser o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig; yr Athro Andrew Thomas o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; yr Athro Fred Labrosse o'r Adran Gyfrifiadureg; a Dr Pete Todd o'r Adran Fathemateg.

Yn ôl Mariecia Fraser, sy’n Athro Ecosystemau Amaethyddol yr Ucheldir:

"Mae ein hucheldiroedd yn wynebu heriau lawer. Wrth i’r glawiad a dwysedd y glaw gynyddu, ar yr un pryd â’r cynnydd yn y cyfnodau o sychder a thymereddau uwch, mae hi’n fwy tebygol y ceir tanau llystyfiant, erydiad pridd a llifogydd ac y gwelir gostyngiad yn y carbon sydd yn y pridd. Fodd bynnag, mae'r ucheldiroedd yn hanfodol bwysig er mwyn cynnal bywoliaethau amaethyddol, yn ogystal â chynnal (a chynyddu) eu bioamrywiaeth, a’r carbon a’r dŵr y maent yn eu storio. Nod y prosiect hwn yw tynnu sylw at yr heriau lu sy'n wynebu ein hucheldiroedd a chynnig safbwynt newydd arnynt."

Darlledir y ffrwd fyw o 3pm ddydd Sadwrn 12 Awst tan 3pm ddydd Sul 13 Awst ar dudalen Facebook Miranda Whall: https://www.facebook.com/whallmiranda

Cefnogwyd y prosiect gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, Prifysgol Aberystwyth a'r Asiantaeth Datblygu Celf Fyw.