Datgloi cyfrinach atal mewnfridio mewn planhigion a thaflu goleuni ar Darwin

Dr Danny Thorogood, Prifysgol Aberystwyth

Dr Danny Thorogood, Prifysgol Aberystwyth

16 Awst 2023

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi helpu i adnabod y genynnau sy’n atal planhigion rhag bridio â glaswelltau sy’n perthyn yn agos, gan gynnig cyfle i ddatblygu mathau gwell o reis, ŷd, siwgr a gwenith.

Yn debyg i blanhigion eraill sy’n blodeuo, mae glaswelltau wedi esblygu mecanwaith sy’n eu rhwystro rhag bridio â’u hunain gan atal paill planhigyn sy’n cael ei osod ar ei stigma ei hun rhag ffurfio hedyn.

Am y tro cyntaf, mae astudiaeth academaidd, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn y cyfnodolyn Molecular Biology and Evolution, wedi adnabod y genynnau sy’n gyfrifol am y mecanwaith hwn - yr hyn mae arbenigwyr yn ei alw’n ‘hunan-anghydnawsedd’.

Mae gwyddonwyr Aberystwyth nawr yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid arweiniol yn Athro Technegol Ffederal y Swistir yn Zürich, dan arweiniad yr Athro Bruno Studer. Maen nhw’n astudio mewn mwy o fanylder y prosesau perthnasol ac yn pennu a fyddai’n briodol eu defnyddio i wella bridio planhigion cnydau glaswellt pwysig eraill.

Cafodd hunan a chroes-beillio ei ddiffinio a’i gyhoeddi dros ganrif yn ôl yn “The Effects of Cross and Self-Fertilisation in the Vegetable Kingdom” gan Charles Darwin ym 1878 yn dilyn cyhoeddi ei ddamcaniaeth chwyldroadol am esblygiad yn ‘On the Origin of Species’ ym 1859.

Yn y 1960au, darganfu gwyddonwyr y bod hunan-anghytunedd mewn nifer o laswelltau gan gynnwys rhygwellt a peisgwellt y ddôl, yn cael ei reoli mewn dwy ardal enynnol ar wahân. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau technolegol ar y pryd nid oedd modd iddyn nhw bennu pa enynnau penodol.

Mae’r ymchwil newydd a gyhoeddwyd eleni gan dîm o academyddion rhyngwladol, a arweiniwyd gan yr Athro Technegol Ffederal a Dr Danny Thorogood o Brifysgol Aberystwyth, bellach wedi llwyddo adnabod y genynnau mewn rhygwellt, gan ei ddefnyddio fel model er mwyn dod i gasgliad ynghylch sut mae hunan-anghytunedd yn gweithio yn y teulu glaswellt cyfan.

Gallai'r canfyddiadau newydd ei gwneud hi'n haws datblygu mathau gwell o reis, ŷd a chnydau eraill oherwydd ei fod yn agor cyfleoedd newydd i groesfridio.

Dywedodd Dr Danny Thorogood o IBERS, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae hwn yn ddatblygiad pwysig iawn mewn maes yr ymrwymodd Charles Darwin ei fywyd iddo. Dim ond yn y blynyddoedd diwethaf y mae technoleg wedi'i gwneud hi'n bosibl dilyniannu genom cyfan organeb unigol yn effeithlon ac yn gyflym. Credir mai darganfyddiad y gennyn S a Z hwn, sy'n allweddol i hunan-anghytunedd a chroesbeillio yn nheulu'r glaswellt, yw’r hyn sy’n achosi’n esblygiadol amrywiaeth enetig drawiadol sy’n cael ei weld ar draws holl anifeiliaid a phlanhigion y blaned.

“Mae’r canfyddiadau hyn hefyd yn agor posibiliadau bridio newydd a gallai fod o fudd mawr i bobl gyda gwell gwenith, reis a phrif gnydau eraill y teulu glaswellt. Mae’n hynod ddiddorol bod arsylwadau a damcaniaethau Darwin o dros ganrif a hanner yn ôl yn dal i’n hysbrydoli ni heddiw i wneud darganfyddiadau newydd a phwysig fel hyn.”