Prifysgol Aberystwyth ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Bae Ceredigion

Bae Ceredigion

07 Awst 2023

Can mlynedd o ddarlledu yng Nghymru, sut y gall twristiaeth gefnogi’r Gymraeg, yr heriau a’r cyfleodd sy’n wynebu pobl ifanc wrth ymgyrchu’n wleidyddol a dyfodol cyfansoddiadol Cymru, dyma rai o’r pynciau fydd yn cael sylw ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon.

Yn ogystal mi fydd cyfle i wrando ar rhai o feirdd amlycaf Cymru’n trafod barddoniaeth wrth i Bodlediad Clera gael ei recordio’n fyw yno brynhawn Mawrth, a chlywed beth sy’n gwneud darn da i’w lefaru wrth i ddarpar Archdderwydd Cymru ymuno mewn trafodaeth ar beth ddylai beirdd a llenorion fynd ati i’w greu ar gyfer llefarwyr brynhawn dydd Iau.

Ganol dydd ddydd Mercher mi fydd y stondin yn lwyfan i lansiad cyfrol deyrnged yr Athro Emeritws Gruffydd Aled Williams, Penrhaith ein Heniaith Ni, yng nghwmni’r gŵr ei hun a golygyddion y gyfrol T. Robin Chapman a Bleddyn Owen Huws o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.

Ac wrth gwrs mi fydd cyfle i wylio rhai o brif seremoniau’r Ŵyl ar y stondin, ac ymuno yn hwyl aduniad blynyddol poblogaidd y cyn-fyfyrwyr am 2 o’r gloch brynhawn Mercher.

Yn ogystal â rhaglen lawn o ddigwyddiadau, Prifysgol Aberystwyth yw noddwr Maes B unwaith eto eleni.


Prifysgol Aberystwyth ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023

Dydd Llun 7 Awst

11:00 Addysg, Amser a Lle

Ymchwil diweddar ar faterion cyfoes yn y byd addysg yng Nghymru gan yr Ysgol Addysg, Prifysgol Aberystwyth.

  • Dr Rhodri Aled Evans: ‘Trosglwyddo mewn Pandemig: profiadau disgyblion a rhieni o gartrefi di-Gymraeg o drosglwyddo i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.’
  • Dr Lucy Trotter: ‘Profiadau rhieni sengl a oedd yn astudio mewn prifysgolion y DU yn ystod y pandemig COVID-19.’
  • Dr Delyth Jones: ‘Pam fod disgyblion uwchradd yng Nghymru yn dewis astudio Ieithoedd Tramor Modern fel pwnc TGAU?’
  • Dr Andrew James Davies: ‘Pobl ifanc fel dewiswyr strategol: gwerthuso’r dystiolaeth am addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg.’

15:20 Ysbryd y Frwydr: Dathlu 20 mlynedd o Wobr Ifor Davies
Cyhoeddir enillydd y wobr eleni yn Y Lle Celf ac yn parhau'r digwyddiad 'Dathlu 20 mlynedd o Wobr Ifor Davies' ym mhabell Prifysgol Aberystwyth gyda dangosiad ffilm gan Pete Telfer, a sgyrsiau anffurfiol gan gyn-enillwyr y wobr.


Dydd Mawrth 8 Awst

11:00 Cafflogion a Garn Fadryn: Tirwedd Dychymyg R. Gerallt Jones

Trafodaeth ar nofel wyddonias R. Gerallt Jones, Cafflogion (enillydd y Fedal Ryddiaith ym 1979) a’i chyswllt ag ardal ei febyd, sef pentref Llaniestyn a mynydd Carn Fadryn (y medrir ei weld o Faes yr Eisteddfod)

15:00 100 mlynedd o ddarlledu yn Nghymru

Mae’r BBC yn dathlu canrif o ddarlledu yng Nghymru eleni. Fe fydd y ddarlith hon yn cloriannu cyfraniad y Gorfforaeth i fywyd Cymru ers 1923.

16:30 Podlediad Clera

Dewch i wylio rhan o bodlediad Clera'n cael ei recordio'n fyw gydag Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Gruffudd Antur a gwesteion arbennig.

 

Dydd Mercher 9 Awst

10:00 Sgwrs gyda thîm Tystysgrif Addysg i Raddedigion Prifysgol Aberystwyth

Dewch am sgwrs ac i gyfarfod aelodau o’r tîm i ddarganfod mwy am y cwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion).

11:00 Cymru, Daearyddiaeth, a Hanes Gwyddoniaeth - Darlith Flynyddol EG Bowen

Roedd Emrys George Bowen FRGS, FSA (28 Rhagfyr 1900 – 8 Tachwedd 1983) yn ddaearyddwr o fri rhyngwladol oedd â diddordeb arbennig yn naearyddiaeth ffisegol a daearyddiaeth gymdeithasol Cymru. Traddodir y ddarlith flynyddol hon gan ymchwilydd disglair o’r Brifysgol lle y bu Bowen yn darlithio o’r 1920au hyd at ei farwolaeth yn 1983, sef Prifysgol Aberystwyth.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Cymdeithasau 1

11:30 Lansiad cyfrol deyrnged yr Athro Emeritws Gruffydd Aled Williams, Penrhaith ein Heniaith Ni

Lansiad cyfrol deyrnged yr Athro Emeritws Gruffydd Aled Williams, Penrhaith ein Heniaith Ni, yng nghwmni Aled a golygyddion y gyfrol, T. Robin Chapman a Bleddyn Owen Huws o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol. Cadeirir y digwyddiad gan Mererid Hopwood a bydd Alaw Mai Edwards yn bresennol ar ran Gwasg Atebol. Bydd cyfle i brynu copïau ar y diwrnod a chwrdd â rhai o’r cyfranwyr.

11:30 Darlith Goffa J O Williams
Yr Athro Andrew Evans, Pennaeth yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth fydd yn crynhoi gwaith ymchwil yr Athro J O Williams, un o wyddonwyr dalgylch yr Eisteddfod, a’r datblygiadau yn y maes ers hynny.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Y Sfferen, ardal Gwyddoniaeth a Thechnoleg

14:00 Aduniad Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Dydd Iau 10 Awst

11:00 Hyfywedd cymunedau Cymraeg a Thwristiaeth - Sesiwn CWPS a CUPHAt Prifysgol Aberystwyth ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Bydd y sesiwn hon yn trafod oes ffyrdd y gall twristiaeth gefnogi cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg. Wrth edrych i’r dyfodol sut allai twristiaeth ddatblygu i gefnogi hyfywedd cymunedau Cymraeg?

13:00 Llinellau i’w llefaru

O ble daeth yr arfer o ddatgan cerddi a rhyddiaith? Beth sy’n gwneud darn yn un da i’w lefaru? A beth ddylai’n beirdd a’n llenorion fynd ati i’w greu ar gyfer y llefarwyr? Guto Dafydd yn holi Mererid Hopwood a Cefin Roberts.

15:00 Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Cyfieithu DarParu

Cyfle i ddathlu cyfieithwyr ifanc a chyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth gyfieithu i bobl ifanc 16-21 oed. Noddir y gystadleuaeth gan Ganolfan Hyfforddiant Iaith DarParu, Prifysgol Aberystwyth.

 

Dydd Gwener 11 Awst

10:00 - 18:00          Gweithgareddau Nyrsio

Dewch draw i’r stondin i gyfarfod a’n staff Nyrsio, a chael cyfle i fesur eich pwysedd gwaed a llawer mwy.

11:00 Ymgyrchu ymysg pobl ifanc Sesiwn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth

Beth yw'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc wrth ymgyrchu'n wleidyddol? Oes rhywbeth penodol Cymreig am yr ymgyrchu a welir ymysg pobl ifanc? Trafodaeth banel gyda myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.  

12:00 Deall 'Cenedlaetholdeb y Tlawd': Trafodaeth banel

Sesiwn Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth

Trafod y syniad o 'Genedlaetholdeb y Tlawd' a’i effaith ar strategaethau mudiadau cenedlaetholgar. Trafodir canfyddiadau prosiect IMAJINE arweiniwyd gan Brifysgol Aberystwyth am Gymru a Chorsica a chael ymateb arbenigwyr o brifysgolion Bangor a Chaerdydd.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Cymdeithasau 1

13:30-14:30 (Dyfodol Cyfansoddiadol ar y stondin drwy’r dydd)

Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru: Sgwrs gyda’r Dr Anwen Elias a’r Athro Laura McAlister

Sesiwn Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth ar y cyd â'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Cyfle i glywed a thrafod y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan y Comisiwn hyd yn hyn gan gynnwys yr opsiynau a nodir yn yr adroddiad a’r ymgyrch ymgysylltu barhaus i glywed gan bobl ledled y wlad.

14:30 Aduniad Haf UMCA

Cyfle i fyfyrwyr cyfredol UMCA rannu eu straeon am holl anturiaethau’r haf. Band Bwca yn perfformio’n fyw ar y stondin.

Mae’r rhaglen lawn i’w gweld hefyd ar wefan Prifysgol Aberystwyth – cliciwch yma ac ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf PDF yma.