Prifysgol Aberystwyth yn dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn

Credyd llun: Ambiwlans Awyr Cymru

Credyd llun: Ambiwlans Awyr Cymru

07 Medi 2023

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn y Brifysgol ar gyfer 2023-24.

Bellach yn ei unfed flwyddyn ar ddeg, mae apêl Elusen y Flwyddyn y Brifysgol yn darparu ffocws codi arian i staff a myfyrwyr, sy'n codi arian i'r elusen a ddewisir trwy weithgareddau a digwyddiadau yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

"Mewn cymunedau gwledig fel Ceredigion, mae'r gwasanaeth a ddarperir gan Ambiwlans Awyr Cymru yn hanfodol.  Bydd yn bleser codi arian i achos mor deilwng, ac i chwarae rhan fach i helpu i sicrhau bod ei hofrenyddion a'i cherbydau ymateb brys yn gallu parhau i ymateb i ddigwyddiadau ac achub bywydau."

Dywedodd Siany Martin, Codwr Arian Corfforaethol yn Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:

"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis fel Elusen y Flwyddyn Prifysgol Aberystwyth. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn brawf o gefnogaeth ddiysgog myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth, ac mae'n golygu cymaint i ni yn elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

"Yn Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, rydym yn darparu'r lefel uchaf o ofal critigol i bobl Cymru. Gyda dros 46,000 o gyrchoedd wedi'u cwblhau a phresenoldeb 24/7, 365 diwrnod ledled Cymru, rydym yn ymrwymedig i fod yno i'n cymunedau pryd bynnag a ble bynnag y mae ein hangen arnynt.

"Rydym yn dibynnu'n llwyr ar eich rhoddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb brys ar y ffyrdd ledled Cymru, i arbed amser gwerthfawr ac achub bywydau. Hoffwn ddiolch i Brifysgol Aberystwyth am gredu yn ein cenhadaeth ac am ymuno â ni ar yr antur hon sy'n achub bywydau."